Beth rydym yn ei wneud
Mae'r canlynol yn cydweithio i gadarnhau paratoadau, adeiladu gallu ar y cyd a gwella cydnerthedd:
- Fforwm Cymru Gydnerth
- Fforymau Lleol Cymru Gydnerth
- asiantaethau eraill
Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar y gofynion sydd i’w gweld yn Neddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004.
Prif Weinidog Cymru yw cadeirydd Fforwm Cymru Gydnerth. Mae'r fforwm yn helpu asiantaethau a gwasanaethau i gyfathrebu’n glir â’i gilydd a chynllunio at argyfyngau mewn ffordd well.
Mae Tîm Partneriaeth Cymru Gydnerth yn darparu cefnogaeth i Fforwm Cymru Gydnerth. Mae'n gwneud hyn drwy is-grwpiau i ddatblygu cydnerthedd ar draws Cymru mewn meysydd fel asesiadau risg a marwolaethau ar raddfa eang.
Mae'r Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys yn dwyn ynghyd yr holl wasanaethau brys yng Nghymru, gan gynnwys GIG Cymru, Llywodraeth Cymru a'r lluoedd arfog ar y lefel uchaf, er mwyn ystyried eu cyfraniad at argyfyngau sifil a mesurau gwrthderfysgaeth. Ar ben hynny, maent yn edrych ar faterion ehangach sydd o ddiddordeb cyffredin ar draws y gwasanaethau.
Ar lefel leol, mae Fforymau Lleol Cymru Gydnerth, sy'n fforymau amlasiantaethol, yn gweithredu o fewn pedwar ardal yr Heddlu. Yr ardaloedd hynny yw De Cymru, Gogledd Cymru, Dyfed Powys a Gwent.
Mae'r fforymau lleol yn dwyn ynghyd yr holl sefydliadau ymateb sydd â dyletswydd i gydweithio dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl. Mae'r grwpiau hefyd yn cynnwys sefydliadau eraill a fyddai'n ymateb i argyfwng. Gyda'i gilydd, maent yn sicrhau eu bod yn paratoi ar gyfer argyfyngau drwy weithio mewn ffordd gyson ag effeithiol.
Fforwm Gwydnwch Lleol Dyfed Powys