Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun sero net sy'n nodi sut rydym yn cefnogi sgiliau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi cynllun gweithredu sgiliau i gefnogi ymrwymiadau ei chynllun sero net. Caiff sgiliau eu cydnabod yn elfen allweddol ar gyfer cyflawni newid.

Ein dull

Rydym wedi adeiladu ar ein dull partneriaethau a amlinellir yn Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach: Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau. Rydym wedi cynnal gweithgareddau meithrin cysylltiadau helaeth gyda rhanddeiliaid sydd wedi bod o gymorth i ddatblygu a llywio’r cynllun.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn pobl, sgiliau a doniau. Dyma elfennau hollbwysig sy’n ein harwain at economi gryfach, decach a gwyrddach. Mae Pontio Teg yn ganolog i’n dull gweithredu.

Y cynllun

Mae’r cynllun yn cadarnhau ymrwymiad y Llywodraeth tuag at gefnogi sgiliau.

Mae’r cynllun yn manylu ar dirwedd sectorau yng Nghymru ar hyn o bryd a sut rydym yn bwriadu cefnogi sgiliau sero net tuag at y dyfodol.

Rydym wedi cynnal gweithgareddau meithrin cysylltiadau helaeth gyda rhanddeiliaid. Mae’r cynllun yn amlinellu 7 maes blaenoriaeth a 36 o gamau gweithredu gyda’r nod o gyflawni newid a chefnogi sgiliau’r dyfodol.

Y 7 maes blaenoriaeth

  • Sicrhau dealltwriaeth o sefyllfa sgiliau pob Sector Allyriadau ar hyn o bryd.
  • Meithrin dealltwriaeth gyffredin ledled Cymru ynghylch sgiliau sero net.
  • Datblygu gweithlu medrus i gyflawni ein hymrwymiadau sero net.
  • Cryfhau systemau sgiliau.
  • Hyrwyddo cyfleoedd er mwyn i’r blynyddoedd cynnar a phobl ifanc wireddu eu potensial.
  • Dull trawslywodraethol a phartneriaethau er mwyn cyflawni ein hymrwymiad sgiliau.
  • Pontio Teg.

Mae’r cynllun yn cynnwys crynodeb o sefyllfa sgiliau ein 8 prif sector allyriadau ar hyn o bryd. [need to include link to annex and WCPP report here].

Mae’r cynllun hefyd yn dathlu rhai o’r llwyddiannau rydym eisoes yn eu gweld ledled Cymru. Gobeithiwn y bydd yr enghreifftiau hyn yn fodd o ysbrydoli ac ysgogi yn ogystal â’ch helpu chi i weld y gwaith gwych sydd eisoes ar waith a gweld y posibiliadau sy’n bodoli. Gan fuddsoddi mewn sgiliau byddwn yn helpu i gyflawni newid. Mae cyfres o astudiaethau achos wedi’u llunio er mwyn cefnogi’r cynllun.

Dim ond dechrau'r broses yw’r cynllun hwn, rydym yn sylweddoli na allwn gyflawni’r camau gweithredu ar wahân. Dull Cymru ar y Cyd yw’r unig ffordd y gallwn fwrw ati â’r newidiadau hyn a chyflawni ein hymrwymiadau sero net. Byddwn yn adeiladu ar ein llwyddiannau blaenorol o ran Partneriaethau Cymdeithasol, gweithio gydag undebau llafur, cyflogwyr a phartneriaid allweddol eraill. Byddwn yn gwneud hyn er mwyn cefnogi economi sy’n seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol

Meysydd i weithredu arnynt

Tirwedd sectorau

  • Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch gofynion sgiliau sy’n benodol i’r sector er mwyn llunio Map Trywydd Sgiliau ar gyfer pob sector.
  • Datblygu a chryfhau’r setiau sgiliau cywir ar gyfer pob sector.
  • Cyhoeddi Map Trywydd Sectorau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau.

Prif flaenoriaeth

  • Datblygu a chryfhau’r setiau sgiliau cywir ar gyfer pob sector.

Mae’r cynllun yn nodi sefyllfa sgiliau’r 8 prif sector Allyriadau yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae ymchwil a thystiolaeth a gomisiynwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi bod o gymorth i lunio’r cynllun. Gosodir hyn yn ei hadroddiad ‘Sgiliau sero net: mewnwelediadau a thystiolaeth o sectorau allyriadau yng Nghymru’.

Mae’r dystiolaeth a ganfuwyd wedi helpu i lywio’r sefyllfa sgiliau sero net ledled Cymru ar hyn o bryd. Mae anghenion a bylchau o ran sgiliau’r dyfodol wedi dod i’r amlwg yn ogystal â newidiadau mewn swyddi a galwedigaethau. Crynhoir hyn yn Atodiad 1: trosolwg o'r sector sgiliau allyriadau a themâu trawsbynciol.

