Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cymru yn parhau i fuddsoddi o’r cronfeydd ariannol sy’n cael eu dyrannu iddi gan yr UE. Mae prosiect gwerth £6.4m i helpu busnesau i ddatblygu technolegau arloesol wedi cael y golau gwyrdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, bod prosiect CEMET (Canolfan Ragoriaeth mewn Technolegau Symudol a Datblygol) dan arweiniad Prifysgol De Cymru, wedi cael caniatâd i fwrw ati. Caiff y prosiect hwn ei gefnogi gan £4.2m o arian Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Bydd yn helpu Busnesau Bach a Chanolig eu maint (BBaChau) yn y Cymoedd, yn y Gorllewin ac yn y Gogledd i ddylunio a phrofi technolegau datblygol a symudol newydd i greu cynnyrch a gwasanaethau a fydd yn arwain at lwyddiant masnachol.


Meddai Mark Drakeford: 

“Rydym ni’n benderfynol o roi ein rhaglenni sy’n cael eu hariannu gan yr UE ar waith a gwneud y mwyaf o gronfeydd yr UE sydd ar gael i ni –mae angen y buddsoddiad hwn ar ein pobl, ar ein busnesau ac ar ein cymunedau.

“Bydd cronfeydd yr UE yn helpu CEMET i ddefnyddio’r profiad a’r arbenigedd sy’n bodoli yn ein prifysgolion er mwyn cynorthwyo busnesau i ddatblygu gwasanaethau a chynnyrch newydd. Bydd hefyd yn eu cynorthwyo i wella eu gallu i gystadlu ag eraill a fydd yn ei dro yn galluogi busnesau i dyfu a ffynnu. Dyma enghraifft arall eto o pham ei bod hi mor bwysig i ni gael gwarant gan Lywodraeth y DU bod pob un ceiniog o gronfeydd yr UE sydd ar gael i Gymru yn ddiogel.” 

Meddai’r Athro Julie Lydon, Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru: 

“Rydym ni’n falch o gael arwain y prosiect CEMET, sydd eto’n dangos gymaint o arbenigedd sydd ym Mhrifysgol De Cymru yn y sector technoleg cyfrifiadurol. Mae’r prosiect hwn yn dangos ymrwymiad a rôl allweddol addysg uwch wrth adeiladu twf economaidd ac wrth greu swyddi yng Nghymru. Yn dilyn refferendwm diweddar yr UE, mae’n arwydd o brifysgolion yn estyn dwylo ac yn anfon neges dros y môr nad yw Prydain yn cefnu ar y byd.”


Fel rhan o’r prosiect, bydd CEMET hefyd yn cynnig pecyn cymorth cynhwysfawr drwy gyfrwng proses gosod trywydd a throsglwyddo gwybodaeth. Bydd yn helpu BBaChau i edrych ar y broses o ddatblygu technolegau datblygol a newydd, gan droi eu syniadau yn gynnyrch ac yn wasanaethau cyn eu cyflwyno ar y farchnad.

Aeth Ysgrifennydd y Cabinet ati i gyhoeddi’r newyddion am y cyllid hwn wrth iddo gyfarfod ag aelodau Pwyllgor Monitro Rhaglen Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi yr UE i drafod goblygiadau’r ffaith bod y DU yn gadael Ewrop. Mae’r Pwyllgor, sy’n gyfrifol am fonitro bod rhaglenni yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol, yn cynnwys unigolion allweddol o bob sector yng Nghymru.

Meddai Mark Drakeford: 

“Mae hwn yn gyfle i glywed beth yw barn ein partneriaid ac i dawelu eu meddyliau y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio yn ddiflino i wneud yn siŵr na fydd Cymru ar ei cholled yn ariannol wrth i’r DU baratoi i adael Ewrop yn sgil Brexit.

“Wrth i drefniadau mwy hirdymor gael eu gwneud mewn perthynas â Brexit, mae gennym ni lu o gynigion prosiect yn yr arfaeth a byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn prosiectau allweddol a all gefnogi targedau ein rhaglen ym maes swyddi, cymorth i fusnesau, a helpu pobl i gael hyfforddiant a swyddi.”