Araith 'Cymru Newydd Ddewr' gan Kirsty Williams, Y Gweinidog dros Addysg.
Bore da bawb, ac mae'n hyfryd cael bod gyda chi heddiw.
Efallai y byddech yn disgwyl i araith sy'n dathlu hanner canrif ers sefydlu'r Brifysgol Agored gael ei hysbrydoli gan:
Ynysoedd Scilly, lle credir bod Harold Wilson wedi amlinellu'r syniad ar gyfer Prifysgol yr Awyr pan oedd ar ei wyliau yno;
Neu Scarborough lle y traddodwyd ei araith enwog "white heat of technology";
Neu hyd yn oed Milton Keynes, sy'n gartref rhyngwladol i'r Brifysgol Agored.
Ond dwi'n mynd i ddechrau dipyn pellach i ffwrdd.
4,700 milltir i ffwrdd i fod yn fanwl gywir.
Texas
Fis Medi diwethaf, roeddwn wrth fy modd yn cael arwain dirprwyaeth addysg i dde'r Unol Daleithiau.
Fe wnaethom ni oruchwylio partneriaethau prifysgol newydd, aildanio'r berthynas arbennig rhwng Cymru ac 16eg Eglwys y Bedyddwyr yn Alabama, a chytuno ar gydberthnasau cenhadaeth ddinesig newydd.
Ond yn Texas, a Phrifysgol Houston i fod yn fanwl gywir, y byddwn ni'n dechrau.
Yno, ar y wal farmor, wrth y brif fynedfa, mae dyfyniad o adroddiad y pwyllgor addysg i Gyngres Gweriniaeth Annibynnol Texas ym 1839.
Y Cadeirydd oedd y Cynrychiolydd Ezekiel Cullen – a aeth ymlaen i gyflwyno'r ddeddfwriaeth a sefydlodd waddolion tir ar gyfer addysg gyhoeddus, o ysgolion i brifysgolion, yn Texas.
Cam mawr ymlaen o'r eglwysi a sefydliadau crefyddol, ac yn rhagddyddio'r 'grantiau tir' i brifysgolion mewn mannau eraill yn yr Unol Daleithiau.
Mae'r rhaglith i'r adroddiad yn nodi uchelgeisiau clir, cydlynol a hyderus – ac angenrheidiau – at ddiben addysg:
“Nid oes dim mor hanfodol mewn llywodraeth rydd â dosbarthiad cyffredinol gwybodaeth a deallusrwydd o bob math.
Mae addysg yn rhoi hapusrwydd preifat; Mae'n rhoi cryfder a phwysigrwydd gwleidyddol; Mae'n dyrchafu’r meddwl, yn coethi'r angerdd, yn caboli'r moesau; ac yn hyrwyddo rhinwedd.
Mae'n sylfaen i ryddid ac yn gyfystyr â chryfder a gogoniant cenedlaethol.”
Wrth i mi feddwl am deitl y digwyddiad heddiw – a'r syniad o 'Gymru Newydd Ddewr' a chyfraniad addysg a dysgu gydol oes – efallai y gallai pob un ohonom gymryd rhywfaint o ysbrydoliaeth oddi wrth y Lone Star State, a meddwl am addysg fel y lles dinesig, diwylliannol, economaidd, cymdeithasol a chenedlaethol.
Tarddiad
Yn fy mhrif araith gyntaf fel Gweinidog – yn ôl yn 2016, cyfeiriais at y modd y mae prifysgolion modern yr Unol Daleithiau a dyfodd o'r sefydliadau grantiau tir hynny yn diffinio eu hunain yn awr fel 'stiwardiaid lleoliad’.
Cafodd y gwaith hwnnw ddylanwad ar fy her cenhadaeth ddinesig i'r sector yng Nghymru, yn dilyn refferendwm yr UE.
