Mae 5 prosiect arloesol ledled Cymru a Gogledd Iwerddon wedi cael cyfran o £1 miliwn i ddatblygu technoleg er mwyn lleihau amseroedd aros a gwella canlyniadau i gleifion canser.
Mae'r prosiectau wedi cael cyllid fel rhan o Her Ganser y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI), a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac Adran yr Economi Gogledd Iwerddon.
Dyma'r her gyntaf o'i math, a'i nod yw ceisio datblygu datblygiadau arloesol ymhellach sy'n arwain at roi diagnosis yn gynharach ac yn gyflymach, yn lleihau amseroedd aros, yn gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd triniaeth ac yn cefnogi gofal lliniarol.
Ymhlith y syniadau mae profi dyfais sbwng capsiwl i leihau'r galw am brofion endosgopi, cynnal prawf gwaed ar gyfer rhoi diagnosis cynnar o ganser y colon, a defnyddio algorithmau i helpu i roi blaenoriaeth i gleifion canser yr ysgyfaint a'r gofrestra cyn canser ledled y boblogaeth sy'n defnyddio data genomeg i dargedu cleifion risg uchel.
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd yng Nghymru:
Mae canfod canser yn gynnar yn hanfodol er mwyn gwella cyfraddau goroesi. Mae datblygiadau sy'n gwella canlyniadau i bobl ac yn lleihau anghydraddoldebau iechyd i'w croesawu ac yn hanfodol i'r rhai y mae'r clefyd dinistriol hwn yn effeithio arnyn nhw.
Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn cydweithio â Gogledd Iwerddon i arwain y fenter hon ledled y DU i ymchwilio i atebion canser arloesol, a'u datblygu. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn cefnogi gwaith y Gwasanaeth Iechyd i wella gofal – ac i fedru ei roi'n gynt – i bawb sy'n wynebu diagnosis o ganser.
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:
Mae gwella arloesi yn ein sector iechyd a gofal yn rhan hanfodol o gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Cymru iachach a mwy ffyniannus.
Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi'r fenter hon, y gyntaf o'i math, ac rwy'n gobeithio y bydd yn helpu i wella ansawdd gofal, gwneud y gorau o'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu ac arwain at ganlyniadau gwell i gleifion canser.
Ar ôl cystadleuaeth SBRI gystadleuol, y 5 cwmni a ddewiswyd yw:
- Cyted Health: canfod clefydau yn gynnar gan ddefnyddio technoleg ddiagnostig nad yw'n endosgopig Cyted Health
- IBEX Medical Analytics Ltd: diagnosteg wedi'i phweru gan ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer patholeg, yn trawsnewid patholeg drwy sicrhau bod pob claf yn cael diagnosis o ganser mewn modd cywir, amserol a phersonol
- Cansense Ltd: mae'r cwmni o Gymru, Cansense, ar flaen y gad o ran trawsnewid diagnosis o ganser y coluddyn gyda phrawf cyflym, costeffeithiol a graddadwy sy'n defnyddio modelu seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial
- Qure AI Technologies Ltd: yn cynnwys asesiad yn y byd go iawn o algorithmau pelydr-X o'r frest (qXR) a sgan tomograffeg gyfrifiadurol o'r frest (qCT) Qure i gynyddu cyflymder ac effeithlonrwydd gyda brysbennu a blaenoriaethu seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer cleifion yr amheuir bod ganddynt ganser yr ysgyfaint
- Future Perfect Healthcare Ltd: datblygu cofrestrfa cyn canser ledled y boblogaeth a fydd yn nodi cleifion sydd mewn perygl gan ddefnyddio profion genomeg o diwmorau a data clinigol.
Bydd y gwersi a ddysgir o'r prosiectau'n cael eu rhannu gyda chomisiynwyr a chlinigwyr ledled Cymru a Gogledd Iwerddon yn ystod gwanwyn 2025.