Bydd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, yn Japan fis nesaf. Bydd yn mynd ati i gryfhau’r cysylltiadau rhwng Cymru a’r wlad honno ac yn arwain taith fasnach o Gymru.
Ar y daith fasnach, bydd yn cael cwmni dros 16 o gwmnïau o Gymru, gan gynnwys The Pembrokeshire Food Company, Melin Tregwynt, Prifysgol Bangor, V-Trak a’r Apple County Cider Co. Mae pob un o’r cwmnïau hynny’n bwriadu masnachu mwy gyda Japan.
Wrth siarad am yr ymweliad hwn, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
“Yn dilyn pleidlais y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’n fwy pwysig nag erioed o’r blaen ein bod yn gweithio’n galed i gryfhau ein cysylltiadau â phartneriaid allweddol dramor. Mae angen inni eu sicrhau bod ymrwymiad Cymru at fasnachu a buddsoddi’n rhyngwladol yn parhau.
“O safbwynt masnachu â Japan, mae gan Gymru hanes balch. Roedd gwerth allforion o Gymru i Japan dros £290 miliwn y llynedd yn unig. Mae hefyd yn farchnad sy’n tyfu. Gwelwyd cynnydd o 19% yn ein hallforion i Japan yn 2015 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
"Hefyd, mae Japan yn fuddsoddwr tramor sydd ag ymrwymiad at Gymru, ac mae’r ymrwymiad hwnnw’n un hirhoedlog sydd wedi ennill ei blwyf. Mae’r cysylltiadau’n dyddio’n ôl i’r 1970au. Yn wir, erbyn hyn mae oddeutu 50 o gwmnïau o Japan yn gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys Fujitsu, Hitachi, Panasonic, Sharp, Sony a Toyota, ac maent, gyda’i gilydd, yn cyflogi dros 6,000 o bobl.
“Mae fy ymweliad â Japan a’r daith fasnach yn gyfle perffaith i gryfhau cyfeillgarwch a phartneriaeth sydd eisoes yn ffynnu rhyngom ni a Japan.
“Wedi’r refferendwm, mae’n rhaid inni sicrhau bod ein partneriaid rhyngwladol yn ymwybodol bod Cymru yn parhau yn agored iawn i fusnes. Mae edrych tuag allan a mynd ati mewn modd rhagweithiol yn hanfodol i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud i adeiladu economi gryfach a thecach, ac un y gall pob adran o’r gymdeithas a phob rhan o Gymru elwa arni.”
Yn ystod ei ymweliad, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cwrdd â chwmnïau allweddol o Japan yn Osaka a Tokyo a bydd yn cymryd rhan yn agoriad swyddogol ffair uchel ei phroffil ar gyfer cynhyrchion o Brydain. Bydd nifer o gynhyrchion o Gymru yn y ffair honno.