Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi croesawu ffigurau swyddogol sy'n dangos bod Cymru'n parhau i fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau cyhoeddus allweddol na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.
Yn ôl ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi gan y Trysorlys, roedd y gwariant ar iechyd yng Nghymru yn £2,402 y pen yn 2018-19 – 6% yn uwch nag yn Lloegr a £91 y pen yn fwy na’r flwyddyn flaenorol.
Mae’r gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol gyda’i gilydd wedi cynyddu 4.6% yng Nghymru – cynnydd o £134 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae’r gwariant y pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn uwch yng Nghymru nag mewn unrhyw un o bedair gwlad y DU, ac mae tua 11% yn uwch nag yn Lloegr (£294 yn ychwanegol).
Yn ôl ffigurau’r Dadansoddiad fesul Gwlad a Rhanbarth ar gyfer 2018-19, mae’r gwariant ar addysg yng Nghymru gryn dipyn yn uwch nag yw yn Lloegr. Mae’r gwariant y pen yng Nghymru yn £1,365 – sydd £73 yn fwy nag yn Lloegr.
Dywedodd y Prif Weinidog:
Mae’r ffigurau hyn yn dangos ein bod ni'n parhau i amddiffyn gwasanaethau rheng flaen rhag effeithiau gwaethaf polisi cyni cyson Llywodraeth y DU.
Mae buddsoddi yn ein Gwasanaeth Iechyd a'n gwasanaethau cymdeithasol yn rhan ganolog o'n cynlluniau gwario, ac mae ffigurau hyn yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu'r gofal gorau i bobl ar draws Cymru.
Mae’r buddsoddiad rydyn ni’n ei wneud mewn addysg yn dangos ein bod yn benderfynol o ddarparu system yng Nghymru sy’n rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant.
Mae'r ffigurau hyn, sy’n cael eu cyhoeddi gan Drysorlys Ei Mawrhydi bob blwyddyn, yn brawf o’r gwerth rydyn ni'n ei osod ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac yn amlygu ein hymrwymiad i wneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu i wynebu’r heriau gwirioneddol sy’n eu hwynebu ar hyn o bryd.