Mae Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd, wedi cyhoeddi y bydd byrddau iechyd Cymru, o heddiw ymlaen, yn gallu darparu gwasanaethau terfynu beichiogrwydd i fenywod o Ogledd Iwerddon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae Deddf Erthylu 1967 yn llywodraethu gwasanaethau Terfynu Beichiogrwydd. Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau terfynu beichiogrwydd ar gael i unrhyw fenyw sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru, neu unrhyw fenyw y mae angen triniaeth frys arni tra bo'n aros yng Nghymru. Dim ond mewn un o ysbytai'r GIG neu mewn clinig sydd wedi ei drwyddedu y mae modd cael y driniaeth. 

Yng Ngogledd Iwerddon, nid yw Deddf 1967 yn gymwys ac nid yw terfynu beichiogrwydd yn cael ei ganiatáu ond o dan rai amgylchiadau cyfyng iawn; er enghraifft os bydd bywyd menyw mewn perygl neu fod perygl parhaol neu ddifrifol i'w hiechyd corfforol neu feddyliol.  Nid yw trais rhywiol, cam-drin rhywiol o fewn y teulu (llosgach), nac abnormaledd yn y ffetws, yn amgylchiadau sy'n caniatáu i feichiogrwydd gael ei derfynu'n gyfreithlon yng Ngogledd Iwerddon.

Dywedodd Vaughan Gething: 

“Rydym ni o'r farn y dylai menywod o Ogledd Iwerddon allu cael mynediad, yng Nghymru, at wasanaethau terfynu beichiogrwydd yn yr un modd â menywod sy'n byw yng Nghymru.

"Rydym yn rhagweld mai nifer fach o fenywod o Ogledd Iwerddon fydd yn defnyddio'r gwasanaethau hyn ac mae'r byrddau iechyd wedi ein sicrhau y byddant yn gallu ymdopi â'r ddarpariaeth hon o fewn yr adnoddau presennol. 

"Rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar y sefyllfa eto ar ôl chwe mis."


Er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth hon yn cael ei darparu'n effeithlon i fenywod o Ogledd Iwerddon a sicrhau bod gwasanaeth teg yn cael ei ddarparu ar gyfer menywod yng Nghymru, bydd canllawiau ar y ddarpariaeth o wasanaethau terfynu beichiogrwydd yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi ar wefan Galw Iechyd Cymru.