Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y canllawiau newydd yn helpu'r gweithlu nyrsio i baratoi ar gyfer pan ddaw'r Ddeddf i rym ym mis Ebrill 2018.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn cyfnod ymgynghori cynhyrchiol a chydweithio â'r Coleg Nyrsio Brenhinol, bydd y canllawiau newydd yn helpu'r gweithlu nyrsio i baratoi ar gyfer pan ddaw'r Ddeddf i rym ym mis Ebrill 2018. 

Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar fyrddau iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG i gyfrifo a chynnal lefelau staff nyrsio mewn wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt i gleifion mewnol sy'n oedolion. Mae hefyd yn cynnwys dyletswydd ehangach i ystyried faint o nyrsys y mae eu hangen er mwyn darparu'r lefel fwyaf priodol o ofal i gleifion yn sensitif ym mhob lleoliad. 

Dywedodd Vaughan Gething: 

"Cymru yw'r wlad gyntaf yn Ewrop i ddeddfu ar lefelau staff nyrsio ac rwy'n falch iawn o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni hyd yma.

“Mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym fod sicrhau’r nifer cywir o nyrsys cofrestredig heb os yn lleihau cyfraddau marwolaeth cleifion ac yn gwella canlyniadau cleifion.

"Un o'r prif resymau inni gefnogi cyflwyno'r Ddeddf oedd gan ei bod yn sicrhau bod gan gleifion safonau gofal diogel o ansawdd uchel. Rwy'n awyddus iawn i weld y byrddau iechyd yn defnyddio'r canllawiau hyn i weithredu'r ddeddfwriaeth a sicrhau newid cadarnhaol er budd ein cleifion yng Nghymru."

Dywedodd y Prif Swyddog Nyrsio, yr Athro Jean White: 

"Nyrsys yw'r gyfran fwyaf o'r gweithlu iechyd ac maen nhw'n ymgymryd â rolau yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i gyd. 

“Mae'n hanfodol bod gennym weithlu nyrsio sy'n meddu ar y sgiliau cywir a'r niferoedd cywir sydd â chymysgedd briodol o sgiliau, a'u bod yn cael eu lleoli i weithio ar yr adeg gywir i ddiwallu anghenion cleifion.

“Mae Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i'r gwasanaeth iechyd sicrhau bod digon o nyrsys i ofalu'n sensitif am gleifion ac rydyn ni'n gweithio'n galed i helpu i gael y niferoedd hynny'n iawn. Mae cyhoeddi'r canllawiau statudol hyn – a ddatblygwyd mewn partneriaeth â'r gwasanaeth iechyd a phartneriaid allweddol fel y Coleg Nyrsio Brenhinol – yn gam mawr tuag at wireddu hynny."