Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) wedi cyrraedd carreg filltir arall heddiw drwy gyrraedd cam olaf proses graffu'r Cynulliad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Bil nawr yn symud i'r pedwerydd cam, ac mae trafodaeth a phleidlais derfynol ar y ddeddfwriaeth wedi'u trefnu ar gyfer dydd Mawrth 28 Ionawr. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio o blaid neu yn erbyn pasio'r Bil.

Os caiff y Bil Gydsyniad Brenhinol, caiff ei wneud yn Ddeddf. Os daw'r Ddeddf i rym, ni fydd rhieni ac oedolion eraill sy'n gweithredu in loco parentis yn gallu dibynnu ar amddiffyniad cosb resymol os cânt eu cyhuddo o ymosod ar blentyn neu ei guro. 

Wrth i'r Bil fynd drwy'r Senedd, clywyd tystiolaeth gan ystod o gyrff, gan gynnwys Coleg Brenhinol Pediatreg, y Coleg Nyrsio Brenhinol, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol a phob heddlu yng Nghymru, sy'n cefnogi egwyddorion y Bil. Mae'r Bil hefyd wedi cael ei gefnogi gan nifer o elusennau plant gan gynnwys y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, Barnardo's Cymru, Achub y Plant, Plant yng Nghymru a Gweithredu dros Blant. Mae Comisiynydd Plant Cymru hefyd wedi croesawu'r cam i newid y gyfraith. 

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

Yn fy marn i, mae newid y gyfraith ynghylch cosb resymol yn hanfodol mewn gwlad sy'n credu yn hawliau plant. 

Mae'n bryd i Gymru ymuno â mwy na 55 o wledydd eraill ledled y byd, gan gynnwys yr Alban, i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol. Bydd y gyfraith hon yn ei gwneud yn gwbl eglur i rieni, i weithwyr proffesiynol ac i blant nad yw cosbi plant yn gorfforol yn dderbyniol yng Nghymru.