Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach: Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau
Papur Cabinet CAB(21-22)71
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Angen gwneud penderfyniad
Gofynnir i’r Cabinet gytuno i:
- gyhoeddi a rhoi gwybod am y Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau, a
- sicrhau bod yr egwyddorion yn cael eu hymgorffori mewn polisi a gweithredu ar draws y llywodraeth.
Crynodeb
1. Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn gosod amcanion clir i greu Cymru lle gall unigolion o bob oed gael addysg o ansawdd uchel, gyda swyddi i bawb, a lle gall busnesau ffynnu mewn economi sero net sy'n hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb.
2. Mae'r Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau yn rhoi'r Rhaglen Lywodraethu wrth wraidd popeth sy’n cael ei wneud gennym – er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, nac yn cael ei ddal yn ôl, a hynny drwy ymrwymiad cyffredin i newid bywydau pobl er gwell.
3. Mae’r Cynllun newydd, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ar 8 Mawrth 2022, yn dangos blaenoriaethau polisi a buddsoddi clir, yn mireinio ffocws ein gwaith a gweithgarwch partneriaid ar gamau gweithredu dros dymor y Llywodraeth hon a fydd yn gadael gwaddol cadarnhaol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
4. Mae'n ailddatgan ein nodau tymor hwy i gyflymu’r cynnydd ar draws y gyfres gyntaf o Gerrig Milltir Cenedlaethol a osodwyd ym mis Rhagfyr 2021, a sbarduno ymateb ar y cyd ar draws yr holl gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Amcan y papur
5. Mae’r Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau yn ceisio:
- hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o effeithiau, tueddiadau a chynnydd y farchnad lafur hyd yma
- nodi camau gweithredu a buddsoddiadau Llywodraeth Cymru i newid polisi a gweithredu er mwyn ymateb i anghenion y farchnad lafur ar hyn o bryd ac yn y dyfodol a gostyngiadau yng nghyllid yr UE.
- nodi meysydd lle mae angen i ni gyflymu cynnydd gyda'n gilydd, a disgwyliadau o ran cyflymu’r gweithredu ar Gerrig Milltir Cenedlaethol a rhannu'r cyfrifoldeb am ddatblygu Cymru decach.
6. Cyhoeddwyd y Cynllun Cyflogadwyedd presennol yn 2018 ac roedd nodi ein huchelgeisiau i leihau diweithdra ac anweithgarwch economaidd, ymateb i fylchau mewn sgiliau, paratoi pobl ar gyfer byd gwaith yn y dyfodol, a gwella cyfrifoldeb cyflogwyr am waith teg hefyd.
7. Mae’r targedau deng mlynedd yn rhedeg tan 2028, ac er bod targedau ac amcanion y cynllun yn dal yn berthnasol, mae'r cyd-destun o ran gweithredu, ariannu ac economaidd wedi newid yn sylweddol.
Cyd-destun y farchnad lafur
8. Mae Cymru wedi gweld gwelliant sylweddol yn y farchnad lafur ers i'r Cynllun Cyflogadwyedd gael ei gynhyrchu yn 2018. Fe wnaethom gyrraedd ein targed o gau'r bwlch diweithdra gyda'r DU ar sawl pwynt, ac mae lefelau diweithdra yng Nghymru yn parhau'n is na'r DU. Mae cyfran y bobl 18-64 oed heb unrhyw gymwysterau wedi gostwng o 8.4% yn 2018 i 7.3% yn 2020, ac mae'r rhai â chymwysterau addysg uwch wedi cynyddu o 37.8% i 41.4%. Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru, yn seiliedig ar enillion canolrifol llawn amser fesul awr, wedi gostwng o 7.3% i 5% ac mae bellach ar ei gyfradd isaf erioed. I weithwyr rhan-amser, mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi'i gau.
9. Roedd mwy o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru yn y tri mis hyd at fis Hydref nag oedd cyn y pandemig. Roedd y gyfradd ddiweithdra, sef 3.7%, yn is na chyfradd y DU o 4.2%. Mae cynnydd mawr wedi digwydd mewn cyflogi, gan arwain at y gymhareb isaf erioed o ddiweithdra i swyddi gwag yn y DU.
