Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, fenter sy'n cael cymorth gwerth €5.4m gan yr UE i fynd ati i ddatblygu cynlluniau ynni cymunedol lleol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cymoedd Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog yn gwmni y mae buddiannau'r gymuned yn ganolog iddo, ac yn bartner allweddol ym mhrosiect ECCO sydd â'r nod o greu pum cynllun ynni newydd o dan berchnogaeth y gymuned yng Nghymru erbyn 2020.  

Drwy gydweithio ag 11 o bartneriaid yng Ngogledd-orllewin Ewrop, mae'r prosiect am greu rhwydwaith cryf o gynlluniau ynni cymunedol sy'n eiddo i grwpiau cydweithredol, gan sbarduno a galluogi twf cyson yn y sector ynni cymunedol.

Mae'r prosiect wedi cael €3.2m gan yr UE drwy raglen drawswladol Gogledd-orllewin Ewrop. Bydd Cymru yn elwa o gael €273,000 gan yr UE, a buddsoddiad o £156,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru. 

Mae'r sefydliadau yn y trydydd sector yng Nghymru, Datblygu Egni Gwledig ac Ynni Cymunedol Cymru, hefyd yn rhan o'r prosiect, a disgwylir iddyn nhw elwa ar yr arbenigedd sydd ar gael o wledydd megis yr Almaen a'r Iseldiroedd, sydd wedi bod yn arloeswyr ers dros ddegawd yn y sector ynni cymunedol adnewyddadwy. 

Dywedodd yr Athro Drakeford:

“Bydd y prosiect hwn yn tynnu ynghyd arbenigedd o ledled Ewrop, wrth inni rannu'r un cyfleoedd, heriau, ac adnoddau. Dw i wrth fy modd o weld cyllid Ewrop yn cefnogi'r cydweithio sy'n digwydd i ddatblygu sector ynni cymunedol cynaliadwy a chryf yng Nghymru.” 

“Mae'n amlwg bod manteision i’w cael o greu cyfeillgarwch a phartneriaethau i ymateb i heriau a chyfleoedd sy'n gyffredin i bob rhan o'r byd. Dyna pam mae mor bwysig bod Cymru yn cymryd rhan yn y math hwn o raglen gydweithredol Ewropeaidd ar ôl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.”

Dywedodd Gareth Ellis, Rheolwr Prosiectau Cymunedol, Cymoedd Gwyrdd: 

“Rydyn ni ar ddechrau cyfnod o weithredu newidiadau sylweddol i'n ffordd o gynhyrchu a chyflenwi ynni. Mae'r newidiadau hyn yn creu cyfleoedd i gymunedau ledled Cymru berchen ar brosiectau ynni, ac elwa arnyn nhw mewn modd uniongyrchol. Drwy brosiect ECCO, byddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid o ledled Gogledd-orllewin Ewrop i rannu'r hyn rydyn ni'n ei ddysgu, modelau ariannu, a dulliau gweithredu sy'n cael eu harwain gan y gymuned, er mwyn inni fynd ati i ddatblygu ffyrdd newydd o gynhyrchu ynni. ”