Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ei chynllun peilot ar gyfer Incwm Sylfaenol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

O 1 Gorffennaf 2022, caiff £1600 (cyn treth) ei gynnig bob mis i fwy na 500 o bobl sy’n gadael gofal yng Nghymru am ddwy flynedd, i’w cefnogi wrth iddynt gymryd y cam tuag at fywyd fel oedolion.

Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, sy’n ei lansio, a’r gobaith yw y bydd y peilot yn gosod y bobl ifanc hyn sy’n gadael gofal ar lwybr tuag at fywydau iach, hapus, llawn boddhad.

Mae ymddiriedaeth, ymreolaeth a pharch yn elfennau canolog o’r cam radical hwn. Bydd yn darparu annibyniaeth a sicrwydd i bobl sydd wedi wynebu heriau aruthrol yn ystod eu plentyndod, gan roi mwy o reolaeth iddynt a’u grymuso i wneud penderfyniadau ynghylch eu dyfodol.

Caiff y peilot gwerth £20 miliwn, a fydd yn rhedeg am dair blynedd, ei werthuso er mwyn ystyried yn ofalus ei effaith ar fywydau’r unigolion dan sylw.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt fod y cynllun yn fuddsoddiad uniongyrchol ym mywydau a dyfodol rhai o’r bobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Bydd y rheini sy’n cymryd rhan yn y peilot hefyd yn cael cyngor a chefnogaeth fel unigolion i’w helpu i reoli eu cyllid a datblygu eu sgiliau ariannol.

Bydd awdurdodau lleol yn chwarae rôl allweddol o ran eu cefnogi drwy gydol y peilot. Bydd Voices from Care Cymru hefyd yn gweithio gyda’r bobl ifanc i roi cyngor iddynt ar faterion lles, addysg a chyflogaeth, ac i’w helpu i gynllunio eu dyfodol ar ôl y peilot.

I lansio’r cynllun, cyfarfu’r Prif Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan â’r bobl sy’n cymryd rhan yn y peilot, ac â phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, i siarad am yr effaith y bydd y gefnogaeth hon yn ei chael ar fywydau.

Trafodwyd sut maent yn gobeithio y bydd y sefydlogrwydd ariannol yn rhoi’r cyfle i bobl wneud dewisiadau cadarnhaol wrth adael gofal, ac yn darparu sylfaen fwy cadarn iddynt adeiladu eu bywydau fel oedolion arni.

Dywedodd y Prif Weinidog:

Rydyn ni eisiau i’n holl bobl ifanc gael y cyfle gorau mewn bywyd a chyflawni eu potensial llawn. Y wladwriaeth yw gwarcheidwad pobl sy’n gadael gofal, ac felly mae dyletswydd gwirioneddol arni i’w cefnogi ar ddechrau eu bywyd fel oedolion.

Ein ffocws fydd agor eu byd i’w holl bosibiliadau a’u gwneud yn annibynnol ar wasanaethau wrth i’w bywydau ddatblygu.

Dyw llawer o’r rhai sy’n rhan o’r peilot yma ddim wedi cael y gefnogaeth y mae eraill, gan fy nghynnwys i fy hun, wedi bod yn ddigon lwcus i’w mwynhau wrth ddechrau ar ein llwybr i fywyd fel oedolyn.

Bydd y fenter radical hon yn gwneud mwy na gwella bywydau’r rheini sy’n cymryd rhan ynddo yn unig, ac y bydd yn dod â budd i weddill cymdeithas Cymru hefyd. Os ydym yn llwyddo gyda’r hyn rydym yn geisio ei wneud heddi, dim ond y cam cyntaf fydd hwn ar daith a fydd, o bosibl, o fantais i genedlaethau i ddod.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

Rydyn ni yng nghanol argyfwng costau byw na welwyd ei debyg, ac felly mae angen ffyrdd newydd o roi cefnogaeth i’r bobl sydd ei hangen fwyaf.

Mae ein peilot Incwm Sylfaenol yn brosiect hynod gyffrous sy’n rhoi sefydlogrwydd ariannol i genhedlaeth o bobl ifanc. Mae gormod o bobl sy’n gadael gofal yn wynebu rhwystrau enfawr wrth geisio cyflawni eu gobeithion a’u breuddwydion, ee cael cartref diogel a sefydlog, cael swydd a datblygu gyrfa foddhaol. Bydd y cynllun hwn yn helpu pobl i fyw bywyd sy’n rhydd rhag rhwystrau a chyfyngiadau o’r fath.

Fe fyddwn ni’n gwerthuso’r gwersi o’r peilot yma yn ofalus. Bydd gwrando ar bawb sy’n rhan ohono yn hollbwysig er mwyn asesu llwyddiant y prosiect, sy’n uchelgeisiol ar lefel fyd-eang. Fe fyddwn ni’n ystyried p’un a yw Incwm Sylfaenol yn ffordd effeithlon o gefnogi’r bobl mewn cymdeithas sydd fwyaf agored i niwed, ac a yw’n dod â manteision nid dim ond i’r unigolyn ei hun, ond i gymdeithas yn ehangach hefyd.

Dywedodd Tiff Evans o Voices from Care Cymru, wrth siarad ar ran pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal:

Mae hwn yn gyfle gwych i bobl sy’n gadael gofal yng Nghymru. Mae’n braf gweld eu bod nhw’n cael sylw, a bod Llywodraeth Cymru yn darparu’r cyfle yma iddyn nhw gael meithrin cyfrifoldeb, rheoli rhai rhannau o’u bywydau, a ffynnu a bod yn annibynnol yn ariannol.

Rydyn ni am ddiolch i Lywodraeth Cymru am fuddsoddi ynddyn nhw ac yn eu dyfodol, ac edrychwn ymlaen at weld newidiadau a datblygiadau eraill ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru sydd â phrofiad o fod mewn gofal er mwyn iddyn nhw gyflawni eu breuddwydion.