10. Er bod ychydig o optimistiaeth ar hyn o bryd am y farchnad lafur a rhagolygon economaidd yng Nghymru, mae nifer o risgiau. Mae hyn oherwydd prinder o rai gweithwyr allweddol, tagfeydd yn y gadwyn gyflenwi, prisiau ynni uwch a chyfraddau chwyddiant o hyd at 7%, sy’n gyfradd na welwyd mewn 30 mlynedd. Mae'n ddigon posibl y gallai chwyddiant uwch amharu ar gynnydd drwy erydu incwm a phŵer gwario. Mae gwahaniaethau sylweddol hefyd rhwng grwpiau yn hyn o beth, yn enwedig ar gyfer pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, pobl anabl a rhieni sengl.
11. Un gwaddol bwysig yn sgil Covid yw'r tebygolrwydd o ragolygon cyflogaeth gwaeth i'r bobl ifanc hynny, o gefndiroedd difreintiedig yn bennaf, sydd wedi dioddef fwyaf oherwydd tarfu ar eu haddysg. Roedd gan Gymru a'r DU gyfraddau cymharol uchel o ddiweithdra ymysg pobl ifanc eisoes o'i gymharu â llawer o wledydd eraill.
12. Yn y cyfamser, mae anweithgarwch economaidd, ac achosion o waith ansawdd gwael, gwaith cyflog isel a gwaith ansicr yn parhau i beri pryder. Mae pobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd a Ethnig Leiafrifol a'r rhai â chyflyrau iechyd yn parhau i gael eu tangynrychioli'n sylweddol yn y farchnad lafur, gydag unrhyw welliant yn arafu. Roedd yr ymgynghoriad ar y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol hefyd yn tynnu sylw at y rhwystrau i symud ymlaen mewn cyflogaeth i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ac mae tystiolaeth debyg mewn perthynas â phobl anabl. Mae bylchau cyflog parhaus i bobl anabl (9.9%), menywod (5%) a gweithwyr o leiafrifoedd ethnig (1.4%) o gymharu â'r boblogaeth gyffredinol yng Nghymru.
13. Gwelwyd cynnydd mewn anweithgarwch ymhlith y rhai dros 50 oed o ganlyniad i’r pandemig oherwydd afiechyd a/neu ymddeoliad cynnar ac yn achos y rhai dros 65 oed yn benodol, mae mwy o fenywod na dynion wedi gadael y farchnad lafur. Nid yw'n glir a yw "Covid hir" yn ffactor sy'n cyfrannu at hyn, ond gallai hyn fod yn broblem gynyddol.
14. Yn y tymor hwy, yr her economaidd allweddol o hyd yw twf cynhyrchiant sy’n wan hanesyddol yng Nghymru a'r DU, ac wedi arwain at dwf araf iawn mewn cyflogau, safonau byw a'r sylfaen drethi y mae gwasanaethau cyhoeddus yn dibynnu arni. Yn ogystal, newidiadau strwythurol sy'n gysylltiedig ag (a) y newid i gysylltiadau masnachu newydd â'r UE a gwledydd eraill, (b) y newid i economi carbon isel/di-garbon, (c) cynnydd mewn gweithio o bell a gweithgarwch arall o bell, a (d) newid technolegol yn fwy cyffredinol, yn cyfuno i achosi amrywiaeth o heriau. Mae'r union oblygiadau ar gyfer sgiliau a chyflogadwyedd yn ansicr, ond bydd angen i bolisi addasu'n hyblyg i amgylchiadau sy'n newid yn gyflym a pharhau i fod yn berthnasol ar draws ystod eang o sefyllfaoedd.
Y cyd-destun o ran gweithredu ac ariannu
15. Mae Llywodraeth y DU yn dylanwadu mwy ar y maes hwn o ddarparu gwasanaethau drwy weithredu sylweddol ar Swyddi a Sgiliau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) er mwyn ymateb i effeithiau pandemig, a'r cynlluniau a nodir yn y Papur Gwyn Codi’r Gwastad. Fodd bynnag, mae canllawiau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn nodi y dylai cynlluniau awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ystyried y sefyllfa ariannu ehangach, gan gynnwys cynlluniau cyflogaeth a sgiliau cenedlaethol neu leol eraill.
16. Bydd Llywodraeth Cymru yn colli'r cyllid sylweddol a gawsom gan Ewrop ar gyfer yr agenda hon. Mae'r system mewn perygl o fynd yn fwy tameidiog gyda bylchau'n dod i'r amlwg, yn enwedig i'r rhai sydd ymhellach o'r farchnad lafur a oedd eisoes dan anfantais cyn y pandemig.
