Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw bydd Bws Seiber cyntaf Cymru yn dechrau ar ei daith o amgylch Cymru i dynnu sylw at bwysigrwydd seiberddiogelwch a’r bygythiadau a wyneba bob un.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y bws sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn aros ym mhob un o’r dau ddeg dau o awdurdodau llywodraeth leol yn ystod mis Mawrth, gan ddarparu’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf ar seiberddiogelwch gyda help y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol. 

Mae unigolion, grwpiau a busnesau yn cael eu hannog i neidio ar y Bws Seiber sy’n cael ei reoli gan Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol (ROCU) ar gyfer De Cymru, ynghyd â ROCU y Gogledd-orllewin, i gael gwybod mwy. Bydd tîm o swyddogion seiberamddiffyn yr heddlu, arbenigwyr mewn seiberddiogelwch a gwirfoddolwyr wrth law i ddarparu syniadau ar leihau’r risg o gael eich targedu gan seiberdroseddwyr ac i gadw’n ddiogel ar-lein. Bydd y tîm hefyd yn cynnal seminarau byr ac ymarferion ar gyfer bunesau a’r cyhoedd. Mae rhestr gyflawn o’r amseroedd, y lleoliadau a’r gweithgareddau i’w chael ar wefan Tarian. 

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid: 

“Nid yw’r bygythiad o seiberdroseddu yn mynd i ddiflannu – yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan Action Fraud mae mwy na £190,000 yn cael ei golli bob dydd gan ddioddefwyr seiberdroseddu yn y DU.

“Mae angen inni sicrhau bod gan bobl a busnesau yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i adnabod arwyddion seiberdroseddau – a rhannu dulliau ar gyfer cadw’n ddiogel ar-lein â nhw. 

“Rydw i am annog pob un i ymweld â’r Bws Seiber pan fydd yn dod i’w hardal nhw.”

Dywedodd Symon Kendall, Ditectif Gwnstabl Tarian:

“Rydyn ni’n cydnabod bod y rhan fwyaf o ymgyrchoedd yn dibynnu ar gyfryngau cymdeithasol a gwybodaeth ar wefannau ac unigolion sydd â diddordeb mewn seiberddiogelwch yw’r rhan fwyaf o bobl sy’n mynd i ddigwyddiadau seiberddiogelwch. Felly, nid ydy’r neges yn cyrraedd y cyhoedd yn gyffredinol a busnesau bach. Nod y prosiect hwn yw dechrau ar y daith i ddatrys hyn.  

“Yn genedlaethol, nid yw’r lefelau adrodd am seiberdroseddau yn adlewyrchu’r sefyllfa wirioneddol ac mae hyn yn effeithio ar ein gallu i wneud Cymru yn wlad fwy cadarn o safbwynt seiberddiogelwch. Drwy hyrwyddo Action Fraud fel y Ganolfan Atal Twyll ac Adrodd ar Seiberdroseddau Genedlaethol byddwn yn codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau sydd ar gael.

“Y nod cyffredinol yw cynnwys seibergadernid fel rhan o’n gweledigaeth genedlaethol. Byddwn yn gwneud Cymru yn wlad sy’n fwy cadarn o ran seiberddiogelwch, lle mae’n fwy diogel i gynnal busnes ar-lein.”

Dywedodd Paul Chichester, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol:

“Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn ymroddedig i sicrhau mai’r DU yw’r lle mwyaf diogel i fyw ar-lein. Bydd y bws seiber yn helpu mwy o bobl i ddangos arferion gorau o ran seiberddiogelwch.

“Mae’n hollbwysig ein bod ni’n deall pa fygythiadau sydd o’m cwmpas, a’r dulliau mwyaf effeithiol o’u rheoli.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Tarian i ddiogelu busnesau a’r cyhoedd yng Nghymru.”