Sut rydyn ni’n croesawu’r rheini sydd wedi’u dadleoli gan y rhyfel drwy gynnig llety a chefnogaeth.
Cymru yn uwch-noddwr yn rhoi croeso cynnes
Mae Llywodraeth Cymru yn uwch-noddwr y cynllun Cartrefi i Wcráin. Golyga hyn y byddwn yn noddi hyd at 1,000 o Wcreiniaid er mwyn cynnig lloches a noddfa iddynt.
Byddwn yn rhoi llety, cefnogaeth a gofal iddynt yng Nghymru. Mae hyn hefyd yn cael gwared â’r angen i ymgeiswyr gael eu paru â pherson sydd wedi’i enwi cyn eu bod yn cael teithio i’r DU drwy’r system fisa.
Mae Canolfannau Croeso yn cael eu sefydlu ledled Cymru er mwyn lletya pobl pan fyddant yn cyrraedd. Wedi hyn, byddant yn symud i opsiynau llety tymor canolig ac opsiynau llety sy’n fwy hirdymor.
Bydd gwasanaethau cymorth megis gwasanaethau iechyd a chwnsela ar gael i bobl pan fyddant yn cyrraedd.
Rydym yn cydweithio’n agos ag awdurdodau lleol, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru er mwyn croesawu a chefnogi pobl sy’n cyrraedd drwy’r cynllun Cartrefi i Wcráin.