Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid i adrannau Llywodraeth y DU wneud mwy i weithio gyda Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru ar draws y byd ar ôl Brexit, yn ôl y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth annerch cynhadledd Canolfan Llywodraethiant Cymru / Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn hwyrach, bydd y Gweinidog yn dweud bod penderfyniad y DU i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn newid sylfaenol i'r amgylchedd rhyngwladol - sy'n golygu bod angen i Gymru godi ei phroffil rhyngwladol yn y byd ar ôl Brexit.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cydnabod pwysigrwydd codi proffil Cymru yn rhyngwladol, gan benodi Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol am y tro cyntaf.

Ar hyn o bryd, mae'r Gweinidog yn arwain gwaith i ddatblygu strategaeth ryngwladol newydd i Lywodraeth Cymru, a fydd yn ddogfen strategol â chyfeiriad newydd i ddangos sut bydd Llywodraeth Cymru yn ymwneud â gweddill y byd.

Yn benodol, mae'r Gweinidog am weld cydweithio agosach gyda Llywodraeth y DU - gyda Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd clir i'r adrannau a'r asiantaethau sy'n cynrychioli'r DU dramor ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl iddynt gyflawni disgwyliadau penodol yn ymwneud â Chymru a helpu’r Gweinidogion i gyflawni'r amcanion yn y strategaeth ryngwladol newydd.

Wrth siarad cyn y gynhadledd, dywedodd Eluned Morgan:

"Mae'n deg dweud ein bod ni'n sefyll ar drothwy byd newydd, a bydd rhaid i Gymru weithio'n galetach nag erioed i godi uwchlaw'r gystadleuaeth fyd-eang, i hyrwyddo'i hun ar lwyfan y byd.

"Am wlad fach, mae gan Gymru lawer i'w gynnig ac mae'n rhaid i ni wneud mwy i godi ein proffil rhyngwladol. Rydyn ni'n gweld lefelau uwch nag erioed o gyflogaeth a mewnfuddsoddi; twf mewn allforion, prifysgolion o'r radd flaenaf, sector bwyd a diod ffyniannus a nifer enfawr o asedau cenedlaethol a chryfderau naturiol. Rydyn ni’n cynnal ymchwil o'r radd flaenaf, yn cyflwyno deddfwriaeth arloesol - fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol - ac yn gwneud penderfyniadau polisi blaengar, dewr.

"Dyna'r ddelwedd rwy' am weld Cymru yn ei chyflwyno i'r byd.

"Felly bydd y strategaeth newydd rwy'n ei datblygu yn sicrhau ei bod, yn y bôn, yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol i bobl Cymru, a’i bod yn seiliedig ar gyfres glir o werthoedd a fydd yn ein helpu i hyrwyddo Cymru ar draws y byd. 

“Ond does dim modd i ni wneud hynny wrth ein hunain. Rydyn ni am i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wneud llawer mwy i weithio gyda Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru i'r byd. Rhaid iddyn nhw weithio law yn llaw gyda ni er mwyn sicrhau ein bod ni'n rhoi cyfarwyddyd clir i adrannau fel y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, yr Adran Masnach Ryngwladol, yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol a'r Weinyddiaeth Amddiffyn, yn ogystal â Visit Britain, British Council a'r BBC World Service ynghylch blaenoriaethau Cymru a'r ffordd rydyn ni'n disgwyl iddyn nhw gyflawni ar gyfer pobl Cymru.

"Felly rhan allweddol o'n strategaeth newydd fydd gosod amcanion clir a chyfeiriad strategol, nid yn unig ar gyfer Llywodraeth Cymru, ond hefyd ar gyfer pawb sy'n gweithio’n rhyngwladol er mwyn i ni dynnu i'r un cyfeiriad, gan weithio ar y cyd i lwyddo ar y cyd.

"Mae pobl Cymru yn disgwyl ac yn haeddu hynny."