Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, croesawodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford ffigurau swyddogol sy'n dangos bod Cymru'n parhau i fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau cyhoeddus allweddol na rhannau eraill o’r DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan y Trysorlys heddiw, gwariwyd £2,310 y pen ar iechyd yng Nghymru – 6.5% yn uwch na'r gwariant y pen yn Lloegr.

Roedd y gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol gyda’i gilydd wedi cynyddu 3.8% yng Nghymru - y cynnydd mwyaf ymysg pedair gwlad y DU yn ôl y Dadansoddiad fesul Gwlad a Rhanbarth ar gyfer 2017-18, a gyhoeddir bob blwyddyn.

£2,916 oedd y gwariant y pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, sef rhyw 11% yn uwch nag yn Lloegr – mae hynny’n cyfateb i £290 y pen yn ychwanegol yng Nghymru.

Cynyddodd y gwariant y pen ar addysg yng Nghymru hefyd o 1.8% yn 2017-18. Dyma'r twf cyflymaf ymysg pedair gwlad y DU.

Mae’r gwariant y pen ar addysg bellach 5% yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr – sef £65 y pen yn ychwanegol.

Dywedodd yr Athro Drakeford:

"Mae’r ffigurau hyn yn dangos ein bod ni'n parhau i ganolbwyntio ar amddiffyn gwasanaethau rheng flaen rhag effeithiau gwaethaf polisi cyni niweidiol Llywodraeth y DU.

"Mae buddsoddi yn ein Gwasanaeth Iechyd a'n gwasanaethau cymdeithasol yn rhan ganolog o'n cynlluniau gwario, ac mae ffigurau heddiw yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu'r gofal gorau i bobl ar draws Cymru.

"Mae’r buddsoddiad rydyn ni’n ei wneud mewn addysg yn dangos ein bod yn benderfynol o ddarparu system yng Nghymru sy’n rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant.

"Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd gan Drysorlys Ei Mawrhydi yn brawf o’r gwerth rydyn ni'n ei osod ar wasanaethau cyhoeddus, ac yn amlygu ein hymrwymiad i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu ein gwasanaethau cyhoeddus i wynebu’r heriau gwirioneddol sydd o'u blaen heddiw."