Heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford bod Cymru wedi llwyddo i ennill dros €90m o gyllid drwy raglen ymchwil ac arloesi gystadleuol yr UE.
Cyhoeddwyd Adroddiad Blynyddol 2017 Horizon 2020 yr wythnos ddiwethaf, ac mae'n dangos bod ein busnesau wedi denu dros €16m o gyllid a bod Cymru yn parhau i ennill cyfran uwch o gyfranogiad y sector preifat na gweddill y DU.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
"Mae Horizon 2020 yn cynnig cyfleoedd i fusnesau a sefydliadau fod ar flaen y gad ym maes ymchwil ac arloesi.
"Mae ein Papur Gwyn Diogelu Dyfodol Cymru a'n papur polisi Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit yn pwysleisio pwysigrwydd Horizon 2020 i Gymru. Maen nhw hefyd yn nodi y bydd Cymru yn parhau i gymryd rhan yn y rhaglen ar ôl Brexit.
"Mae Horizon 2020 yn creu partneriaethau gwerthfawr sy'n arwain at fuddion economaidd uniongyrchol, ac mae wedi helpu i roi Cymru ar flaen y gad ym maes gwyddoniaeth ac arloesi."
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae sefydliadau Cymru wedi ennill dros €30m o gyllid Horizon 2020 er mwyn rhoi hwb i brosiectau arloesol gyda phartneriaid yn Ewrop.
Mae'r cwmni Cymru Coal Ltd o'r Bont-faen wedi elwa ar gyllid Horizon 2020, gan sicrhau €1.3m i gymryd rhan yn y prosiect IMP@CT sy'n werth €7m. Mae'n rhan o gonsortiwm dan arweiniad Prifysgol Caerwysg ac mae'n cynnwys sefydliadau o Ffrainc, y Ffindir a'r Almaen. Mae Cymru Coal yn rhannu ei arbenigedd sylweddol ym maes mwyngloddio a pheiriannau perthnasol er mwyn creu dulliau newydd ymarferol o gloddio haenau bach a chymhleth o fetel.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Cymru Coal, Gareth Thomas:
"Rydyn ni'n hynod falch bod cwmni bach o Gymru yn chwarae rôl mor bwysig yn y gwaith o ddarparu'r arbenigedd sydd ei angen er mwyn cyflenwi offeryn pwrpasol i brosiect IMP@CT. Mae'n werth chweil gweithio fel rhan o dîm o bartneriaid sydd ag ystod mor eang o arbenigedd.
"Mae'r prosiect hwn wedi datblygu ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o fwyngloddio creigiau caled. Rydyn ni'n gwerthfawrogi'r cyfle hwn yn fawr ac yn edrych ymlaen at y manteision posibl i Cymru Coal, partneriaid y prosiect a gwledydd Ewrop a'r tu hwnt."