Mae Cymru Greadigol wedi darparu cyngor ac arweiniad i Fictioneers wrth greu Wallace & Gromit: The Big Fix Up, An Augmented Reality Story, lle mae’r cymeriadau poblogaidd, a grëwyd gan Aardman, ar genhadaeth i ‘drwsio’ dinasoedd drwy ap ffôn rhyngweithiol newydd.
Cafodd The Big Fix Up ei lansio’r mis hwn, a dyma antur gyntaf Wallace a Gromit mewn realiti estynedig. Mae’r antur yn ganlyniad partneriaeth rhwng consortiwm cryf yng Nghymru, Fictioneers, ac Ardman – stiwdio annibynnol sydd wedi ennill llawer o wobrau. Gydag anogaeth a chymorth gan Gymru Greadigol, arweiniodd y cwmni o Gymru Tiny Rebel Games gynnig consortiwm i greu Fictioneers gyda stiwdio arloesol, aml-sgil arall o Gymru, Sugar Creative, a Potato, stiwdio sy’n creu cynhyrchion digidol, a leolir yn Llundain a San Francisco, a nhwthau hefyd wedi ennill gwobrau. Gweithiodd Fictioneers hefyd gyda Phrifysgol De Cymru i greu arddangosydd ‘Moving Image’ y rhaglen Audience of the Future.
Mae Tiny Rebel Games yn cyhoeddi ac yn datblygu gemau coeth a chaethiwus ar gyfer ffonau symudol a phlatfformau eraill, ac maen nhw’n enghraifft wych o entrepreneuriaid sy’n gweithredu yng Nghymru. Treuliodd Susan a Lee Cummings 19 mlynedd yn byw ac yn gweithio yn Efrog Newydd a Hollywood ar gemau a oedd yn boblogaidd ledled y byd fel Grand Theft Auto, Bioshock a Borderlands, cyn symud i Gymru, mamwlad Lee, yn 2016, lle parhaodd eu llwyddiant gyda Doctor Who: Legacy – gêm a aeth yn ei blaen i ennill gwobrau
Mae ap The Big Fix Up yn defnyddio pŵer realiti estynedig i ddilyn y cymeriadau eiconig yn ystod eu hantur ddiweddaraf, wrth iddynt recriwtio chwaraewyr i drwsio Bryste, dinas frodorol Aardman, cyn symud ymlaen i’r dyfodol i drwsio dinasoedd eraill.
Dywedodd Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol:
"Mae The Big Fix Up yn ap newydd cyffrous gydag apêl fyd-eang y cymeriadau Wallace a Gromit, a thrwy Fictioneers mae Cymru wedi gwneud cyfraniad sylweddol at yr ap hwn. I ddechrau gwnaethon ni annog a chefnogi Tiny Rebel Games i lunio cais consortiwm, drwy ein tîm arbenigol.
"Gwnaethon ni ddarparu cyngor ar eu cyfer wrth iddynt greu Fictioneers, gan fanteisio ar dalentau myfyrwyr Prifysgol De Cymru, sydd wedi elwa'n aruthrol drwy uwchsgilio ac interniaethau yn ystod y prosiect.
"Mae Tiny Rebel Games a Sugar Creative wedi derbyn cymorth ariannol gan Gymru Greadigol yn y gorffennol, ac mae'n wych eu gweld yn parhau i dyfu drwy gymryd y cam hwn.
Y lleisiau ar The Big Fix Up yw’r actorion sydd wedi ennill gwobrau Miriam Margolyes a Jim Carter, ynghyd ag Isy Suttie, Grace Ahmed a Joe Sugg – gyda Ben Whitehead yn gwneud llais Wallace.
Mae’r ap ar gael ar ddyfeisiau iOS ac Android yn y DU, UDA a Canada, yn rhad ac am ddim. Mae’n creu profiad wedi’i arwain gan naratif drwy chwarae realiti estynedig, animeiddiadau CG, galwadau ffôn gan y cymeriadau, pyrth realiti estynedig a stribedi comig. Gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, bydd chwaraewyr yn gallu mynd yn agosach nag erioed at Wallace a Gromit. Mae’r profiad yn gyfoethog ac yn cynnwys llawer o lefelau, wedi’u galluogi gan arloesi a thechnoleg.
Dywedodd Richard Saggers, Prif Swyddog Gweithredu, Fictioneers:
"Rydyn ni’n hynod falch o The Big Fix Up. Dyma antur ymgolli gyntaf Fictioneers, ein menter newydd. Mae’r cydweithredu rhwng ein tri phartner Potato, Tiny Rebel Games a Sugar Creative, ac wrth gwrs y tîm gwych yn Aardman wedi bod yn anhygoel.
"Mae'n waith gwirioneddol arloesol sy'n dangos y cyfle enfawr ar gyfer datblygu’r gwahanol ffyrdd mae straeon yn cael eu hadrodd. Yn anad dim, mae'n enghraifft wych o'r hyn y gall tîm amrywiol, amlddisgyblaethol o bobl a chanddyn nhw dalentau creadigol ei gyflawni gyda'i gilydd.
Dywedodd Merlin Crossingham, Cyfarwyddwr Creadigol Wallace a Gromit yn Aardman:
"Mae Wallace a Gromit yn defnyddio arloesedd, teclynnau a thechnoleg yng nghanol eu byd o gomedi. Mae gweithio gyda Fictioneers i greu The Big Fix Up wedi bod yn bartneriaeth berffaith, gan ein galluogi i ddod â gwrthgyferbyniadau ffuglennol gwych y pâr i gartrefi ein cynulleidfaoedd, gan ddefnyddio technoleg ddiweddaraf y byd go iawn.
Gan ddefnyddio’r platfform mapio 3D Fantasmo, creodd Fictioneers brofiad realiti estynedig ar raddfa dinas i ail-greu dinas Bryste yn fyw yn ein cartrefi. Gweithiodd Fictioneers gyda Unity Technologies, gan ddefnyddio eu cynnyrch Stiwdio Realiti Cymysg a Realiti Estynedig a phecyn cymorth AR Foundation i adeiladu cymwysiadau realiti cymysg a realiti estynedig.
Derbyniodd The Big Fix Up grant gwerth miliynau o bunnoedd gan Innovate UK, ac mae hefyd yn cael ei gefnogi gan gyllid gan sefydliad Ymchwil ac Arloesedd Lywodraeth y DU.