Cymru yn pasio'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Heno [12/12/17], a Chynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pasio'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), mae Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd carreg filltir allweddol. Ei nod yw gweddnewid y system anghenion dysgu ychwanegol i roi gwell cefnogaeth i'r plant a'r bobl ifanc hynny sydd ei hangen fwyaf.
Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:
“Mae heddiw yn ddiwrnod hanesyddol i addysg yng Nghymru. Bydd gan bron i chwarter yr holl ddysgwyr yng Nghymru ryw ffurf ar anghenion dysgu ychwanegol yn ystod eu blynyddoedd cynnar neu rywbryd yn ystod eu haddysg, ac mae'r Bil hwn yn rhoi lle canolog iddyn nhw yn ein system. Mae'n canolbwyntio ar nodi eu hanghenion cyn gynted â phosibl ac ar weithio gyda nhw a'u teuluoedd i gynllunio'r gefnogaeth iawn.
"Unwaith y bydd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol, a ddisgwylir ym mis Ionawr 2018, bydd system newydd radical yn cael ei rhoi ar waith, gan wella safonau i sicrhau bod pob dysgwr yn cael cymorth i gyflawni eu potensial."
I ategu'r Bil, caiff rhaglen ehangach uchelgeisiol o gamau diwygio ei chyflwyno, ac fe roddodd yr Ysgrifennydd Addysg fwy o fanylion am hyn ddoe [11/12/17] drwy amlinellu ei chynigion ar gyfer sut y byddai'r system anghenion dysgu ychwanegol newydd yn cael ei gweithredu yng Nghymru.
Dyma'r hyn y mae'r Bil newydd yn ei olygu, sy'n effeithio ar bob lleoliad addysg yng Nghymru bron, ac yn canolbwyntio ar anghenion plant a phobl ifanc 0 i 25 oed:
- Cyflwyno'r term newydd ‘anghenion dysgu ychwanegol’ yn lle'r termau ‘anghenion addysgol arbennig’ ac ‘anawsterau/anableddau dysgu';
- Creu un cynllun statudol, y Cynllun Datblygu Unigol, i ddysgwyr;
- Cynnwys plant a phobl ifanc yn fwy, gan sicrhau eu bod yng nghanol y broses gynllunio a phenderfynu;
- Rhoi blaenoriaeth i ddyheadau uchel a gwell deilliannau, gan ganolbwyntio ar sicrhau bod y plentyn neu'r person ifanc yn cyflawni ei botensial;
- Darparu proses symlach sy'n achosi llai o wrthdaro, gan roi lle canolog i anghenion dysgwyr a sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni bob amser;
- Creu rolau statudol newydd o fewn meysydd iechyd ac addysg i sicrhau cydweithredu ac integreiddio er mwyn cyflawni anghenion dysgwyr;
- Canolbwyntio ar ddatrys anghytundeb yn gynharach, gan wneud hynny ar y lefel fwyaf lleol posibl;
- Cyflwyno hawliau clir a chyson i apelio lle na ellir datrys anghytundebau ar lefel leol;
- Cyflwyno Cod cryfach, i gyd-fynd â'r Bil, â gofynion gorfodol a chanllawiau statudol i ategu'r ddeddfwriaeth sylfaenol.
- Mae'r Bil hefyd yn ategu gweledigaeth ehangach Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 drwy gynnwys cyfres o ddyletswyddau strategol er mwyn symud pethau i gyfeiriad system anghenion dysgu ychwanegol wirioneddol ddwyieithog.
Mae mwy o wybodaeth am y cynllun gweithredu arfaethedig ar gyfer y system anghenion dysgu ychwanegol newydd yng Nghymru i'w gweld yma.