Mae cysylltiadau economaidd Cymru â Japan wedi cael eu cryfhau mewn sioe i fuddsoddwyr yn Tokyo.

Daeth entrepreneuriaid a phobl fusnes o Japan o amrywiaeth o sectorau ynghyd ar gyfer prif ddigwyddiad y gweithgareddau sy'n cael eu cynnal i ddathlu Blwyddyn Cymru a Japan yn 2025, wedi'u trefnu gan Lywodraeth Cymru.
Trefnwyd Sioe Buddsoddwyr Cymru gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, i hybu manteision masnach hirdymor i'r ddwy wlad mewn meysydd fel ynni adnewyddadwy a thrawsnewid digidol.
Mae Cymru a Japan wedi bod yn bartneriaid ers amser hir iawn. Buddsoddodd y cwmnïau cyntaf o Japan yng Nghymru yn y 1970au ac erbyn hyn, mae Cymru yn gartref i 70 o gwmnïau o Japan.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
Mae perthynas ddofn wedi datblygu rhwng Cymru a Japan ers cenedlaethau bellach, gyda chysylltiadau masnach llewyrchus rhyngom ers y 50 mlynedd diwethaf.
Gydag economïau'r byd yn erfyn am sicrwydd a chyfleoedd i dyfu, mae'n amser da i ni gryfhau ein cysylltiadau â Japan. Mae'n galondid clywed cymaint o bositifrwydd ynghylch yr uchelgeisiau y mae'r ddwy wlad yn eu rhannu.
Diben Sioe Buddsoddwyr Cymru oedd gwneud cyflwyniadau, dyfnhau sgyrsiau a chwilio am gyfleoedd buddsoddi a dyfodol cynaliadwy, ffyniannus am y 50 mlynedd nesaf a thu hwnt i’r ddwy wlad.
Roedd yn gyfle hefyd i ddangos y sgiliau, y creadigrwydd, y traddodiad a'r galluoedd o safon byd mewn sectorau allweddol sy'n diffinio'r Gymru fodern.
Dywedodd Mr Kazushi Ambe, Uwch Gynghorydd Sony Group:
Mae'r bartneriaeth rhwng Cymru a Japan, a adeiladwyd dros fwy na hanner canrif, yn adlewyrchu parch dwfn rhwng y ddwy ochr, y gwerthoedd rydyn ni'n eu rhannu, a'r berthynas gref rhyngom.
Mewn cyfnod o newid cyson, mae'r rhinweddau hyn yn parhau i'n huno.
Roedd y sioe hon yn gyfle pwysig i gryfhau'r cwlwm hwn ymhellach ac ystyried posibiliadau newydd ar gyfer cydweithio.
Wrth i'r ddwy ochr wynebu heriau newydd a cheisio gwelliant, rwy'n gobeithio'n ddiffuant y bydd y bartneriaeth hon yn esblygu hyd yn oed ymhellach a pharhau i ffynnu.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn cynnal hefyd Ddiwrnod Cymru yn arddangosfa fawr ryngwladol Expo Osaka yn ystod ei hymweliad â Japan.
Bydd Llywodraeth Cymru yn trefnu hefyd ddwy daith fasnach i Japan yn ddiweddarach eleni i helpu busnesau i gael hyd i gyfleoedd allforio i Japan.