Neidio i'r prif gynnwy

Bydd gwaharddiad ar ddefnyddio cladin llosgadwy ar waliau allanol adeiladau uchel iawn yng Nghymru o 13 Ionawr 2020 ymlaen, cyhoeddodd y Gweinidog Tai, Julie James heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw hyn yn sgil tân Tŵr Grenfell yn Llundain fis Mehefin 2017. 

Yn dilyn y tân hwnnw, cynhaliwyd Adolygiad Annibynnol o Reoliadau Adeiladu a Diogelwch Tân dan arweiniad y Fonesig Judith Hackitt. Ymysg argymhellion yr adolygiad, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2018, roedd newidiadau sylweddol i'r ffordd o ymdrin ag adeiladau preswyl uchel iawn 10 llawr neu fwy, o'r cyfnod adeiladu nes bod pobl yn byw ynddynt.  

Fel ymateb uniongyrchol i'r adroddiad, ymrwymodd y Gweinidogion y byddai Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i wahardd y defnydd o ddeunyddiau llosgadwy mewn systemau cladio ar adeiladau preswyl uchel iawn yng Nghymru (18m neu'n uwch).  

Mae'r Gweinidog bellach wedi cymeradwyo'r Rheoliadau a fydd yn gosod gwaharddiad yn ei le.

Bydd y gwaharddiad yn gymwys i unrhyw gladin llosgadwy ar bob adeilad preswyl newydd (fflatiau, llety myfyrwyr a chartrefi gofal) ac ysbytai dros 18m o uchder. Mae'r gwaharddiad yn cynnwys holl uchder yr adeilad, ac fe fydd yn gymwys i'r wal gyfan a rhai atodiadau i'r wal allanol, gan gynnwys unrhyw falconi a phaneli solar.   

Bydd y gwaharddiad hefyd yn gymwys i adeiladau presennol pan fo gwaith adeiladu perthnasol yn mynd rhagddo sy'n dod o fewn cwmpas y Rheoliadau Adeiladu, oni bai bod y gwaith adeiladu wedi dechrau ar y safle neu fod hysbysiad cychwynnol, hysbysiad adeiladu neu gynlluniau llawn wedi'u cyflwyno a bod y gwaith yn dechrau ar y safle o fewn cyfnod o 8 wythnos.

Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James:

Roedd tân Tŵr Grenfell yn drasiedi a fydd yn aros yng nghof nifer ohonom ni am amser hir.

Dylai'n cartrefi ni fod yn fwy diogel nag unman arall. Mae'r camau rwy' wedi eu cymryd heddiw yn mynd i helpu i sicrhau bod pobl yn fwy diogel yn eu cartrefi eu hunain, ac yn ei gwneud yn gwbl glir beth sy'n addas i'w ddefnyddio ar waliau allanol adeiladau perthnasol 18m neu'n uwch.

Mae gennym ni yng Nghymru draddodiad balch o sicrhau safonau uchel o ran diogelwch rhag tân. Mae nifer y tanau mewn cartrefi yn is nag erioed, ac yn 2016 ni oedd y wlad gyntaf yn y byd i'w gwneud yn orfodol i bob cartref newydd neu wedi'i addasu gael systemau chwistrellu.

Ond mae angen gwneud llawer mwy i sicrhau mwy o eglurder gydol oes yr adeilad am swyddogaethau a chyfrifoldebau'r rhai sy'n dylunio, adeiladu a rheoli adeiladau. Rwy'n bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn yn 2020 yn amlinellu manylion fy nghynlluniau.