Caerdydd fydd un o wyth prif leoliad, ar draws tri chyfandir, yr Extreme Sailing Series™ 2018 - a gynhelir am y 12fed flwyddyn yn olynol.
Bydd Cymal 1 yr Extreme Sailing Series yn dechrau fis nesaf yn Oman. Yna eir i Lyn Garda yn yr Eidal rhwng 24 a 27 Mai ar gyfer Pencampwriaeth y Byd. Byddant yn mynd ymlaen wedyn i Farcelona, am yr ail dro, o 14 i 17 Mehefin. Y cyrchfan nesaf yw Portiwgal o 5 i 8 Gorffennaf cyn mynd ymlaen i St Petersburg o 9 i 12 Awst - yr ail ymweliad â’r ddinas honno.
Bydd Caerdydd yn croesawu’r cychod eto fel rhan o Ŵyl Harbwr Caerdydd yn ystod penwythnos Gŵyl Banc Awst, 24-27 Awst. Mae hwn yn ddigwyddiad poblogaidd iawn bob tro ymhlith y cyhoedd a’r morwyr oherwydd y stadiwm hygyrch wrth y glannau. Disgwylir i eleni fod yn fwy anhygoel nag erioed wrth i Gymru ddathlu ei ‘Blwyddyn y Môr’.
Mae’r digwyddiad yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd yr Arglwydd Elis Thomas, y Gweinidog Twristiaeth:
“2018 fydd y seithfed tro i Fae Caerdydd fwynhau cyffro’r Extreme Sailing Series.Rydyn ni’n dathlu Blwyddyn y Môr yng Nghymru eleni a bydd hyn yn gyfle gwych i Gymru ennill ei phlwyf fel un o gyrchfannau arfordirol gorau’r DU yn y 21ain ganrif - gyda’n cynhyrchion, digwyddiadau a phrofiadau rhagorol. Mae’r digwyddiad hwn yn un o’r atyniadau pwysig sy’n cael ei gynnig.
“Mae cynnal yr Extreme Sailing Series yma yn sicrhau y gall Caerdydd gystadlu yn erbyn lleoliadau ardderchog eraill yn y byd ac mae’n rhoi cyfle inni hyrwyddo Bae Caerdydd fel lleoliad rhagorol ar gyfer hwylio a chwaraeon dŵr.”
Wedyn, bydd y cychod yn gadael Ewrop am orllewin yr Unol Daleithiau lle bydd San Diego’n croesawu’r cymal olaf ond un rhwng 18 a 21 Hydref. Bydd y cymal olaf yn cael ei gynnal yn Los Cabos, Mecsico.
Dywedodd Peter Bradbury, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ddiwylliant a Hamdden: Mae’r Extreme Sailing Series wedi dod yn rhan annatod o raglen ddigwyddiadau’r ddinas ac mae’n arddangos Caerdydd fel dinas arfordirol flaenllaw a chyrchfan ar gyfer hwylio sydd cystal â Sydney a San Diego.
“Mae Caerdydd wedi bod yn gyrchfan gwych i ymwelwyr a morwyr ers ymweliad cyntaf y gystadleuaeth â Bae Caerdydd saith mlynedd yn ôl, gan gynnig cymysgedd llwyddiannus o rasio stadiwm ac awyrgylch bendigedig i’r torfeydd o bobl wrth y glannau.
“Wrth i Ras Cefnfor Volvo gyrraedd ym mis Mai, gall Bae Caerdydd a gweddill y brifddinas ddisgwyl bod yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau hwylio, adloniant ac awyrgylch o’r radd flaenaf, yn yr hyn sydd i fod yn flwyddyn arbennig iawn i Gaerdydd a Chymru.”
Dywedodd Andy Tourell, Cyfarwyddwr yr Extreme Sailing Series, sydd wedi bod wrth y llyw yn datblygu’r digwyddiad chwaraeon hwn am y chwe blynedd diwethaf:
“Bydd y Series yn parhau i gynnig gwledd o weithgareddau hwylio na all digwyddiadau eraill eu cynnig, sef hyd at 32 o rasys yn ystod bob cymal. Mae hyn yn golygu y bydd mwy o rasys i’r morwyr ac amserlen adloniant well i’r cyhoedd, y gwesteion pwysig ac i’r Cyfryngau.
“Byddwn yn parhau i adeiladu ar lwyddiannau’r pedair blynedd diwethaf sydd wedi gweld cynnydd yn hyd y rasys, ar gyfartaledd, ond sydd hefyd wedi eu cadwn’n agos i’r arfordir.
Mae safon uchel y rasys a’r platfform noddi corfforaethol unigryw a gynigir gan y Series, sy’n un o saith digwyddiad Sailing Series Events y byd, yn denu timau, hen a newydd, sy’n cynnwys rhai o forwyr gorau’r byd.
Amserlen Cymalau 2018
14 - 17 Mawrth - Muscat, Oman
24 – 27 Mai - Llyn Garda, yr Eidal – Pencampwriaeth y Byd
14 - 17 Mehefin - Barcelona, Sbaen
5 - 8 Gorffennaf - Portiwgal
9 - 12 Awst - St Petersburg, Rwsia
24 – 27 Awst - Caerdydd, DU
18 - 21 Hydref - San Diego, UDA
29 Tachwedd - 2 Rhagfyr - Los Cabos, Mecsico