Neidio i'r prif gynnwy

Cymru fydd y rhan gyntaf o'r DU i drefnu bod pigiad newydd unwaith y mis ar gyfer y rhai sy'n gwella ar ôl bod yn gaeth i heroin ar gael fel mater o drefn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y gwasanaeth newydd yn disodli gwasanaethau meddyginiaeth feunyddiol trwy’r geg i gefnogi'r rhai sy'n gwella ar ôl bod yn gaeth i heroin, gan helpu i leddfu’r  pwysau ar wasanaethau fferyllol a gwasanaethau'r GIG yn ystod pandemig y coronafeirws.

Pigiad sy’n para’n hir ac sydd wedi'i brofi'n glinigol yw’r driniaeth. Mae’r pigiad yn cael ei roi unwaith y mis. Bydd cyn-ddefnyddwyr heroin sy'n cael meddyginiaeth feunyddiol trwy’r geg ar hyn o bryd, drwy eu fferyllfa gymunedol fel arfer, yn cael eu sgrinio am eu haddasrwydd i gael y pigiad o buprenorphine sy’n cael ei ryddhau yn araf.

Bydd y pigiad yn lleihau faint o gyswllt sydd rhwng unigolion a staff gofal iechyd  rheng flaen a staff fferyllfeydd yn ystod pandemig y coronafeirws, tra'n parhau i ddarparu triniaeth ym maes camddefnyddio sylweddau. Bydd hefyd ar gael mewn carchardai yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:

Mae mwy o berygl i gyn-ddefnyddwyr heroin ddal y coronafeirws, gan y bydd ganddynt systemau imiwnedd gwannach a bydd gan lawer ohonynt gyflyrau iechyd isorweddol eraill, a hynny o ganlyniad i gamddefnyddio sylweddau.

Mae pobl sy'n cysgu allan ac sydd â phroblemau o ran defnyddio sylweddau yn fwy tebygol byth o gael cyflyrau anadlol a phroblemau iechyd sylfaenol eraill, sy'n eu rhoi mewn perygl mawr.

Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn helpu i sicrhau bod pobl yn parhau i gael cymorth ar gyfer eu caethiwed ac rydym yn parhau i leihau'r risg o ledaenu’r coronafeirws.

Mae'r staff mewn fferyllfeydd cymunedol ac yn ein gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn gwneud gwaith anhygoel mewn amgylchiadau anodd iawn. Mae lleihau eu llwyth gwaith a'r risg i'w hiechyd eu hunain yn hanfodol. 

Bydd y gwasanaeth newydd yn lleihau'r pwysau ar wasanaethau iechyd sydd eisoes yn brysur a bydd yn helpu i leihau'r risg o'r coronafeirws yn sgil ymweliadau dyddiol â fferyllfeydd cymunedol. Bydd hefyd yn sicrhau nad oes angen i'r bobl hynny y mae angen iddynt hunanynysu dorri cwarantin bob dydd i gael eu meddyginiaeth feunyddiol.

Mae £10m yn ychwanegol hefyd wedi'i ddarparu i helpu i gefnogi pobl sy'n ddigartref neu sy'n cysgu ar y stryd yn ystod pandemig y coronafeirws.

Bydd y cyllid ychwanegol, ynghyd â'r gwasanaeth chwistrellu newydd, yn helpu cyn-ddefnyddwyr heroin sy'n ddigartref i hunanynysu a dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol yn ddiogel a chael mynediad at gyfleusterau golchi dwylo a chyfleusterau hylendid sylfaenol eraill.

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James:

Mae digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau yn aml yn mynd law yn llaw. Mae pobl sy'n dioddef y ddau yn arbennig o agored i niwed yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae cyflwyno'r driniaeth hon, ynghyd â'r cyllid ychwanegol rydym wedi'i ddarparu i gartrefu a chefnogi'r rhai sydd heb gartref yn ddiogel, yn enghraifft o sut rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth i ddiogelu'r rhai y mae arnynt ei angen fwyaf.

Dywedodd Dr Julia Lewis, seiciatrydd caethiwed ymgynghorol, Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Arbenigol Gwent:

Bydd sicrhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r driniaeth hon yn lleihau'r pwysau ar ein gwasanaethau a fferyllfeydd cymunedol yn aruthrol, gan ein galluogi i ganolbwyntio ein gwaith ar y defnyddwyr gwasanaethau mwyaf agored i niwed, y mae gan lawer ohonynt anghenion cymhleth, gan gynnwys materion iechyd meddwl.