Canlyniadau’r ymchwil sydd wedi llywio’r cynllun hwn yw’r man cychwyn. Mae angen ymchwil ehangach sy’n canolbwyntio’n fanylach. Bwriadwn gynnal ymarfer ymgynghori cyhoeddus yn nhymor y gwanwyn. Bydd hyn yn fodd o gefnogi’r gwaith o lunio map trywydd sgiliau ar gyfer pob sector allyriadau yng Nghymru.

Themâu trawsbynciol

Prif flaenoriaeth

  • Gwreiddio themâu trawsbynciol drwy gydol y gwaith o gyflawni’r cynllun.

Mae sgiliau sy’n croesi sawl sector yn thema o fewn y cynllun. Maent yn cynnwys digidol, y Gymraeg, caffael a’r economi gylchol. Bydd sgiliau yn y meysydd hyn yn fodd o wella a chefnogi’r sgiliau sy’n gysylltiedig â sectorau penodol.

Deall sgiliau sero net

  • Datblygu dealltwriaeth gyffredin ynghylch sgiliau sero net.
  • Codi ymwybyddiaeth, gwybodaeth a chyfleoedd.
  • Rhannu gwybodaeth ac arferion da.

Prif flaenoriaeth

  • Creu dealltwriaeth gyffredin ynghylch sgiliau sero net yn ogystal â chyfleoedd a gwybodaeth i bawb gan hyrwyddo diwylliant cadarnhaol.

Mae angen inni gyd ddeall yr hyn y maen nhw’n ei olygu inni, ein swyddi a’n busnesau. Mae’r cynllun yn nodi’r hyn rydym yn ei wybod hyd yma. Bydd y camau gweithredu a gyflawnwn yn fodd o helpu i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o’r hyn a olygir wrth sgiliau sero net. Mae astudiaethau achos yn gymorth i hyrwyddo arferion da. Hoffem gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch y gwaith gwych sydd eisoes ar waith yng Nghymru.

Rydym wedi dehongli sgiliau sero net mewn modd eang yn y cynllun. Gall yr hyn y maent yn ei olygu i bob sector amrywio a bydd yr hyn y maent yn ei olygu i bob rôl amrywio. Yr hyn sy’n bwysig yw’r modd y bydd swyddi a sgiliau yn newid a sut y maent yn cefnogi twf. Mae gan bob swydd y potensial i fod yn wyrdd, rhai i raddau mwy nac eraill.

Gweithlu medrus

  • Datblygu’r daith tuag at gymhwysedd.
  • Cefnogi ein cyflogwyr a’n partneriaid.
  • Darparu dulliau newydd o ran datblygu ein gweithlu medrus.

Prif flaenoriaeth

  • Cefnogi Cymru i feithrin gweithlu medrus er mwyn cyflawni ein hymrwymiad sero net mewn economi sy’n newid yn gyflym.

Nod y cynllun yw darparu opsiynau sy’n cefnogi busnesau i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth. Rydym yn awyddus i’w helpu i ddeall y manteision o fuddsoddi mewn sgiliau. Gall hyd yn oed newidiadau bach i arferion busnes helpu i gefnogi ein hymrwymiadau sero net.

O ran unigolion, mae hyn ynghylch dewisiadau a chyfleoedd gyrfa. Rydym yn awyddus i greu dealltwriaeth glir o’r llwybr sgiliau a chymwysterau ar gyfer pob galwedigaeth.

Mae angen gwirioneddol i amrywio’r gweithlu er mwyn mynd i’r afael â stereoteipiau galwedigaethol canfyddedig. Ein nod yw archwilio’r heriau ymhellach a deall y rhwystrau o ran meithrin cysylltiadau o’r blynyddoedd cynnar ymlaen.

Cyfleoedd o ran systemau sgiliau

  • Archwilio opsiynau i gryfhau ein systemau sgiliau.
  • Eglurder ynghylch y cynnig sgiliau.
  • Manteisio ar gysylltiadau â diwydiant er mwyn cefnogi prosesau rhannu gwybodaeth.

Prif flaenoriaeth

  • Cryfhau’r systemau sgiliau.

Bydd y gofyn am sgiliau sero net neu sgiliau gwyrdd yn cynyddu. Bydd swyddi yn newid wrth i sectorau ddatblygu ac addasu tuag at y dyfodol. Mae angen inni sicrhau bod systemau sgiliau yn diwallu’r gofyn hwnnw.

Sut y maen nhw’n newid i fod yn fwy hyblyg, ystwyth ac ymatebol?