17. Yn wyneb llai o gyllid a llai o ymreolaeth i wneud penderfyniadau, rydym yn ceisio ychwanegu gwerth yn hytrach na dyblygu cynnig cyflogaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau a chanolbwyntio ar ddull trawslywodraethol o hyrwyddo ein nodau ar gyfer Cymru Decach.
5 blaenoriaeth a amlinellir yn y cynllun
18. Hyrwyddo cyfranogiad, datblygiad a chyflogaeth ieuenctid
Cyflawni Gwarant i Bobl Ifanc - rhoi'r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed.
19. Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd
Ffocws ar wella canlyniadau'r farchnad lafur ar gyfer cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leafrifol, menywod, pobl anabl a'r rhai â sgiliau isel.
20. Hyrwyddo Gwaith Teg i bawb
Drwy annog cyflogwyr i wneud gwaith yn well, yn decach ac yn fwy diogel; hyrwyddo rôl undebau llafur; grymuso busnesau cyfrifol; gwella ansawdd cyflogaeth; cynyddu amrywiaeth y gweithlu; a gwella’r pwyslais ar atal a thrin problemau iechyd corfforol ac iechyd meddwl.
21. Cefnogi pobl sydd â chyflwr iechyd hirdymor i weithio
Drwy atal pobl rhag mynd allan o waith drwy atal afiechyd, ymyrraeth gynnar, gweithleoedd iach a gwneud y mwyaf o rôl y gwasanaeth iechyd fel prif gyflogwr.
22. Codi lefelau sgiliau a chymwysterau, a symudedd y gweithlu
Drwy ehangu'r system o ddysgu hyblyg a phersonol er mwyn datblygu sgiliau addasol i gynyddu gwydnwch y gweithlu, i bawb sydd angen help i symud ymlaen, gwella eu sgiliau, dod o hyd i waith neu ailhyfforddi.
Datblygiadau allweddol
23. Blaenoriaethu a chydgrynhoi cymorth cyflogadwyedd cenedlaethol a arweinir gan Lywodraeth Cymru i dargedu pobl ifanc, y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur a'r rhai sydd i mewn ac allan o waith sydd â chyflyrau iechyd hirdymor er mwyn eu helpu i ddod o hyd i waith a chamu ymlaen mewn cyflogaeth.
24. Mynd ar drywydd concordat cryfach gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i wella ymgysylltiad cynnar a chydgynllunio yng Nghymru ar ddylunio a defnyddio ymyriadau er mwyn sicrhau'r ddarpariaeth genedlaethol orau er budd pawb.
25. Hyrwyddo gwaith teg i wella'r cynnig i weithwyr, gan gynnwys ysgogi gwelliant mewn cyflogau ac amodau gwaith, yn enwedig yn y sectorau hynny lle mae prinder llafur a gwaith ar gyflogau isel, anwadal ac ansicr.
26. Ehangu'r gefnogaeth i'r rhai sy'n newid gyrfa a gweithwyr hŷn drwy Adolygiadau Canol Gyrfa, a Chyfrifon Dysgu Personol i gefnogi gweithwyr i uwchsgilio neu ailsgilio i gael mynediad at ystod ehangach o gyfleoedd gwaith.
27. Rhoddwyd ffocws newydd ar y system iechyd fel rhan bwysig o’r agenda hon yn Cymru iachach: cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol a’n gweledigaeth hirdymor ar gyfer dull gweithredu system gyfan mewn perthynas â iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r cynllun yn cynnwys camau i gryfhau rôl graidd byrddau iechyd lleol o ran atal ac ymyrraeth gynnar drwy bresgripsiynu cymdeithasol, a mwy o gymorth cyflogadwyedd a therapi galwedigaethol i bobl sydd i mewn ac allan o waith sydd â salwch meddwl a chyflyrau iechyd hirdymor.
28. Hyrwyddo cydgyfrifoldeb ar gyfer gweithredu’r cynllun drwy'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), dull system gyfan o ymdrin â'r Warant i Bobl Ifanc, sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, cryfhau gwerth cymdeithasol Llywodraeth Cymru a buddsoddiad Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a datblygu dull seiliedig ar waith o ymdrin â datblygu economaidd.
