Yn ôl Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, mae modd achub bywydau ar draws Cymru drwy leihau terfynau cyflymder diofyn o 30mya i 20mya.
Heddiw, cyflwynodd y Dirprwy Weinidog adroddiad annibynnol yn argymell mai Cymru ddylai fod y genedl gyntaf yn y byd i fabwysiadu mesur dewr newydd erbyn 2023.
Mae’r adroddiad, sy’n ffrwyth gwaith blwyddyn o astudiaeth gan dasglu a oedd yn cynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol, arbenigwyr ym maes iechyd y cyhoedd a phartneriaid allweddol eraill megis grwpiau diogelwch ar y ffyrdd, yn gwneud 21 o argymhellion ymarferol i’w gweithredu ar draws Cymru.
Dywedodd Lee Waters:
“Cafodd wythdeg o blant eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac mae gennym y ffigurau i brofi hynny. Dyna wythdeg o deuluoedd y mae eu bywydau wedi newid am byth.
“Er ein bod wedi gweithio i leihau nifer y marwolaethau ar ein ffyrdd yn ystod y 21 mlynedd o ddatganoli, er gwaethaf ein hymdrechion, mae 4,000 o ddamweiniau sy’n arwain at anafiadau yn dal i ddigwydd bob blwyddyn yng Nghymru.
“Mae’r dystiolaeth yn glir, mae lleihau cyflymder yn lleihau damweiniau. Mae’n achub bywydau.
“Mae cyflymderau arafach yn ein cymunedau yn gwella ansawdd bywyd hefyd.
“Yn ôl Arolwg Troseddau Prydain, traffig yn goryrru oedd y broblem wrthgymdeithasol fwyaf difrifol.
“Ar ben hynny, ofn traffig yw’r peth mwyaf y mae rhieni yn poeni amdano, gyda phlant yn cael eu cadw’n agosaf i’r cartref sy’n lleihau eu hannibyniaeth. Mae hefyd yn arwain at fwy a mwy o berygl wrth i fwy o bobl yrru eu plant i’r ysgol. Mae hyn, yn ei dro, yn ehangu anghydraddoldebau iechyd.
Mae’r adroddiad yn argymell troi proses y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig presennol ar ei phen. Yn lle’r terfyn cyflymder diofyn o 30mya, gyda chymunedau yn gorfod cyflwyno achos iddo fod yn is, y terfyn cyflymder diofyn fydd 20mya, gyda chymunedau yn gorfod cyflwyno achos i’w gynyddu. Mater i gymunedau, ac awdurdodau lleol, fydd penderfynu ar hyd ba ffyrdd y bydd y terfyn cyflymder 30mya yn parhau.
Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog:
“Mae hyd yn oed gostyngiad o 1mya yn y cyfartaledd cyflymder yn debygol o arwain at 6% yn llai o anafiadau.
“Nid mater o orfodi yw hyn yn unig – mae angen newid meddylfryd hefyd. Dros amser, 20mya fydd y cyflymder normal – yn union fel y cyfyngiadau ar ysmygu y tu mewn i fusnesau, codi tâl am fagiau a rhoi organau.