Roedd angen i brifysgolion fyfyrio ar y pellter a oedd wedi dod i'r amlwg rhwng y campws a'r gymuned, ac mae angen gwneud hynny o hyd.
Mae'n her a ddylai barhau i ysgogi calonnau a meddyliau ledled y wlad.
Rhaid i'n prifysgolion gael eu gweld fel sefydliadau sy'n perthyn i gymunedau ledled Cymru ac sydd yno ar eu cyfer – yn eiddo i'w rhanbarthau a'u cenedl, wedi'u gwreiddio ynddynt ac yn atebol iddynt.
Rhaid iddynt barhau i helpu i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â chydlyniant cymdeithasol, dinasyddiaeth weithgar a thrafodaeth ddeallus – yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o drafodaethau gyda'r UE, y cyfnod sy'n arwain at etholiad y Senedd a grymoedd newidiadau technolegol ac economaidd.
Cwricwlwm
Felly, wrth i mi edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf – rwy’n ymwybodol hefyd fy mod i’n cyflwyno dau ddarn pwysig o ddeddfwriaeth addysg.
Un ar gyfer y cwricwlwm newydd ac un ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil.
Fe fyddan nhw'n sylfeini i fyd newydd dewr ar gyfer addysg yng Nghymru – yn deg ac yn rhagorol, yn ddinesig ac yn ddiwylliannol, yn uchelgeisiol ac yn llawn dyhead.
Rydw i wedi sôn o'r blaen bod ein diwygiadau i gwricwlwm yr ysgol yn cynrychioli golwg ehangach ar y system addysg hefyd.
Mae'n un sy'n manteisio’n helaeth ar draddodiad a chenhadaeth hanesyddol dysgu gydol oes ac addysg i oedolion.
Rydym yn llunio system sy'n cael ei phweru gan ddibenion a'r math o ddinasyddion yr hoffem eu gweld.
Rydym yn buddsoddi mewn cenhadaeth a rennir i ysbrydoli:
- Dysgwyr uchelgeisiol, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau;
- Cyfranwyr mentrus sy'n cyfrannu’n llawn at fywyd a gwaith.
- Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd; ac
- Unigolion iach a hyderus yn byw eu bywydau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Ac er y gallem eu mynegi mewn ffordd ychydig yn wahanol, credaf mai'r dibenion hyn – sy'n dwyllodrus o syml ond hefyd yn radical – yw'r hanfodion ar gyfer y system addysg gyfan.
Boed yn yr ystafell ddosbarth, yn y neuadd gymunedol, ar gampws, yn y gweithle, neu ar-lein.
Archwilio a phrofi syniadau a thystiolaeth.
Cymryd rhan mewn ymdrech gyffredin sy'n annog cwestiynu a herio.
Herio'r ffyrdd sefydledig o feddwl a threfnu.
Dod â gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau at ei gilydd – gyda thegwch gwirioneddol o ran mynediad, dyhead ac uchelgais.
A grymuso pob dinesydd, dysgwr, ymchwilydd a gweithiwr nid yn unig i ddeall a derbyn eu cymdeithas a'u sector.
Ond i'w newid, i fod yn hyblyg, i fod yn rhan o newid cymdeithasol ac economaidd go iawn.
Heriau'r genhadaeth ddinesig
Felly yn fy llythyr cylch gwaith blynyddol nesaf, a'r olaf, i CCAUC, byddaf yn cyflwyno amcanion cenhadaeth ddinesig pwysig ar gyfer y sector addysg uwch.
Rwy'n awyddus i weld mai ein prifysgolion ni yw:
y rhai sy’n ymgysylltu fwyaf,
y cyfranwyr mwyaf,
yr adnodd mwyaf
yn y dadleuon, yr heriau a'r problemau sy'n wynebu'r genedl a phob un o'n cymunedau.
Nhw yw stiwardiaid cymuned, dinas a gwlad.
Ac mae hynny'n dod gyda hawliau a chyfrifoldebau.