Gweithredu
29. Mae'r cynllun yn dwyn ynghyd 29 o ymrwymiadau trawslywodraethol y Rhaglen Lywodraethu sy'n sail i bolisi cyflogadwyedd. Mae gwaith sylweddol eisoes ar y gweill i symud ymlaen â’r Warant i Bobl Ifanc, adolygiad o'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, Prentisiaethau, Cyfrifon Dysgu Personol ar gyfer y rhai sy’n newid gyrfa ac ehangu'r blynyddoedd cynnar a’r Cynnig Gofal Plant.
30. Mae'r camau gweithredu sy'n weddill yn amlinellu newidiadau polisi sy’n angenrheidiol i gyflawni ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu i gydraddoldeb hiliol, dileu bwlch cyflogaeth pobl anabl, a chyflog cyfartal a Gwaith Teg. Yn ogystal â gweithredu i hyrwyddo amcanion y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol a sicrhau gwell canlyniadau i'r rhai sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol.
31. Mae llawer o'r rhaglenni sy'n sail i'r cynllun eisoes yn eu lle ac ar waith 32015772ar hyn o bryd, gyda Thwf Swyddi Cymru a Mwy i fod i gael ei lansio ym mis Ebrill 2022. Bydd hyn yn disodli Twf Swyddi Cymru a Hyfforddeiaethau. Mae gwaith ar y gweill i esblygu a gwella gwasanaeth Busnes Cymru a datblygu modelau gweithredu Cyflogadwyedd Cymunedol newydd y tu hwnt i'r cyfnod ariannu Ewropeaidd.
32. Mae'r cynllun yn nodi ein bwriad i greu'r newidiadau gweithredol angenrheidiol er mwyn sicrhau mwy o integreiddio, cydweithio a hyblygrwydd i wneud y defnydd gorau o adnoddau yn y dyfodol. Yn benodol, trefnu’r ddarpariaeth a'r adnoddau presennol i dargedu'r grwpiau y mae angen cymorth arnynt fwyaf, tra'n cynnal hyblygrwydd i ymateb i newid yn y farchnad lafur a newidiadau polisi ac ariannu yn y dyfodol.
33. I’r perwyl hwn, mae gwaith ar y gweill i wella integreiddio a llwybrau cleientiaid ar draws Cymru'n Gweithio, Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol, ReAct a'r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd. Bydd hyn yn galluogi cydweithio ar lefel leol a rhanbarthol, a arferai fod yn anodd o fewn rheoliadau Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
34. Mae'r cynllun yn adlewyrchu ein dull o ddiwygio'r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol a sefydlu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Mae hefyd yn cynnwys datblygiad sydd ar y gweill ar gyfer cyflwyno Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net Cymru yn hydref 2022, a fydd yn ystyried ac yn nodi newidiadau i bolisi a darpariaeth er mwyn sicrhau y gall y system sgiliau gefnogi ein taith i Sero Net.
35. Gofynnwyd am sicrwydd annibynnol yn ddiweddar ar y dull gorau o weithredu'r cynllun, a bydd hyn yn llywio datblygiadau yn y ffordd yr ydym yn rheoli gweithgarwch cyflogadwyedd yn y dyfodol er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf posibl, yn enwedig i ymateb i'r cam nesaf o gynllunio ar gyfer colli cyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Monitro
36. Mae'r cynllun yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i gyrraedd Cerrig Milltir Cenedlaethol Cymru. Mae'r cerrig milltir yn debygol o ychwanegu lefel ychwanegol o graffu ar ein cynnydd o ran mynd i'r afael â lefelau cyflogaeth grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, cyflog teg, codi lefelau cymwysterau a gwaith teg.
37. Mae Atodiad Technegol B yn nodi'r llwybr presennol, y meysydd i gyflymu cynnydd, a threfniadau monitro ac adrodd ar gyfer y Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau.
Cyfathrebu a chyhoeddi
38. Bydd y cynllun yn cael ei lansio drwy Ddatganiad Llafar yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 8 Mawrth 2022.
39. Dylid cyhoeddi'r papur chwe wythnos ar ôl y cyfarfod priodol.
Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi
Chwefror 2022
Atodiad A: Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau
Materion statudol, ariannol, cyfreithiol a llywodraethu
Gofynion statudol
Hanfod y Cynllun a'r Papur Cabinet yw cysoni polisi cyflogadwyedd â'r Rhaglen Lywodraethu a Cherrig Milltir Cenedlaethol newydd i Gymru, er mwyn hyrwyddo Nodau Llesiant Cymru.
