Neidio i'r prif gynnwy

Cymru'n arwain y gad o ran datblygu mesurau ar gyfer profiadau a chanlyniadau sy'n cael eu hadrodd gan gleifion strôc a'r rheini sy'n cael eu hadsefydlu

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth lansio'r Datganiad Cynnydd Blynyddol ar Gyflyrau Niwrolegol, dywedodd Vaughan Gething:

"Does yr un wlad arall yn y DU wedi ceisio mesur profiadau a chanlyniadau cleifion sy'n dioddef o strôc a chyflyrau niwrolegol.  

"Y nod yw datblygu Mesur Profiadau a Adroddwyd gan Gleifion a Mesur Canlyniadau a Adroddwyd gan Gleifion y mae modd eu gweinyddu, eu casglu a'u coladu ar lefel genedlaethol. 

"Byddwn yn parhau i ddatblygu a gwerthuso'r mesurau ansawdd uchel hyn dros y flwyddyn nesaf a byddwn yn defnyddio'r data hyn i nodi lle mae angen gwella gwasanaethau, gwerthuso newidiadau i'n gwasanaethau a mesur gwelliannau dros amser." 

Nod y Mesur Canlyniadau a Adroddwyd gan Gleifion yw dod i wybod beth yw teimladau cleifion am eu symptomau, eu gallu i weithredu a sut y mae eu hiechyd yn effeithio ar ansawdd eu bywyd. 

Bydd y Mesur Profiadau a Adroddwyd gan Gleifion yn dod i wybod beth yw teimladau cleifion am eu gofal, cael eu trin ag urddas a pharch, effaith arnynt yn bersonol oherwydd unrhyw oedi cyn cael triniaeth a mesur y rhain yn erbyn eu disgwyliadau. 

Mae'r datganiad cynnydd hefyd yn amlinellu: 

  • gostyngiad graddol yn yr amser cyfartalog y mae cleifion niwrolegol yn ei dreulio yn yr ysbyty, sef o 6.4 diwrnod yn 2010-11 i 4.2 diwrnod yn 2015-16 

  • cynnydd o 65% yn y gwariant ar gyflyrau niwrolegol rhwng 2010-11 a 2014-15 i £283.7 miliwn 

  • £1.2 miliwn sydd wedi'i fuddsoddi i wella gwasanaethau niwroadsefydlu ar hyd a lled Cymru. 
Dywedodd Vaughan Gething: 

"Mae angen i nifer cynyddol o bobl ddefnyddio gwasanaethau niwrolegol, ac mae byrddau iechyd yn gwella'r gwasanaethau maent yn eu cynnig. Rwy'n benderfynol y byddwn ni'n parhau i weithio i wella gofal i gleifion niwrolegol a bydd y mesurau hyn yn dod yn rhan allweddol o'r gwaith hwn."