Bydd y tîm e-chwaraeon cyntaf erioed o Gymru yn mynd i Bencampwriaeth E-chwaraeon Gemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham i gystadlu yn y prif ddigwyddiad cychwynnol mawreddog, diolch i gymorth gan asiantaeth Cymru Greadigol Llywodraeth Cymru.
Mae E-chwaraeon yn fath o gystadleuaeth gan ddefnyddio gemau fideo sy’n cael eu chwarae’n gystadleuol ar gyfer gwylwyr, fel arfer gan chwaraewyr proffesiynol.
Mae E-chwaraeon yn ddiwydiant sy'n tyfu. Mae'n rhoi cyfle i bobl o bob gallu gymryd rhan mewn ystod eang o gystadlaethau, gan roi cyfle iddynt ddatblygu sgiliau newydd a meithrin sgiliau sydd ganddynt eisoes.
Mae Esports Cymru, y corff dielw o Gymru ar gyfer gemau cystadleuol a llawr gwlad, yn mynd i Bencampwriaeth E-chwaraeon y Gymanwlad yr haf hwn, ymysg ymwybyddiaeth gynyddol o raddfa a photensial y diwydiant newydd hwn.
Bydd y gystadleuaeth yng Ngemau'r Gymanwlad, sy'n cael ei chynnal rhwng 6 a 7 Awst, yn cynnwys athletwyr E-chwaraeon o’r radd flaenaf o bob rhan o wledydd y Gymanwlad, gyda thimau Esports Cymru yn cystadlu mewn chwe chategori:
- ‘Rocket League’ Categori Agored
- ‘Rocket League’ Categori Menywod
- ‘Dota 2’ Categori Agored
- ‘Dota 2’ Categori Menywod
- ‘eFootball’
- ‘eFootball’ Categori Menywod.
Yn ddiweddar, cadarnhaodd Cymru Greadigol gyllid gwerth £25,000 i Esports Cymru i’w helpu i dyfu. Bydd y cyllid yn cefnogi’r gwaith o sefydlu cynghrair Gymreig, a fydd wedyn yn arwain at gynrychiolaeth mewn twrnameintiau yn y DU a thu hwnt.
Bydd y cyllid yn helpu i sicrhau hyfforddiant ar gyfer staff a thimau, galluogi’r gwaith o gynnal digwyddiadau newydd wyneb yn wyneb a chodi ymwybyddiaeth, a helpu i gynyddu’r aelodaeth a’r gwaith marchnata.
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:
“Mae E-chwaraeon yn ddatblygiad newydd cyffrous a chynhwysol i’r byd chwaraeon ac i Gymru. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi’r gwaith o sefydlu tîm E-chwaraeon cyntaf erioed Cymru, a fydd yn helpu’r diwydiant gemau yng Nghymru i dyfu ymhellach.
“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gefnogi tîm Cymru yn Birmingham. Pob lwc i chi i gyd!”
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Esports Cymru, Jack “Anders” Lawrence:
“Roedd yr holl waith ymarfer a wnaeth y timau yn amlwg yn ystod y broses o ennill lle gyda'r timau ‘Rocket League’ cymysg a'r timau ‘Dota 2’ cymysg yn symud drwy’r rowndiau rhagbrofol heb golli cyfres.
“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at wylio pob un o’n chwe thîm gwych yn cystadlu ym Mhencampwriaeth E-chwaraeon y Gymanwlad. Bydd yn gam gwych i E-chwaraeon Cymru a'i chymuned i fod yn rhan o ddigwyddiad o'r maint hwn.”