Yn y dadansoddiad a gyflwynwyd yn y papur, a’r dadansoddiad ac asesiad effaith dilynol, mae cyfranogiad anghyfartal yn y farchnad lafur a chanlyniadau penodol Covid yn effeithio’n arbennig ar y rhai sydd o dan anfantais economaidd neu anfantais arall, yn enwedig yn ôl oedran, rhyw, anabledd neu nodwedd warchodedig arall.
Gofynion ariannol a goblygiadau o ran llywodraethu
Nid yw’r Papur Cabinet a’r Cynllun yn ceisio unrhyw ymrwymiad ariannol ychwanegol gan y Cabinet. Mae'r Cynllun yn seiliedig ar lefelau ariannu a nodwyd yng Nghyllideb Ddrafft Rhagfyr 2021.
Mae rhai risgiau a heriau mewn perthynas â materion adnoddau sy'n effeithio ar nifer o ymyriadau sgiliau allweddol, ond caiff y rhain eu rheoli i sicrhau bod ymrwymiadau'n cael eu cyflawni yn ystod tymor y llywodraeth hon.
Dylid nodi bod y farchnad lafur a'r cyd-destun economaidd, a lefel a chwmpas gwariant Llywodraeth y DU ar ddarpariaeth SPF a'r Adran Gwaith a Phensiynau yn parhau'n ansicr. Fodd bynnag, mae'r camau gweithredu a amlinellir yn y cynllun yn rhagweld lefel o ansicrwydd ac yn ceisio sicrhau lefel o hyblygrwydd mewn polisi ac ymyrraeth i ymateb i newid mewn amgylchiadau.
Nid yw’r Papur Cabinet a’r Cynllun yn arwain at unrhyw faterion cyfreithiol uniongyrchol. Fodd bynnag, bydd swyddogion yn cael cyngor ar brosiectau penodol fesul achos er mwyn sicrhau bod y prosiectau hynny'n cael eu cyflawni mewn modd sy'n cydymffurfio'n gyfreithiol. Yn benodol, bydd y Gwasanaethau Cyfreithiol yn cael eu cynnwys i asesu prosiectau newydd o safbwynt pwerau, a bydd trefniadau ariannu, grantiau neu gymhellion arfaethedig yn cael eu hasesu i gydymffurfio â'r drefn rheoli cymhorthdal cyn eu gweithredu.
Cymeradwyaeth ariannol:
- Is-adran y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth: BGB0315/6
- Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes: SHELL/MFE/130/21
- Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus - EPS/VG/2/22
- Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: NJ 8293/2022
- Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi - Ymchwil neu ystadegau: 04/2022
Colli Cronfeydd Strwythurol yr UE
Gan ein bod yn colli Cronfeydd Strwythurol yr UE ar ôl diwedd 2023 a bod Llywodraeth y DU wedi methu â darparu cronfeydd newydd yn eu lle a rôl gyd-benderfynu ar gyfer Llywodraeth Cymru, rydym yn rhagweld diffyg cyllid sylweddol i gyflawni rhai blaenoriaethau buddsoddi economaidd. Bydd hyn yn creu pwysau ariannol ar ystod eang o sectorau, yn enwedig Addysg Uwch/Addysg Bellach, busnes a'r trydydd sector, yn ogystal ȃ gwaith Llywodraeth Cymru i gyflawni cynlluniau Cymru gyfan gyda phartneriaid. Mae prosiectau Cymru gyfan Llywodraeth Cymru sy'n cael eu hariannu ar hyn o bryd gan Gronfeydd Strwythurol yr UE ac sy'n canolbwyntio ar Gyflogadwyedd yn cynnwys: Busnes Cymru (gan gynnwys Cymorth Digidol); Cyllid y Trydydd Sector drwy CGGC; ReAct; Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau; Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE); a Cymunedau am Waith (CfW).
Pe bai'r DU wedi aros yn yr UE, byddai gan Gymru fynediad at lu o raglenni cyfredol yr UE ar gyfer ymrwymiadau a wnaed eisoes i brosiectau, yn ogystal â mynediad at ddyraniadau newydd, sef o leiaf £375m y flwyddyn ar gyfartaledd. Mae dyraniadau’r Gronfa Adnewyddu Cymunedau a’r Gronfa Partneriaeth Gymdeithasol yn y dyfodol yn ostyngiad sylweddol yn y cyllid sydd ar gael i sefydliadau yng Nghymru at ddibenion buddsoddi economaidd.