Mae’r bennod hon yn archwilio’r heriau a wynebir wrth sicrhau’r sgiliau cywir, y seilwaith a’r elfennau sydd ynghlwm wrth hynny. Mae’n esbonio’r systemau sgiliau presennol a bod angen i’r elfennau ddod at ei gilydd i fynd i’r afael â’r heriau newydd.

Pobl ifanc a’r blynyddoedd cynnar

  • Dealltwriaeth ynghylch cyfleoedd ac opsiynau gyrfa.
  • Rhannu modelau arferion da ar gyfer rhaglenni ysgolion a chyflogwyr.

Prif flaenoriaeth

  • Hyrwyddo cyfleoedd er mwyn i’r blynyddoedd cynnar a phobl ifanc wireddu eu potensial.

Mae angen i Gymru gefnogi a chreu gweithlu ar gyfer y dyfodol. I wneud hyn, mae’n rhaid inni gydnabod yr angen i ysgogi pobl ifanc a meithrin cysylltiadau â hwy. Mae’n rhaid inni fod yn glir ynghylch y cyfleoedd gyrfa a byd gwaith y dyfodol.

Dull partneriaethau

  • Parhau â’n dull cydweithredol gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid.
  • Sefydlu gweithgorau egnïol a newydd i gyflawni newidiadau a’u gwreiddio.

Prif flaenoriaeth

  • Dull trawslywodraethol a phartneriaethau er mwyn diwallu ein hymrwymiad sgiliau.

Yr her: cefnogi’r daith sero net gan ddarparu’r sgiliau cywir. Rydym yn gwybod bod hyn yn golygu ymdrech sylweddol gan bawb. Rydym felly wedi mabwysiadu dull trawslywodraethol a phartneriaethau eang.

Rydym wedi meithrin cysylltiadau yn eang er mwyn llunio’r cynllun hwn. Rydym wedi ceisio cyngor ac yynmgynghori â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, yn gyfanswm o dros 200 ohonynt.

Mae’r canlyniadau wedi ein helpu i lywio’r cynllun hwn a llunio’r camau gweithredu y byddwn yn eu cyflawni gyda’n gilydd.

Pontio Teg

  • Hyrwyddo camau gweithredu cadarnhaol er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.
  • Dysgu am ddulliau newydd sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil ac addasu iddynt.
  • Gwreiddio themâu trawsbynciol drwy gydol y gwaith o gyflawni’r cynllun.

Prif flaenoriaeth

  • Cefnogi Pontio Teg.

Mae cyflawni pontio teg yn golygu nad ydym yn gadael neb ar ôl.

Rydym wedi nodi sut y byddwn yn gweithio i ddatblygu dealltwriaeth glir o’r effeithiau yn sgil newidiadau. Rydym wedi ymrwymo i ddysgu gwersi o’r gorffennol a datblygu dyfodol i Gymru sy’n cefnogi economi lesiant.

Cyfrifon dysgu personol gwyrdd

Bydd cyfrif dysgu personol yn eich galluogi i astudio cyrsiau rhan-amser hyblyg wedi'u hariannu'n llawn o gylch eich cyfrifoldebau presennol.

Mae’n bwysig darparu cyfleoedd i unigolion uwchsgilio neu ail-hyfforddi. Ystyrir hyn yn sbardun allweddol ar gyfer sicrhau’r sgiliau cywir sydd eu hangen i gefnogi ein taith sero net.

Ein nod yw cefnogi sgiliau sero net newydd a’r rhai sy’n dod i’r amlwg a hynny mewn sectorau sydd wedi’u targedu.

Bydd y buddsoddiad newydd yn cael ei gyflawni yn yr un modd â phrif raglen cyfrifon dysgu personol (Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfrifon dysgu personol ar wefan Gyrfa Cymru), ond bydd hefyd yn cynnwys:

  • sectorau perthnasol (gan gynnwys y sectorau ynni, adeiladu, peiriannu a gweithgynhyrchu)
  • dileu’r cap enillion o £30,596

Panel diwydiannau arbenigol

Mae panel arbenigol wedi’i sefydlu i gefnogi’r gwaith o gymeradwyo cyrsiau o dan y cynllun treialu cyfrifon dysgu personol gwyrdd. Mae’r panel yn cynnwys colegau, arbenigwyr o’r sectorau ac arbenigwyr o’r diwydiannau. Y nod yw sicrhau bod y cyfleoedd uwchsgilio hyn sydd wedi’u targedu yn diwallu anghenion diwydiannau.

Cyrsiau wedi’u cymeradwyo

Mae rhestr o gyrsiau wedi cael eu cymeradwyo i'w darparu gan ein rhwydwaith o Golegau Addysg Bellach Cymru.