Mae Cymru yn barod i fanteisio ar y cyfleoedd enfawr sy'n cael eu cynnig gan Gerbydau Trydan a Hydrogen.
Bydd y digwyddiad yn gyfle i Lywodraeth Cymru roi amlinelliad o'i pholisïau i gefnogi datgarboneiddio, gan ganolbwyntio ar newidiadau a chyfleoedd y gadwyn gyflenwi fodurol wrth i geir symud o injan mewndanio fewnol i bŵer trydan a hydrogen.
Roedd Ysgrifennydd yr Economi yn trafod cyn i Lywodraeth Cymru gynnal digwyddiad Symudedd Carbon Isel sy'n cynnwys gweithgynhyrchwyr rhyngwladol amlwg gan gynnwys Aston Martin Lagonda, Toyota, Renault, Peugeot a Nissan ynghyd ag academyddion, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ac arbenigwyr yng Nghastell Hensol.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
"Mae sgiliau, arloesi a chynaliadwyedd yn bethau yr wyf i, fel Ysgrifennydd yr Economi, wedi eu rhoi yn flaenllaw ac yn ganolog i'm polisi economaidd dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn fwyf amlwg yng Nghynllun Gweithredu Economaidd y llynedd.
"Y canolbwynt hwn, ochr yn ochr ag arbenigedd a gweledigaeth cwmnïau megis Riversimple, Alsonic a Hemmels yma yng Nghymru sy'n golygu ein bod mewn sefyllfa wych i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleodd enfawr sy'n cael eu cynnig gan gerbydau carbon isel, sydd heb amheuaeth y ffordd i deithio yn y dyfodol.
"Ac nid yw'r rhagolygon yn dechrau nac yn gorffen drwy gynhyrchu ceir y dyfodol, ond drwy archwilio a mireinio y dechnoleg arloesol a'r cyfleoedd o fewn y gadwyn gyflenwi gyda'r rhai hynny sydd â diddordeb a'r rhai fydd yn elwa.
"Rydym ni o fewn Llywodraeth Cymru yn benderfynol o hwyluso hyn, a thrwy ddigwyddiadau megis cysylltu busnesau sydd â'r un syniadau gydag academia, cadwyni cyflenwi a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, rwy'n gobeithio datgelu cyfleoedd eraill ar gyfer twf a chydweithio, gan greu cyfoeth, swyddi a llesiant yn y broses.
"Heddiw, mae gennym nifer o gerbydau trydan a phŵer hydrogen gan Nissan, Peugeot, Renault a Toyota. Bydd y rhain, yn ogystal â'r cerbydau cyfan-gwbl drydan megis RapidE a Lagonda gan Aston Martin, y bu aros mawr amdanynt ac sy'n cael eu gwneud yma yng Nghymru, a'r cerbyd hydrogen sydd eisoes wedi ei sefydlu gan Riversimple, ac eraill, mae pob rheswm i gredu bod Symudedd Carbon Isel ar fin dechrau rhywbeth arbennig, gyda Chymru ar y blaen."