Mae'n golygu y dylai'r syniad o le – o berthyn i gymuned ac yno ar eu cyfer – fod yn nodwedd ddiffiniol o addysg uwch yng Nghymru.
Ac rydw i am i'r byd godi ar ei eistedd a gweld hynny.
Felly, amcanion y llythyr cylch gwaith fydd:
Yn gyntaf, rhaid i ymgysylltiad dinesig beidio â bod yn weithgaredd 'braf i'w gael', gweithgaredd ychwanegol sy’n dipyn o hwyl i brifysgol, dim ond rhywbeth y mae Kirsty Williams yn ei ddweud wrth brifysgolion sy'n bwysig.
Mae angen iddo fod yn rhan o DNA pob sefydliad, wedi'i brif-ffrydio i'w weithgaredd craidd, gyda phenderfyniadau ariannu a buddsoddi yn cymryd sylw llawn o genhadaeth ddinesig ac ymgysylltu gan ei fod yn berthnasol i strategaeth sefydliadol a'r cymunedau sy'n gartref iddynt.
Yn ail, rwy’n disgwyl gweld CCAUC – a dylai'r un peth fod yn berthnasol i'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn y dyfodol – yn gweithio gyda sefydliadau i sicrhau bod gweithgarwch ymgysylltu dinesig yn cael ei ddatblygu, ei gyflwyno a'i ymestyn yn y fath fodd fel ei fod yn cael ei gydnabod a'i fod yn weladwy i’r cymunedau sy’n gartref iddynt.
Mae hyn yn golygu gwella'r modd maen nhw’n cynnwys rhanddeiliaid lleol a rhanbarthol allweddol o fewn y broses honno, yn ogystal ag ar draws ac o fewn y prifysgolion eu hunain. Gobeithio y bydd y siarter llywodraethu ddiweddar yn helpu i symud yr agenda hon yn ei blaen.
Yn drydydd, rhaid annog a chymell sefydliadau i ddatblygu dulliau hygyrch a chreadigol o ddosbarthu a rhannu'n eang y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r arloesedd a gynhyrchir yn ein sefydliadau.
Mae hyn yn arbennig o berthnasol i adnoddau newydd ar gyfer ein cwricwlwm ysgol newydd, ond nid yw’n gyfyngedig i hynny.
Mae'r cwricwlwm newydd yn gyfle enfawr i academyddion o bob lliw a llun i gynhyrchu adnoddau i Gymru, wedi'u creu yng Nghymru – o ddeunydd am hanes Cymru i addysg ariannol, o Ddata Mawr i addysg Wleidyddol, ac o ieithoedd a llythrennedd i ddaearyddiaeth a newid hinsawdd.
Fy neges yw – p eidiwch â sefyll ar y cyrion, gan wneud sylwadau yn seiliedig ar ddarlleniad rhannol o'r cwricwlwm newydd – cyfranogwch, ewch ati i ysgrifennu, gweithiwch gydag athrawon, rhieni a chydweithwyr.
Ac mae cyllid ar gael.
Yn bedwerydd, ac yn olaf, rwyf am weld CCAUC yn datblygu ac yn gweithredu mesurau ymgysylltu dinesig, gan sicrhau bod Cymru yn arweinydd byd yn hyn o beth.
Dydw i ddim yn gofyn am dabl cynghrair di-raen.
Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni fod yn well am fesur a monitro'r gweithgaredd hwn, fel ei fod yn weladwy i fyfyrwyr, dinasyddion, y genedl, a'r byd!
Mae'r Comisiwn Prifysgolion Dinesig wedi galw am Fynegai Dinesig – mae'n amlwg bod y sector yn Lloegr yn symud ymlaen gyda'r agenda cenhadaeth ddinesig, ac mae perygl, lle'r oeddem ni ar flaen y gad ar un adeg, y gallem fod yn gorfod ceisio dal i fyny gyda nhw.
