Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn gweld heddiw sut y mae busnesau twristiaeth yn paratoi i groesawu ymwelwyr i Gymru wrth i’r sector baratoi i agor am y tro cyntaf ers dechrau yr argyfwng coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yn ymweld â The Hide yn Sain Dunwyd ym Mro Morgannwg, i weld y mesurau y mae llety hunanddarpar yn eu sefydlu, wrth i’r ymwelwyr cyntaf gyrraedd yng Nghymru heddiw (dydd Sadwrn Gorffennaf 11).    

Daw yr ymweliad wedi i’r Prif Weinidog gyhoeddi pecyn o fesurau newydd – ac eang – i lacio y cyfyngiadau coronafeirws ymhellach yng Nghymru, fydd yn gweld rhannau mawr o ddiwydiannau ymwelwyr, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth Cymru yn ail-agor dros y tair wythnos nesaf.   

O ddydd Llun, (13 Gorffennaf), bydd tafarndai, bariau a bwytai yn gallu agor y tu allan, yn ogystal â rhan fwyaf o atyniadau dan dô.  Dywedodd y Prif Weinidog hefyd bod llety twristiaid sydd â chyfleusterau a rennir, megis safleoedd gwersylla, i baratoi i agor o’r 25 Gorffennaf.

Mae trafodaethau manwl ynghylch sut y gall busnesau lletygarwch weithredu mewn ffordd ddiogel o dan dô o ran y coronafeirws yn parhau, gyda chynlluniau ar gyfer ail-agor o’r 3 Awst, os bydd amodau’n caniatáu hynny.   

Meddai Mark Drafkeford y Prif Weinidog:

“Mae’r argyfwng wedi cael effaith mawr ar yr economi ymwelwyr – mewn cyfnod pan y dylai ein busnesau fod wedi mynd drwy Basg prysur, roedden nhw yn gwrthod gwesteion.  Rydym bellach yn ail-agor twristiaeth yng Nghymru yn ofalus fesul cam, fydd yn rhoi yr hyder i fusnesau, staff, ymwelwyr a chymunedau i ail-agor yn llwyddiannus. 

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl i Gymru ac i weld pobl o Gymru yn ymweld unwaith eto â’u hoff leoedd a chanfod rhai newydd. 

“Dros yr haf rydym am i bobl ymweld â Chymru yn ddiogel – drwy edrych ar ôl eu hiechyd; gwarchod y wlad brydferth hon a pheidio â gadael unrhyw ôl; gofalu am gefn gwlad drwy gadw at y llwybrau a gadael y gatiau fel yr oeddent a chadw cŵn ar dennyn.  Gadewch inni groesawu agor safleoedd agored Cymru ac osgoi ardaloedd prysur pryd bynnag y gallwn.

“Gallwn fwynhau’r gorau o Gymru drwy ddewis busnesau lleol a phrynu cynnyrch o Gymru, gan wneud gwahaniaeth i economïau lleol a phrofi diwylliant a iaith Cymru a pharchu cymunedau sydd eisoes yn barod i’n croesawu yn ôl.

Meddai Paula Warren o’r Hide:

“Rydym yn falch iawn o gael croesawu ymwelwyr unwaith eto i’r Hide. Rydym wedi bod ar goll heb ein hymwelwyr ac yn edrych ymlaen i weddill yr haf. Ein prif flaenoriaeth yw lles a diogelwch ein gwesteion ac aelodau’r tîm. I sicrhau hynny, rydym wedi cyflwyno prosesau a chanllawiau llym yn gysylltiedig â glanhau a chadw pellter cymdeithasol. Rydym am i’n gwesteion fod yn hyderus fod popeth yn ei le er mwyn iddynt ymlacio a mwynhau eu gwyliau.”

Wrth i bobl baratoi crwydro Cymru unwaith eto, mae Croeso Cymru wedi cyflwyno addewid i annog pawb sy’n ymweld â Chymru i ofalu am ei gilydd, am y wlad a’n holl gymunedau.  Mae’r addewid, sy’n annog pawb i wneud y pethau bychain sy’n gwneud gwahaniaeth mawr ar gael i’w lofnodi ar www.visitwales.com/promise

Gofynnir i ymwelwyr gynllunio ymlaen llaw cyn gynted â phosibl ac i archebu lle i aros yng Nghymru.  Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ynghylch yr hyn y bydd pobl angen ei wneud os ydynt yn dioddef symptomau coronafeirws yn ystod eu arhosiad yng Nghymru.  Mae’r canllawiau hefyd yn cynnwys cyngor i fusnesau i helpu gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru ddod i wybod amdanynt a rheoli unrhyw achosion yn y dyfodol.

Mae busnesau twristiaeth yn gweithio’n galed i gadw ymwelwyr yn ddiogel.  Mae safon y diwydiant, Barod Amdani, a’r nod ategol yn fenter ledled y DU, sy’n caniatáu i fusnesau ar draws y sector ddangos eu bod yn dilyn canllawiau y llywodraeth a iechyd y cyhoedd, wedi cynnal asesiad risg coronafeirws a gall weld a ydynt wedi sefydlu y prosesau gofynnol.

Mae’n bosibl ymuno â’r cynllun ac mae ar agor i bob busnes ar draws y sector.  Mae dros 1,500 o fusnesau yng Nghymru wedi cofrestru yn y 48 awr cyntaf, gan ddangos ymrwymiad i sicrhau dull cyfrifol a diogel o ail-agor.