Neidio i'r prif gynnwy

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i warantu cyllid parhaus er mwyn i blant barhau i dderbyn prydau ysgol am ddim drwy gydol gwyliau’r haf fel ymateb i bandemig y coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw (dydd Mercher, Ebrill 22) mae’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi cadarnhau y bydd pob plentyn sy’n gymwys yn derbyn swm cyfatebol i £19.50 yr wythnos.

Gyda chefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £33m ar gael i helpu awdurdodau lleol i barhau i ddarparu prydau ysgol am ddim.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i warantu cyllid ac arweiniad ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim nes bod ysgolion yn ailagor neu tan ddiwedd mis Awst.

Pan gyhoeddodd y Gweinidog Addysg y byddai ysgolion yn cau ar gyfer dosbarthiadau arferol ar Fawrth 18, cadarnhaodd y byddai £7m ar gael i awdurdodau lleol i ddarparu trefniadau ar gyfer prydau ysgol am ddim.

Ar ôl mis o awdurdodau lleol yn darparu prydau ysgol am ddim i gymunedau ledled Cymru, ac yn dilyn adolygiad o’r posibilrwydd o fabwysiadu cynllun talebau cenedlaethol, dywedodd y Gweinidog Addysg mai’r ffordd ymlaen i Gymru oedd i’r awdurdodau lleol benderfynu beth sy’n gweithio orau i’w cymunedau lleol.

Dywedodd y Gweinidog Addysg:

“Mae gennym ni hyder yn y ffordd mae awdurdodau lleol wedi ymateb yn gyflym i’r argyfwng yma ac rydym yn ymwybodol bod y dulliau gweithredu lleol yn gweithio’n dda.

“Ar ôl ystyried a fyddai cynllun talebau cenedlaethol yn gweithio, rydym wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’r dull hwnnw o weithredu.

“Rwy’n falch o gadarnhau y byddwn yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol, yn ariannol a thrwy gyfarwyddyd adolygedig, i ddarparu atebion lleol tra mae’r ysgolion yn parhau ar gau.

“Gallaf gadarnhau y byddwn yn darparu £33m i alluogi awdurdodau lleol i barhau â’r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim nes bod yr ysgolion yn ailagor neu hyd at ddiwedd mis Awst.”

Mae’r cadarnhad gan y Gweinidog yn golygu mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i ddarparu sicrwydd parhaus i gefnogi teuluoedd yn ystod gwyliau’r ysgol dros yr haf.

Yn y cyfarwyddyd adolygedig sydd wedi’i roi i awdurdodau lleol, mae Llywodraeth Cymru yn amlinellu tri opsiwn ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim sy’n gofyn am gyn lleied â phosib o ryngweithio cymdeithasol:

  • Darparu talebau
  • Dosbarthu eitemau bwyd i deuluoedd disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim
  • Trosglwyddo cyllid i gyfrifon banc teuluoedd sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (taliadau BACS)

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir y Fflint), Siaradwr Addysg CLlLC:

“Mae awdurdodau lleol wedi gweithredu ar frys i sicrhau bod trefniadau yn eu lle i ddarparu prydau ysgol am ddim i deuluoedd cymwys. Rydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu pecyn ariannol sy’n golygu y bydd awdurdodau lleol yn gallu parhau i ddarparu’r gefnogaeth hon drwy gydol gwyliau’r ysgol dros yr haf neu nes bydd yr ysgolion yn ailagor.”

I gael gwybod sut bydd eich cyngor lleol yn darparu prydau ysgol am ddim, defnyddiwch y swyddogaeth chwilio am god post yma: https://llyw.cymru/prydau-ysgol-am-ddim-canllawiau-coronafirws-i-ysgolion

Os ydych chi’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ond nad ydych yn eu derbyn eto, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.