Ar ôl gwrando ar farn clinigwyr a grwpiau sy’n cynrychioli menywod, bydd canllawiau yn cael eu rhoi i fyrddau iechyd yng Nghymru heddiw.
Ar ôl gwrando ar farn clinigwyr a grwpiau sy’n cynrychioli menywod, bydd canllawiau yn cael eu rhoi i fyrddau iechyd yng Nghymru heddiw. Yn ôl y canllawiau hyn, bydd hawl yn awr gan fenywod hunanfeddyginiaethu â misoprostol, sef yr ail feddyginiaeth sydd ei hangen i gael erthyliad meddygol, yn eu cartrefi eu hunain.
Bydd yn ofynnol i fenywod sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer cael eu cynnwys yn y cynllun fynd i glinig ar gyfer cael mifepristone, y feddyginiaeth gyntaf. Wedi hynny, bydd opsiwn ganddynt i gael eu rhyddhau i fynd adref i hunanfeddyginiaethu â’r ail feddyginiaeth, misoprostol. Ond, os nad ydynt am wneud hynny, gallant hefyd ddewis mynd i glinig i gael y feddyginiaeth hon.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd:
“Dw i’n falch o gyhoeddi bod y gymeradwyaeth, sy’n caniatáu i’r ail ddos o feddyginiaeth ar gyfer terfynu beichiogrwydd gael ei gymryd gan fenywod yn y cartref, wedi cael ei rhoi i fyrddau iechyd heddiw.
Mae’r newid hwn mewn ymarfer yn rhoi mwy o ddewis i fenywod sy’n gofyn am erthyliad ac mae’n golygu eu bod nhw’n gallu cwblhau’r driniaeth yn yr awyrgylch lle maen nhw’n teimlo fwyaf cyfforddus.
Bydd hefyd yn torri ar y baich sy’n cael ei ysgwyddo gan adnoddau clinigol ar hyn o bryd. Bydd mwy o apwyntiadau ar gael i fenywod sydd am ddefnyddio gwasanaethau terfynu beichiogrwydd, a bydd mwy ohonynt yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth erthylu ar adeg gynharach yn ystod eu beichiogrwydd.”