Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw sut y bydd yn gwireddu ei hymrwymiad cyfreithiol i allyriadau sero-net erbyn 2050 gyda’r gobaith o ‘daro’r nod yn gynt’ wrth iddi baratoi ar gyfer COP26 (26ain Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd) ym mis Tachwedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwnaed y cyhoeddiad yn sgil adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC) annibynnol a ddatgelodd fod allyriadau sero-net, er bod arbenigwyr wedi dweud na fyddent yn bosibl nac yn fforddiadwy, bellach yn bosibl o ddilyn polisi uchelgeisiol a thrwy ymdrech ar y cyd gan ‘Tîm Cymru’.

Dywed yr CCC fod tystiolaeth newydd yn dangos y gallai mwy o ostyngiadau yn y sector diwydiannol helpu i daro’r nod, gan fod cyfran fawr o allyriadau Cymru’n cael eu cynhyrchu gan nifer fach o lygrwyr mawr, fel gwaith dur Port Talbot.

Mae’r adroddiad yn dweud hefyd y bydd angen i bawb yng Nghymru wneud ei ran i leihau allyriadau, gyda rhagor na hanner yr argymhellion yn ymwneud yn rhannol os nad yn llwyr â newidiadau cymdeithasol neu ymddygiadol.  Mae hyn yn golygu bod angen i lywodraeth, cymunedau a busnesau weithio gyda’i gilydd i newid sut ydym yn teithio, yn siopa, yn gwresogi’n cartrefi, ac yn newid i ddiet carbon isel.  Ym mhob maes, mae angen gostyngiad mawr o ran faint o ynni ac adnoddau naturiol rydym yn eu defnyddio, i daro’r targedau.

Mae’r adroddiad yn nodi hefyd y rhyngddibyniaeth rhwng gweithrediadau a thargedau Cymru a rhai’r DU.  Ni all y DU fynd yn sero-net heb i Gymru weithredu, ond yn yr un modd, mae Cymru’n dibynnu ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael ag wynebu’r her a newid yn gyflym ac yn deg i ddyfodol carbon isel. 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi cyfres o fesurau eleni fel ymateb i argyfwng yr hinsawdd ac i leihau’r nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu gollwng i’r atmosffer.  Mae’r newidiadau hyn yn mynd y tu hwnt i’r targedau arbed carbon gan y byddant o les i iechyd pobl Cymru ac yn rhoi cyfle i fyd natur ffynnu.

Maen nhw’n cynnwys cynlluniau ar gyfer sicrhau aer glanach, atal llygredd amaethyddol niweidiol a chamu’n bendant oddi wrth danwydd ffosil a thuag at ynni gwyrdd, gweithio at sector cyhoeddus yng Nghymru sy’n sero-net erbyn 2030 a gwneud mwy nag ailgylchu i wneud Cymru’n wlad ddi-wastraff.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ddatganiad hefyd ynghylch creu Coedwig Genedlaethol i Gymru, lle byddai ecosystemau coedwigoedd cysylltiedig yn estyn o un pen o’r wlad i’r llall.

Mae’r llwybr a argymhellir yng nghyngor yr CCC ar gyfer gostwng allyriadau yn golygu y byddai Cymru’n gwireddu ei hymrwymiadau o dan Gytundeb Paris, fel rhan o’r ymgais i gyfyngu twymo’r ddaear i 1.5°C.  Fodd bynnag, mae’r wyddoniaeth ddiweddaraf yn awgrymu bod pethau’n mynd i gyfeiriad lawer mwy difrifol, gydag adroddiad diweddar gan y Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod y ddaear ar drywydd i dwymo fwy na 3°C.  Rhagwelir y bydd hynny’n achosi tywydd mwy dinistriol, yn gorfodi cannoedd ar filiynau o bobl o gwmpas y byd i adael eu cartrefi, ac anrhaith anadferadwy i ecosystemau’r byd.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: 

“Ni oedd y wlad gyntaf yn y byd i gyhoeddi ei bod yn argyfwng hinsawdd ond byddwn nawr yn defnyddio’r wybodaeth newydd i droi ein huchelgais am Gymru Sero-Net yn realiti.  Er inni wneud ymrwymiad mewn cyfraith heddiw i gyflawni hynny erbyn 2050, fe wnawn bopeth yn ein gallu i daro’r nod ynghynt.  Mae’r rhagolygon ar gyfer hinsawdd y ddaear yn enbydus ac nid ydym am roi’r gorau i’n hymdrechion i atal allyriadau difrodus rhag cael eu pwmpio i’r atmosffer a thwymo’n planed. Nid yw gwneud dim yn opsiwn.

“Fel gyda Covid, bydd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnom i gyd, ond y gwir plaen yw mai ein cymunedau mwyaf bregus fydd yn dioddef waethaf.  Rhaid newid i Gymru Sero-Net mewn ffordd deg a chyfiawn, i sicrhau dyfodol gwyrdd a glân sy’n golygu swyddi o ansawdd uchel heb adael yr un gymuned ar ôl.

“Mae’r llifogydd diweddar yn ein hatgoffa o’r hafog y mae tywydd cyfnewidiol eisoes yn ei greu.  Mae’r wyddoniaeth yn dweud wrthym y bydd digwyddiadau o’r fath yn digwydd yn amlach ac yn cryfhau wrth i’r ddaear dwymo.

“Er ein bod yn wlad fach, rydym yn gwneud mwy na’n siâr o bethau iawn. Cymru oedd un o’r ailgylchwyr gwaethaf yn y byd cyn datganoli ond bellach, mae’n un o’r gorau.  Roeddem yn allweddol i’r chwyldro diwydiannol wrth inni gyflenwi glo i’r byd, ond rydym yn awr yn edrych tuag at ddyfodol o ynni a swyddi gwyrdd.  Rydym hefyd wedi gwahardd ffracio gan fod y peryglon i’r amgylchedd ac i ddiogelwch pobl Cymru’n rhy fawr o lawer.

“Ac efallai’n bwysicach na dim, ni yw’r wlad gyntaf yn y byd i greu Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, i sicrhau bod yn rhaid i unrhyw benderfyniad gan y Llywodraeth fod yr un iawn ar gyfer ein plant a phlant ein plant, a’u plant hwythau hefyd.

“Y targedau uchelgeisiol newydd hyn i wneud Cymru’n Sero-Net yw’r peth iawn i’w wneud, ond ni fydd yn hawdd. Trwy Covid rydym wedi dangos bod gweithio fel Tîm Cymru’n gallu arbed bywydau a diogelu’n GIG ac rwy’n apelio ar bawb i weithio â’r un ysbryd i greu Cymru iachach, glanach a gwyrddach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”