Neidio i'r prif gynnwy

Y sioe deithio yw prif ddigwyddiad y diwydiant teithio ar gyfer twristiaeth ddomestig ym Mhrydain.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y sioe deithio yw prif ddigwyddiad y diwydiant teithio ar gyfer twristiaeth ddomestig ym Mhrydain.  Mae disgwyl dros 250 o arddangoswyr a dros 3000 o ymwelwyr – y rhai sy’n gwneud penderfyniadau pwysig ac arddangoswyr o’r diwydiant – yn ystod y ddau ddiwrnod.  

Meddai’r Gweinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

“Mae bod yn bresennol mewn sioeau teithio pwysig yn rhan o ymgyrch farchnata Croeso Cymru yn y Gwanwyn i hyrwyddo Cymru yn ystod Blwyddyn y Môr.  Yn yr wythnosau diwethaf mae Croeso Cymru wedi bod yn brysur yn gwerthu Cymru yng Nghonfensiwn UKinbound, ExploreGB ac ITB Berlin, i gynulleidfa ryngwladol.  Mae’r sioe hon yn gyfle i drafod, yn enwedig â phrynwyr ar y lefel uchaf, gan gynnwys Cwmnïau Teithio Grŵp, Cwmnïau Coetsus a Chwmnïau Teithio yn bennaf ar gyfer y farchnad ddomestig.    

“Yn ystod y digwyddiad, bydd Croeso Cymru a phartneriaid ar y stondin yn hyrwyddo ein cynnyrch, gweithgareddau, digwyddiadau a phrofiadau o safon ryngwladol yn ystod Blwyddyn y Môr.  Mae Ras Cefnfor Volvo ar ein gwarthau, a dyma un o’r prif ddigwyddiadau ar gyfer 2018 – pan fydd llygaid y byd ar Gymru unwaith yn rhagor.  Bydd hwn yn gyfle gwerthfawr inni hyrwyddo Cymru fel un o’r prif gyrchfannau arfordirol yn yr 21ain Ganrif ac i ddathlu ein Prifddinas a’n cymunedau arfordirol.

“Menter allweddol arall ar gyfer y flwyddyn hon yw Ffordd Cymru – y tri llwybr newydd sy’n croesi rhai o dirweddau prydferthaf ein gwlad, fel ffordd o arddangos hanes, arfordir ac atyniadau gwych Cymru – a rhoi yr hyder a’r wybodaeth i ymwelwyr tramor grwydro mwy yng Nghymru.”