Mae WorldSkills UK wedi cyhoeddi y bydd yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a phrosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau i gynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK 2025 yng Nghymru am y tro cyntaf erioed.
Bydd Cymru'n paratoi i groesawu talent gorau'r DU fis Tachwedd nesaf yn dilyn rownd derfynol hynod lwyddiannus yn Lyon ym mis Medi, lle daeth dau gystadleuydd o Gymru â gwobrau yn ôl â nhw i Gymru. Enillodd Ruben Duggen wobr Arian yn y categori Plymio, a phenderfynwyd mai Ruby Pile oedd yr ymgeisydd Gorau yn y Genedl am ei phroffesiynoldeb mewn Gwasanaethau Bwyty.
Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Sgiliau yn Llywodraeth Cymru:
"Fel cyn-brentis fy hun, roedd ennill wrth ddysgu yn drobwynt i mi, ac i brentisiaid fel Ruben.
"Rwy mor falch y bydd Cymru yn cynnal Rowndiau Terfynol WorldSkills UK 2025.
"Rwy'n siŵr y bydd llwyddiant Ruben eleni, a chroesawu'r gystadleuaeth genedlaethol i Gymru y flwyddyn nesaf, yn ysbrydoli llawer o ddarpar brentisiaid yng Nghymru yn y dyfodol."
Yn ystod y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol, bydd sgiliau pobl ifanc o bob rhan o'r DU yn cael eu hasesu mewn meysydd sydd mor amrywiol â Chynnal a Chadw Awyrennau, Creu Gemau Digidol 3D, Weldio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Coginio a Gosodiadau Trydanol. Efallai y bydd y rhai sy'n rhagori yn cael eu dewis i gynrychioli'r DU mewn cystadlaethau WorldSkills rhyngwladol yn y dyfodol.
Mae Cystadlaethau WorldSkills UK yn rhan annatod o'r calendr addysg a hyfforddiant ôl-16 ac yn denu dros 6,000 o bobl o bob rhan o Gymru, Lloegr a'r Alban i gofrestru bob blwyddyn. Mae’r cystadlaethau’n rhoi cyfle i sefydliadau addysg a chyflogwyr feincnodi gallu eu myfyrwyr a'u prentisiaid yn erbyn safonau rhyngwladol.
Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr, WorldSkills UK:
“Bydd yn wych dod â Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU i Dde Cymru y flwyddyn nesaf.
“Mae ein rhaglenni o gystadlaethau sgiliau yn ganolog i hybu rhagoriaeth mewn addysg dechnegol, gan helpu dysgwyr i ddangos eu parodrwydd ar gyfer swyddi medrus iawn mewn sectorau sy’n hanfodol i economi’r DU. Gan weithio gyda’n partneriaid yng Nghymru byddwn ni’n dathlu technegwyr ifanc gorau’r DU ac yn tynnu sylw at y rôl y mae sgiliau o’r radd flaenaf yn ei chwarae yn ein heconomi.”
Dywedodd Paul Evans, Llysgennad Sgiliau Cymru a Chyfarwyddwr prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau:
"Rydyn ni’n wrth ein bodd bod Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK yn dod i Gymru yn 2025.
"Ac rydyn ni’n gwybod yn iawn o’n cystadlaethau yng Nghymru bod cystadlu yn cynnig cyfleoedd sy'n newid bywydau pobl ifanc. Mae hefyd yn dod â mantais gystadleuol i gyflogwyr ac yn ehangu gwybodaeth ac arbenigedd ar draws y sector addysg a hyfforddiant.
"Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathlu sgiliau technegol a chroesawu'r gorau o bob rhan o'r DU i ddigwyddiad eithriadol."