Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cymru'n parhau i ailgylchu mwy o wastraff cartref na phob gwlad arall yn y DU, ac mae hyd yn oed mwy ar y blaen erbyn hyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ôl Ystadegau'r DU am Wastraff (dolen allanol) a gyhoeddwyd gan Defra heddiw, ailgylchodd cartrefi yng Nghymru 55.8 y cant o'u gwastraff y llynedd (2015). Mae hyn yn cymharu â 43.9 y cant yn Lloegr, 42 y cant yng Ngogledd Iwerddon a 42 y cant yn yr Alban.

Yn ystod y pum mlynedd ers i Defra gasglu'r data hwn, mae cartrefi yng Nghymru wedi gwella eu cyfradd ailgylchu o 44 y cant (yn 2010) i bron 56 y cant (yn 2015). Mae hynny bron yn un ar ddeg pwynt canrannol yn uwch na'r cyfartaledd yn y DU (44.3).

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths,

“Rwy’n croesawu’r ffigurau hyn sy’n dangos bod aelwydydd Cymru ar y blaen o safbwynt swm y gwastraff a gaiff ei anfon i’w ailgylchu. Cymru yw’r unig wlad yn y DU i osod targedau ailgylchu statudol ac mae’n amlwg fod ein dull gweithredu’n talu ar ei ganfed gan ein bod ar y blaen o’i gymharu â gwledydd eraill y DU. Mae awdurdodau lleol Cymru eisoes yn bodloni’r targed Ewropeaidd o ailgylchu o leiaf 50 y cant o wastraff erbyn 2020. Yn wir, rydym yn agos at gyflawni ein targed o ailgylchu 70 y cant o’n gwastraff erbyn 2025. Mae’r ffigurau hyn yn tystio i ymrwymiad deiliaid tŷ ac awdurdodau lleol ar draws Cymru.”

Mae ein strategaeth drosfwaol, Tuag at Ddyfodol Diwastraff, yn nodi sut y byddwn yn rheoli gwastraff yng Nghymru i greu manteision i'n heconomi a'n lles cymdeithasol yn ogystal ag i’r amgylchedd. Mae’r strategaeth yn amlinellu’r camau y mae’n rhaid i bob un ohonom eu cymryd os ydym am gyflawni ein huchelgais o ddod yn genedl ailgylchu erbyn 2025 ac yn wlad ddiwastraff erbyn 2050.