Neidio i'r prif gynnwy

Gyda chwe mis i fynd nes i ddeddf newydd sy'n rhoi terfyn ar gosb gorfforol i blant yng Nghymru ddod i rym, mae mwy na £2.9m yn cael ei fuddsoddi mewn cefnogaeth i fagu plant. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 yn rhoi’r un amddiffyniad i blant rhag ymosodiad ag oedolion drwy gael gwared ar amddiffyniad cyfreithiol hynafol 160 oed.

Bydd y gyfraith newydd yn berthnasol i bawb yng Nghymru, gan gynnwys ymwelwyr, o 21 Mawrth 2022 ymlaen. Bydd pob math o gosb gorfforol, fel smacio, taro, slapio ac ysgwyd, yn anghyfreithlon.

Er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r ddeddfwriaeth bwysig hon, bydd ymgyrch hysbysebu amlgyfrwng ledled y wlad - o'r enw Sŵn Newid - yn cael ei lansio yfory.

Bydd y £2.9m, dros bedair blynedd, ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru i gyllido cefnogaeth magu plant gadarnhaol. Bydd yn golygu, mewn achosion lle mae'r heddlu'n credu ei bod yn briodol cynnig datrysiad y tu allan i'r llys, y bydd opsiwn o gynnig cefnogaeth i helpu i osgoi aildroseddu. Fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau unigol.

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

Mae’r wythnos hon yn nodi’r dechrau ar gyfrif y chwe mis nes i ni symud tuag at y diwrnod pan fydd gan blant yng Nghymru’r hawl gyfreithiol i gael eu hamddiffyn rhag pob math o drais, waeth pa mor fach.
“Rydw i wedi ymgyrchu ers degawdau lawer dros y newid hwn yn y gyfraith ac rwy’n falch iawn y bydd Cymru yn ymuno yn fuan â mwy na 60 o wledydd eraill ledled y byd sydd wedi gwahardd defnyddio cosb gorfforol tuag at blant.

Yn gwbl allweddol i hyn mae darparu’r wybodaeth, y cyngor a’r gefnogaeth angenrheidiol i rieni i helpu i reoli ymddygiad eu plant heb droi at gosb gorfforol.

Bydd ein hymgyrch yn cyfeirio rhieni at gefnogaeth rydym eisoes yn ei darparu drwy ein hymgyrch Magu Plant. Rhowch amser iddo, ymwelwyr iechyd, a'n rhaglenni cymorth i deuluoedd, gan gynnwys Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf.

Ond rydyn ni wedi mynd gam ymhellach ac rwy’n falch o gyhoeddi pecyn cyllido newydd ar gyfer cefnogaeth magu plant ychwanegol wedi’i theilwra, fel opsiwn adsefydlu yn lle erlyn mewn achosion lle mae’r heddlu’n gysylltiedig.

Bydd y gefnogaeth hon, a ddarperir gan awdurdodau lleol, wedi’i chynllunio i annog a chefnogi rhieni i fabwysiadu technegau magu plant cadarnhaol wrth ddatgan yn gwbl glir bod cosbi plant yn gorfforol yn annerbyniol ym mhob amgylchiad.

Ychwanegodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

Mae hon yn ddeddfwriaeth bwysig ar gyfer hawliau plant yng Nghymru ac ni all ddod yn ddigon buan. Rwy’n cefnogi’r ddeddfwriaeth hon yn llwyr gan nad oes lle i gosbi corfforol yng Nghymru na’r trawma tymor hir a achosir i blant o ganlyniad iddo.

Rwy’n falch o weld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn codi ymwybyddiaeth o’r gyfraith newydd hon ac yn hyrwyddo technegau magu plant cadarnhaol. Yn syml, nid yw cosb gorfforol yn gweithio fel ffordd o ddisgyblu plant. 

Dywedodd Jonathan Griffiths, llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru:

Yn ystod y chwe mis nesaf rydym eisiau gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a phartneriaid diogelu lleol ym mhob rhanbarth yng Nghymru i sicrhau bod pob rhiant a gofalwr yn dod yn ymwybodol o'r gyfraith cyn iddi ddod i rym y flwyddyn nesaf.

Nid yw magu plant yn hawdd, ond mae ffyrdd effeithiol o ddisgyblu plant ar gael heb orfod defnyddio cosb gorfforol.

Dywedodd Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert:

Mae plismona yng Nghymru yn croesawu cyflwyno'r ddeddfwriaeth newydd, a fydd yn amddiffyn plant a phobl ifanc rhag trais corfforol.

Mae'n bwysig ein bod yn blaenoriaethu ac yn canolbwyntio ar ddarparu cyngor a chymorth i blant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.

Mae plismona yng Nghymru wedi ymrwymo i weithio gyda'r holl asiantaethau allweddol i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn a'u cefnogi.