Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Llywodraeth Cymru yn arwain dirprwyaethau masnach i ddwy o sioeau masnach mwyaf y byd yr wythnos hon, wrth i Gymru geisio sicrhau bod busnesau mor barod â phosib ar gyfer Brexit.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd cyfanswm o 58 o gwmnïau o Gymru yn cymryd rhan yn Medica, y ffair fasnach ryngwladol amlycaf ar gyfer y sector meddygol, fydd yn cael ei chynnal yn yr Almaen, ac ADIPEC, sioe fasnach fwyaf y byd i'r sector oel a nwy, yn Abu Dhabi.


Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 


"Wrth lywio drwy heriau Brexit, mae helpu cwmnïau o Gymru i adeiladu ar elfen allforio eu busnes, a maes o law, eu gwneud yn fwy cadarn, yn bwysicach nag erioed. 


Mae fy ymrwymiad i gefnogi cwmnïau o Gymru i lywio drwy Brexit a chynyddu eu lefelau allforio yn amlwg yn fy Nghynllun Gweithredu Economaidd a dim ond y mis diwethaf cyhoeddais gyllid ychwanegol o £7 miliwn i gefnogi hyn. 


Mae arwain dirprwyaethau o gwmnïau i deithiau masnach tramor yn rhan bwysig o'r gwaith hwn, gan ganiatáu iddynt arddangos yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig i gynulleidfa sydd â diddordeb, a chreu cysylltiadau a pherthynas allai drawsnewid eu trosiant. 


Mae cwmnïau fel Ultrasound Technology sydd yn Medica i arddangos eu cynnyrch newydd sy’n helpu i fesur pwysau gwaed mewn plant yn ystod gofal arennol yn dangos manteision iechyd byd-eang yn ogystal â manteision busnes y ffair fasnach benodol hon.   


Rydym yn gwybod bod nifer o gwmnïau o Gymru wedi cynyddu eu hallforion a’u trosiant o ganlyniad i fynd i ffeiriau masnach gyda Llywodraeth Cymru a dwi’n hyderus y bydd y cynrychiolwyr sy’n bresennol yn ADIPEC eleni a Medica yr wythnos nesaf yn cael yr un llwyddiant.”


Caiff Medica ei ddisgrifio fel y dyddiad amlycaf ar gyfer y rhai sy'n gwneud penderfyniadau o bob adran o'r diwydiant gofal iechyd rhyngwladol. Eleni mae Llywodraeth Cymru yn arwain dirprwyaeth o 35 o gwmnïau i'r digwyddiad yn Dusseldorf. 

Yn y cyfamser ADIPEC 2016 yw un o arddangosfeydd mwyaf y byd ar gyfer y sector olew a nwy. Bydd cwmnïau o Gymru sydd yn y sioe yn mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad i'w cysylltu â phobl sydd â dylanwad ac arbenigwyr yn y rhanbarth, gan gynnwys Yr Emiraethau Arabaidd Unedig ac Oman.  

Mae Llywodraeth Cymru yn mynd â 23 o gwmnïau i ADIPEC, gyda 12 yn arddangos ac 11 yn ymweld â'r sioe gan obeithio gwneud cysylltiadau a threfnu busnes. 

Mae'r rhestr o gynadleddwyr yn cynnwys dau gwmni, Cokebusters a Reid Liftinig, dderbyniodd Wobr y Frenhines ar gyfer Menter yn y Categori Masnach Rhyngwladol eleni.