Cyd-weithio ar Gyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg.
"Mae’r Gymraeg a Dydd Gŵyl Dewi yn perthyn i ni i gyd, ac rydw i wir yn golygu hynny. Mae’n perthyn i bob un ohonon ni, a phob cymuned ar draws Cymru. Gadewch i ni gyd ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn ein holl ffyrdd unigryw ein hunain, a gadewch i ni barhau i wneud Cymru yn gymuned o gymunedau."
Dyma ddiweddglo Datganiad Llafar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, AS i’r Senedd ar drothwy Dydd Gŵyl Dewi eleni. Soniodd y Gweinidog am waith mae Prosiect 2050, is-adran Cydlyniant Cymunedol a changen Cynllun Cymru-Wrth Hiliol Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bod ein strategaethau a’n cynlluniau gweithredu yn ategu ei gilydd.
Mae’r cydweithredu hwn yn dilyn tair o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru):
- Cymru sy’n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.
Ry’n ni hefyd wedi bod yn cydweithredu’n ddiweddar er mwyn cynnwys ystyriaethau polisi’r Gymraeg yn ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a’n Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru.
Un o allbynnau cyntaf y cydweithredu hwn yw’r prosiect sydd wedi arwain at gyhoeddi rhestr o dermau Cymraeg ym maes hil ac ethnigrwydd sy’n cael eu bwydo mewn i gronfeydd termau ar-lein. Cafodd y termau eu safonai a'u cyhoeddi mewn cydweithrediad ag amrywiol bartneriaid gan gynnwys Prifysgol Bangor, ieithyddion a chynrychiolwyr gwahanol gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. A bydd rhagor o waith i ddod.
Mae Cymru hefyd yn Genedl Noddfa, ac mae llawer ohonon ni wedi croesawu ffoaduriaid o Wcráin i’n cymunedau. Peth pobl yw iaith—mae’n gallu estyn croeso, ac mae llawer o blant Wcrainaidd yn dysgu Cymraeg drwy ein canolfannau trochi. Mae prosiectau fel Dydd Miwsig Cymru a chyrsiau Croeso i Bawb y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn hefyd estyn ein hiaith i gynulleidfaoedd a chymunedau newydd.
Byddwn ni’n parhau â’n cydweithredu er budd Cymraeg 2050 ar draws y Llywodraeth a byddwn ni’n dal ati hefyd gyda’n gwaith yn y maes cyfiawnder cymdeithasol. Ein nod yw creu Cymru fwy cyfartal a ffyniannus i bawb—Cymru lle mae pawb yn teimlo perchnogaeth o’n hiaith a’n diwylliant.