Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi trefniadau ariannu newydd yn lle'r rhai sy’n cael eu gweinyddu gan yr Undeb Ewropeaidd. Bydd y trefniadau newydd yn grymuso'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn lleol i gefnogi buddsoddiad yn nes at y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Gyda disgwyl i arian yr UE ddod i ben ddiwedd y flwyddyn hon, y 'Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru’ yw ein strategaeth newydd ar gyfer sicrhau ffyniant ledled y wlad ac economi fwy cynhwysol, gyda mwy o rôl i'n rhanbarthau wrth benderfynu sut y caiff arian ei wario.
Er mwyn i’r Fframwaith hwn gael ei gyflawni, meddai Jeremy Miles y Gweinidog Pontio Ewropeaidd, bydd angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gadw'r addewidion a wnaeth i bobl Cymru, sef na fyddwn yn colli ceiniog o fuddsoddiad a bod rhaid parchu’r setliad datganoli.
Ers Refferendwm yr UE yn 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar farn cannoedd o sefydliadau o bob cwr o Gymru ar sut y dylid buddsoddi arian newydd yn lle cyllid yr UE, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus yn gynharach eleni.
Cynhyrchwyd y Fframwaith newydd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, y sector preifat, y byd ymchwil a'r byd academaidd, a'r trydydd sector, ac mae hefyd wedi cael cefnogaeth yr OECD.
Mae gan y Fframwaith bedair blaenoriaeth gyffredinol ar gyfer buddsoddi, sef:
- Busnesau cynhyrchiol a chystadleuol
- Lleihau’r ffactorau sy’n arwain at anghydraddoldeb o ran incwm
- Cefnogi'r broses o newid i economi ddi-garbon
- Cymunedau iachach, tecach a mwy cynaliadwy.
Dywedodd y Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles fod y Fframwaith yn brawf o’r dull gweithredu Gwnaed yng Nghymru ac anogodd Lywodraeth y DU i anrhydeddu ei hymrwymiad i roi arian yn lle cronfeydd yr UE a chaniatáu i Lywodraeth Cymru gadw ymreolaeth ddatganoledig wrth ddatblygu a chyflawni trefniadau olynol, fel y gellir ailddechrau gwneud buddsoddiadau newydd yng Nghymru ddechrau'r flwyddyn nesaf.
Dywedodd Jeremy Miles:
"Mae'n bleser gen i gyhoeddi bod Cymru bellach yn barod i ailgychwyn rhaglen o fuddsoddi rhanbarthol. Rydyn ni yn y sefyllfa hon oherwydd ein bod ni wedi gweithio'n galed gyda'n partneriaid yng Nghymru i ddatblygu dull gweithredu sy'n diwallu anghenion lleol yn ogystal â chynyddu ffyniant a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau ledled ein gwlad.
"Rwy'n hynod o ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan am eu hymroddiad, eu brwdfrydedd a’u harbenigedd wrth drafod gyda ni. Gyda'n gilydd, rydyn ni wedi cynnig ateb a Wnaed yng Nghymru i her sylweddol.
"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fel gwledydd eraill ledled y byd, mae ein heconomi, ein pobl a'n cymunedau wedi cael eu taro'n galed gan y pandemig Covid. Mae gan y Fframwaith hwn rôl hollbwysig i'w chwarae yn ein hadferiad, yn enwedig o ran sut rydyn ni’n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac yn hyrwyddo llesiant.
"Mae'r oedi a'r diffyg eglurder gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac yn enwedig Bil y Farchnad Fewnol, wedi bygwth y blynyddoedd o waith caled a fuddsoddwyd i ddatblygu'r trefniadau newydd hyn ar gyfer Cymru. Mae'n bryd iddyn nhw gamu ymlaen hefyd, a chyflawni eu haddewid hir-ddisgwyliedig am gyllid, fel y gallwn ni ddarparu buddsoddiadau newydd yn gynnar y flwyddyn nesaf."