Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r datganiad yn dod wrth i ffigurau ddangos bod y Ffurflen Cais Sengl 'ar-lein yn unig' gyntaf erioed ar gyfer y PAC wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda 16,252 o geisiadau wedi cyrraedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r datganiad yn dod wrth i ffigurau ddangos bod y Ffurflen Cais Sengl 'ar-lein yn unig' gyntaf erioed ar gyfer y PAC wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda 16,252 o geisiadau wedi cyrraedd erbyn y dyddiad cau ar 16 Mai.

Mae ffermwyr yn llenwi'r SAF i hawlio taliadau Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) y PAC a thaliadau datblygu gwledig sy'n seiliedig ar arwynebedd. Diben y system ar-lein yw darparu gwasanaeth modern newydd i fusnesau ffermio, gan symleiddio a gwella'r broses a'r mynediad at wybodaeth.

Mae Cymru'n arwain y ffordd yn y DU fel yr unig wlad i ofyn am ei holl geisiadau ar-lein.

Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gweledig, rwy'n edrych ymlaen at arwain y gwaith sy'n effeithio ar bob cwr o Gymru - o wella ansawdd yr aer rydyn ni'n ei hanadlu i ddatblygu sector bwyd a diod o'r radd flaenaf.

"Rwy'n cydnabod arwyddocâd y diwydiant ffermio i gymunedau Cymru, ein hadnoddau naturiol ac i gryfder economi ein gwlad.  Mae 80% o arwynebedd ein tir yn cael ei reoli gan y sector ffermio ac mae'r sector hwnnw'n darparu ystod eang o nwyddau a gwasanaethau i gymdeithas. Iddyn nhw mae’r diolch am ansawdd ein tirluniau a'n diwydiant bwyd a diod ffyniannus, sy'n cyfrif am dros 17% o'r swyddi yng Nghymru.

"Mae symud i geisiadau SAF ar-lein yn rhan fawr o'n hymgyrch i foderneiddio'r gwasanaethau a ddarparwn i'r gymuned ffermio. Mae'n lleihau biwrocratiaeth ac yn gwneud y defnydd gorau o'r dechnoleg newydd gan olygu bod ceisiadau'n cael eu prosesu’n gyflymach ac yn fwy effeithlon. Mae'r system hon yn rhoi mwy o amser i ffermwyr allu canolbwyntio ar y gwaith ffermio.

“Mae undebau ffermwyr ac asiantau wedi ein helpu'n fawr yn hyn o beth drwy roi cymorth i lawer o ffermwyr wrth iddynt lenwi eu ceisiadau. Rwy'n ddiolchgar iddynt am ein helpu i wneud system RPW Ar-lein mor llwyddiannus."

Yn ogystal â gweithio gydag undebau’r ffermwyr, rhoddodd Taliadau Gwledig Cymru (RPW) gymorth un i un estynedig i 1,680 o ffermwyr, gyda chyfarfodydd yn digwydd mewn chwech o swyddfeydd RPW ledled Cymru.  Mae’r adborth gan fusnesau ffermio sydd wedi cymryd mantais o’r cymorth ychwanegol a gynigwyd gan RPW wedi bod yn hynod bositif.  

Hefyd, mae’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid wedi helpu miloedd o ffermwyr dros y ffôn, gyda thros 12,000 o alwadau yn y mis diwethaf yn unig, ac maent wedi agor am gyfnod hwy yn y bythefnos ddiwethaf i fodloni anghenion y cwsmeriaid.