Dydw i ddim eisiau bod yn y sefyllfa honno, ac rwy'n siŵr nad yw'r sector chwaith.
Cymru sydd wedi arwain y ffordd ar y cyflog byw go iawn i'r holl staff;
Cymru sy'n arwain y ffordd ar ddiwygio llywodraethu,
Cymru sy'n arwain y ffordd ar geisio partneriaethau cenhadaeth ddinesig rhyngwladol.
Rhaid mai ni sy’n arwain y ffordd hefyd ar fesur a monitro ymgysylltiad dinesig – yn unol â'n traddodiadau 'Prifysgol y Werin', ond drwy dechnegau a dadansoddiadau modern.
Rydw i am weld y gwaith hwn yn digwydd yn gyflym, a chydag ymrwymiad ac ymroddiad gwirioneddol gan CCAUC, y sector a phartïon â diddordeb yma a thramor.
Mae gennym gyfle enfawr i arwain o'r tu blaen – rhaid i ni gydio ynddo.
I orffen
Wrth ddod â'm sylwadau i ben, dylwn gydnabod bod y Brifysgol Agored yng Nghymru yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol ar draws yr heriau cenhadaeth ddinesig hyn.
Ehangu addysg uwch o safon ledled y wlad – cynnydd o 80% a mwy mewn dysgwyr newydd ers ein diwygiadau cymorth i fyfyrwyr, gyda bron i hanner y myfyrwyr o'n cymunedau mwy difreintiedig.
Mynd yn ôl i ymwneud â hyfforddiant athrawon, cynnig llwybrau newydd a chyffrous i'r proffesiwn.
A gweithio gyda sefydliadau eraill ledled Cymru i drafod ac ymchwilio i gymunedau ledled y wlad, ar-lein ac mewn ffyrdd mwy traddodiadol, ond mae mwy eto i'w wneud.
Rydw i am ddychwelyd at adroddiad Ezekiel Cullen wnaeth fraeanaru’r tir ar gyfer addysg gyhoeddus yn Texas, rhyw gant ac wyth o flynyddoedd yn ôl.
Dyma oedd ei alwad i weithredu i’r Weriniaeth, er mwyn iddi ddilyn ei thrywydd ei hun:
“Deallusrwydd yw'r unig wir aristocratiaeth mewn Llywodraeth fel ein un ni.
Ac mae’r meddwl gwell a dysgedig – ddoe, heddiw ac yfory – yn drech na'r meddwl anwybodus ac anaddysgiedig.”
I mi, mae gan Gymru gyfle nawr i adeiladu ein haristocratiaeth ein hunain.
A hynny yw:
Gwir addysg gwasanaeth cyhoeddus, gan gyfuno tegwch a rhagoriaeth, gyda darpariaeth i bob dinesydd.
Ac fel mae'n dweud yn y cyflwyniad i ganllawiau'r Cwricwlwm newydd i Gymru, a gyhoeddwyd ychydig wythnosau’n ôl:
“Gwella addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol ni.
Nid oes dim mor hanfodol â bod y profiadau, yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar ein pobl ifanc ar gael yn gyffredinol ar gyfer cyflogaeth, dysgu gydol oes a dinasyddiaeth weithgar.
Y pedwar diben yw'r weledigaeth a'r dyheadau a rennir ar gyfer pob plentyn ac unigolyn ifanc.
Wrth gyflawni'r rhain, rydym ni'n disgwyl llawer oddi wrth bawb, yn hyrwyddo llesiant unigol a chenedlaethol, yn mynd i'r afael ag anwybodaeth a chamwybodaeth, ac yn annog ymgysylltiad sy'n feirniadol ac yn ymwybodol o ddinasyddiaeth.”
Gyda'n gilydd, gallwn ateb yr heriau hynny a llwyddo ar ein llwybr i'r Gymru Newydd Ddewr honno.