Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, Mark Drakeford yn cadarnhau ei ymrwymiad i sicrhau bod mwy o bobl ledled Cymru yn manteisio ar y cymorth sydd ar gael iddynt gyda'u treth gyngor.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio i fynd i'r afael â'r diffyg ymwybyddiaeth o'r cymorth hwn er mwyn annog pobl i fanteisio ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a'r gwahanol ostyngiadau ac eithriadau sydd ar gael i'w helpu.

Yn ystod y chwe mis diwethaf, bu'n cydweithio â MoneySavingExpert.com – y wefan fwyaf i gwsmeriaid yn y DU –  i ddatblygu cyngor syml a chyson i'w roi i bobl yng Nghymru er mwyn iddynt gael gwybod beth yw eu hawliau treth gyngor.

Mae MoneySavingExpert.com yn rhedeg ymgyrch barhaus i sicrhau bod pobl sydd wedi cael diagnosis o nam meddyliol difrifol, ac sy'n gymwys i gael budd-daliadau penodol, yn cael y gostyngiadau cywir ar eu treth gyngor.

Mae gan Lywodraeth Cymru dudalennau penodol ar ei gwefan a chanllaw syml sy'n crynhoi'r wybodaeth allweddol am y gostyngiadau treth gyngor y gallai pobl eu hawlio. Mae hefyd wedi bod yn gweithio gyda MoneySavingExpert.com i wella dulliau cyfathrebu, yn enwedig o ran darparu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i'r rheini sydd wedi cael diagnosis o fod â nam meddyliol difrifol.

Yn sgil yr ymchwiliad a gynhaliwyd ganddo ar draws Cymru, yr Alban a Lloegr y llynedd, mae MoneySavingExpert.com nawr yn galw ar weddill y DU i ddilyn arweiniad Cymru. Roedd yr ymchwiliad hwnnw wedi codi pryderon ynghylch y negeseuon anghyson y mae pobl yn eu cael ynghylch gostyngiadau treth gyngor.

Dywedodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid:

“Mae sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael y cymorth treth gyngor y mae ganddyn nhw'r hawl i'w gael yn rhan bwysig o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud y dreth gyngor yn decach.

“Mae ein canllaw yn tynnu ynghyd yr holl wybodaeth berthnasol mewn un lle. Dw i'n ddiolchgar i MoneySavingExpert.com – a chynghorau lleol – am ein helpu i ddatblygu'r canllaw pwysig a defnyddiol hwn.

“Byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r cynghorau i'w hannog i ddefnyddio dulliau cyson o weinyddu gostyngiadau ac eithriadau, nid yn unig ar gyfer y rheini sydd â nam meddyliol difrifol, ond ar gyfer pawb sy'n gymwys.”

Dywedodd Martin Lewis, sylfaenydd MoneySavingExpert.com:

“Dylai’r rheini sydd wedi cael diagnosis o nam meddyliol difrifol, a'u gofalwyr, gael yr wybodaeth berthnasol a'r cyfle i fanteisio ar gymorth y mae ganddyn nhw hawl iddo. Serch hynny, mae’n warthus bod ein ymchwiliad yn dangos bod y rhan fwyaf o gynghorau'n rhoi gwybodaeth sy’n anghywir. Dywedodd rhai o'u staff, pan wnaethom ni eu ffonio'n ddirybudd, nad oedd y gostyngiad yn bodoli, sy'n golygu bod gwahaniaethau mawr yn nifer y bobl sy'n cael y cyfle i fanteisio ar y cymorth ar draws y DU. Yn syml iawn, nid yw hyn yn dderbyniol. Dylem ni fod yn helpu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, yn hytrach na gwneud pethau’n anoddach iddyn nhw.

"Hoffem ni longyfarch Llywodraeth Cymru am wrando ar ein galwad ac am roi sylw i achos y rheini sydd â nam meddyliol difrifol. Mae cyfathrebu â staff a'u haddysgu'n briodol yn lle da i ddechrau.

“Rydyn ni'n gobeithio nawr y gallwn ni ddefnyddio Cymru fel esiampl i weddill y DU ei dilyn. Byddwn ni'n parhau i wneud yn siŵr bod y newidiadau sydd wedi eu gwneud gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn help gwirioneddol i’r rheini sydd am gychwyn y broses hawlio, er mwyn inni allu awgrymu gwelliannau petai hynny o fudd.”

Mae rhestr lawn o'r meini prawf cymhwysedd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru neu taflen wybodaeth.