Mae Ken Skates, yr Ysgrifennydd Seilwaith wedi amlinelli eu cynlluniau ar gyfer buddsoddiad mewn seilwaith gwerth biliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru dros y 5 mlynedd nesaf.
Bydd y buddsoddiad, sy’n cynnwys gwelliannau mawr i’r M4, A55, A40 a’r A494, darparu Metro De Cymru, datblygu Metro Gogledd Cymru, masnachfraint newydd ar gyfer y rheilffyrdd, cronfa datblygu porthladdoedd, datblygu trydydd pont ar draws y Fenai, gwasanaethau bws gwell, mwy cynaliadwy, a mwy, dyma’r buddsoddiad mwyaf y mae Cymru wedi ei weld mewn cenhedlaeth.
Mewn araith i gynulleidfa o weithwyr trafnidiaeth a busnes ym Maes Awyr Caerdydd heddiw, bydd Ysgrifennydd yr Economi yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio er mwyn elwa i’r eifthaf o’r cyllid hanesyddol hwn, i sicrhau cymaint o fanteision â phosib i Gymru gyfan.
Dywedodd Ken Skates:
“Mae ein buddsoddiad hanesyddol, gwerth biliynnau o bunnoedd ac sy'n cynnwys arian Ewopeaidd sylweddol, yn dangos bod y Llywodraeth hon o ddifrif ynghylch darparu system drafnidiaeth o’r safon uchaf i Gymru – un sy’n cysylltu pobl a chymunedau i swyddi a gwasanaethau, mewn dull cynaliadwy, ac sy’n sbarduno ein heconomi.
“Mae ein rhwydwaith yn allweddol i ddarparu Cymru lewyrchus, i sicrhau ein hiechyd a’n llesiant cyffredinol ac i adeiladu cymunedau cydlynnol. Yr her inni yw defnyddio’r buddsoddiad hwn yn greadigol ar y cyd i ddatblygu system drafnidiaeth o safon fyd-eang mewn dull cynaliawy fydd yn cynnig y canlyniadau gorau un i Gymru.
“Rwyf hefyd am sefydlu dull ddoethach, hirdymor, wedi ei chynllunio yn well, ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth, o gynllunio ein rhwydwaith drafnidiaeth, a’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol, sy’n cael ei gynnig gennym, ochr yn ochr â’r Arweiniad ar Arfarnu a Chynllunio Trafnidiaeth Cymru newydd, fydd yn help i sicrhau hyn.”
O ran rheilffyrdd a bysiau, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi ei fod eisiau ariannu rheilffyrdd a bysiau lleol mewn ffordd ddoethach, gyda gwybodaeth well i deithwyr, system docynnau ddoethach a chynllunio trafnidiaeth rhanbarthol gwirioneddol, gan weithio’n barhaus tuag at gael metro yng Ngogledd a De Cymru.
Dywedodd hefyd y byddai’n defnyddio’r fasnachfraint newydd ar gyfer Cymru a’r Gororau, o fis Hydref 2018, fel cyfle i gynllunio ar gyfer y twf enfawr a ragwelir yn nifer y teithwyr ar drenau, ac i baratoi at y dyfodol mewn dull doeth a chlir.
Ychwanegodd Ysgrifennydd yr Economi:
“O ran gwelliannau mawr i’r ffyrdd, rwy’n cyhoeddi adroddiad technegol, economaidd ac amgylcheddol llawn o’m hadolygiad o gynllun yr M4, a gallaf gyhoeddi y bydd yr ymchwiliad cyhoeddus i’r M4 yn digwydd ar 28 Chwefror 2017, gyda chyfarfod cyn yr ymchwiliad ar 27 Ionawr.
“Ar yr atebion i’r tagfeydd ar yr A494 a’r A55, cynhelir yr ymgynghoriad ym mis Mawrth 2017. Bydd hwn yn edrych ar ddau gynnig ar gyfer prosiect Coridor Glannau Dyfrdwy, a bydd y ddau yn galw am fuddsoddiad o dros £200 miliwn – y buddsoddiad mwyaf gan Lywodraeth Cymru yn y ffyrdd hyn ers iddynt gael eu hadeiladu gyntaf.
“Daw heriau amlwg gyda’r agenda hon, ond mae hefyd yn rhoi cyfleoedd gwych am rwydwaith mwy, gwell, integredig, sydd â nifer o opsiynau sy’n bodloni anghenion pobl ledled Cymru.”
Yn ei araith, mae'r Ysgrifennydd y Cabinet wedi galw am ddatganoli mwy o bwerau trafnidiaeth i Gymru, gan gynnwys arian ar gyfer y rhwydwaith rheilffyrdd a phwerau newydd dros Dollau Teithwyr Awyr.
Mae pwerau tebyg dros Dollau Teithwyr Awyr eisoes wedi eu rhoi i Senedd Gogledd Iwerddon a’r Alban a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn galw am degwch i Gymru hefyd.