Mae mwy o bobl Cymru'n cydsynio i roi organau nag unrhyw wlad arall yn y DU, yn ôl y ffigurau diweddaraf.
Dengys ystadegau diweddaraf Rhoi a Thrawsblannu Organau bod y gyfradd gydsynio yn 72% gyda thua 24.3 rhoddwr fesul pob miliwn o'r boblogaeth, sy'n gosod Cymru ar frig y rhestr.
Mae'r ystadegau hefyd yn dangos bod 39% o boblogaeth Cymru wedi cofrestru i optio i mewn i roi organau yn dilyn eu marwolaeth.
Yn ystod tri chwarter cyntaf 2017-18, cafwyd 55 o achosion o roi organau lle'r oedd y rhoddwr wedi marw, 16 yn fwy na'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol.
Ar 1 Rhagfyr 2015, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno system feddal o optio allan ar gyfer cydsynio i roi organau. O dan y system hon, os nad yw unigolyn wedi cofrestru penderfyniad i roi organau (optio i mewn) na phenderfyniad i beidio â rhoi organau (optio allan), ystyrir nad oes ganddo wrthwynebiad i roi ei organau – gelwir hyn yn gydsyniad tybiedig. Fodd bynnag, os nad yw'r unigolion yn trafod eu penderfyniad i roi organau â'u hanwyliaid, mae perygl i'r teulu beidio ag anrhydeddu'r penderfyniad hwnnw ac anwybyddu'r gofrestr rhoddwyr organau neu wrthwynebu cydsyniad tybiedig.
Mae'r ffigurau hefyd yn dangos gostyngiad yn nifer y trawsblaniadau o gymharu â'r cyfnod cyfatebol o amser yn 2016/17; roedd hyn yn bennaf yn deillio o'r ffaith bod llai o drawsblaniadau gan roddwyr byw. Er hynny, bu llai o bobl farw wrth aros am drawsblaniad ar ddiwedd trydydd chwarter 2017/18 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething;
Gall un sgwrs fel hon ddod â budd i bobl Cymru a'r Deyrnas Unedig drwy leihau nifer y bobl sy'n marw wrth ddisgwyl i organ addas ddod ar gael, a thrawsnewid bywydau pobl eraill."Mae'r ffigurau diweddaraf yn addawol, ac rwy'n falch iawn o weld Cymru ar flaen y gad wrth gynnig y rhodd o fywyd i eraill.
Mae camau pwysig iawn yn cael eu cymryd, hyd yn oed os ydyn nhw'n gamau bach, ac mae'n bwysig cofio mai marathon yw hwn, ac nid sbrint.
Fodd bynnag, tra bod pobl yn marw wrth aros am drawsblaniad, rhaid inni weithio'n galetach i gynyddu canran y boblogaeth sy'n cydsynio er mwyn gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion sydd ar y rhestrau aros am drawsblaniad.
Roedd ein hymgyrch ddiweddaraf yn tynnu sylw at bwysigrwydd trafod rhoi organau gyda'ch teuluoedd a'ch anwyliaid. Fe hoffwn bwysleisio'r neges honno unwaith eto drwy annog pawb ar hyd a lled Cymru i siarad gyda'u hanwyliaid am eu penderfyniad ynghylch rhoi organau, i sicrhau y bydd y penderfyniad hwnnw'n cael ei anrhydeddu.
Gallwch gofrestru eich penderfyniad unrhyw amser drwy ffonio 0300 123 23 23 (gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG fydd yn ateb y galwadau hyn), mynd i www.rhoiorganau.org neu drwy ddweud wrth eich teulu (a'ch ffrindiau).