Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hystadegau blynyddol ar gyfer dŵr ymdrochi heddiw, gyda phob ardal ddynodedig ar gyfer ymdrochi yng Nghymru yn cyrraedd safonau ansawdd dŵr yr UE.
Roedd pob un o'r 104 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru yn bodloni dosbarthiadau Ewropeaidd ar gyfer ansawdd dyfroedd ymdrochi. Cafodd 78 o ddyfroedd ymdrochi y dosbarthiad uchaf o 'rhagorol', cafodd 21 eu dosbarthu yn 'dda' a phump yn 'digonol'. Mae chwe dosbarthiad dyfroedd ymdrochi wedi gwella a chwech wedi mynd i lawr, yn dilyn tymor 2018.
Mae dyfroedd ymdrochi yn cael eu profi'n rheolaidd yn ystod y tymor ymdrochi swyddogol, rhwng 15 Mai a'r 30 Medi, ac yn cael eu dosbarthu fel naill ai rhagorol, da, digonol neu wael. Mae'r dosbarthiadau yn cael eu harddangos ar ddechrau tymor ymdrochi y flwyddyn ganlynol.
Mae Cemaes, ar Ynys Môn, bellach wedi cyrraedd ansawdd dŵr ymdrochi digonol, yn dilyn dwy flynedd o ansawdd gwael. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud gwaith sylweddol yn yr ardal i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r safonau.
Mae gan Gymru fwy o draethau Baner Las fesul milltir nag unrhyw le arall ym Mhrydain ac mae Croeso Cymru yn buddsoddi mewn seilwaith i helpu traethau gyrraedd statws Baner Las. Mae Croeso Cymru hefyd yn cefnogi prosiectau gyda sefydliadau fel Cadwch Gymru'n Daclus a Surfers Against Sewage yn hyrwyddo twristiaeth gyfrifol, gynaliadwy a'r angen i amddiffyn asedau arfordirol a bywyd gwyllt toreithiog.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn:
"2018 yw Blwyddyn y Môr yng Nghymru, felly dwi'n falch o weld bod dyfroedd ymdrochi yng Nghymru yn bodloni safonau ansawdd dŵr, gyda rhan fwyaf yr ardaloedd yn cyrraedd safon 'rhagorol' unwaith eto. Dyma lwyddiant sy'n werth ei ddathlu.
"Er bod rhai o'r dyfroedd ymdrochi wedi gwella, mae'n siom gweld rhai dosbarthiadau yn gostwng. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda Dŵr Cymru, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i nodi a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau gydag ansawdd y dŵr yn lleol.
"Mae gan Gymru arfordir hardd ac rwyf am weld ein dyfroedd ymdrochi yn parhau i fodloni'r safonau uchaf sydd wedi dod yn arferol inni."
Dywedodd Natalie Hall, Rheolwr Dŵr, Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Diogelu yr amgylchedd yw ein prif ddiben a dyma pam ein bod yn gweithio bob dydd i helpu i sicrhau bod Cymru mor lân a diogel â phosib i bobl a bywyd gwyllt.
"Rydyn ni'n arbennig o falch gyda gwelliant yn y safon mewn lleoedd fel Bae Cemaes a Wiseman's Bridge, ble y mae llawer o waith wedi'i wneud gennym dros y blynyddoedd.
"Bydd ein gwaith caled yn parhau, mewn partneriaeth ag eraill, fel bod safon ein dyfroedd ymdrochi yn parhau i wella ble y bo angen."