Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, a'r Gweinidog yn Swyddfa Cymru, y Fonesig Nia Griffith, wedi ymweld â'r ddinas ar gyfer y dathliadau i goffáu'r ffaith iddi gael ei rhyddhau rhag yr Almaenwyr gan 53ain Adran Troedfilwyr Cymru ym 1944.
Mae 's-Hertogenbosch, a elwir hefyd yn Den Bosch, wedi cynnal cysylltiadau cryf â Chymru byth oddi ar hynny. Mae nifer o deyrngedau i’w gweld yn y ddinas i nodi'r aberth a wnaed gan y Cymry. Mae cofeb ryfel yn y dref yn anrhydeddu milwyr o Gymru a frwydrodd dros ei rhyddid, ac mae enwau'r 146 o filwyr o Gymru a roddodd eu bywydau dros y dref i'w gweld ar y bont. Mae croes Gymreig yn y gadeirlan hefyd ac mae enwau'r milwyr o Gymru wedi'u hysgythru ar ffenestri 'ystafelloedd Cymru' yn neuadd y dref.
Gwnaeth y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog yn Swyddfa Cymru osod torch yr un, a buont ar orymdaith ac yn y gwasanaeth coffa i anrhydeddu'r milwyr.
Ymwelodd dirprwyaeth fawr o Gymru â'r ddinas, gan gynnwys cynrychiolwyr sefydliadau diwylliannol a milwrol, a theuluoedd y cyn-filwyr dan sylw – a elwir yn 'waredwyr'.
Ym 1995, sefydlodd cangen Pontypridd o Gymdeithas Gatrawd Frenhinol Cymru gysylltiad â dinas 's-Hertogenbosch. Sefydlwyd cinio blynyddol ym Mhontypridd i goffáu'r frwydr ac mae swyddogion o Den Bosch yn parhau i fynd i'r cinio hwnnw tan y dydd heddiw.
Ym mis Ebrill 2019, i goffáu'r ffaith bod eu tref wedi cael ei rhyddhau, fe wnaeth 26 o gyflogwyr o'r ddinas yn yr Iseldiroedd feicio 400 milltir i Gaerdydd, gan ymweld â gwahanol leoliadau ar hyd y daith, gan gynnwys Crucywel, Pontypridd a Chaerffili. Pen llanw'r daith honno oedd seremoni i drosglwyddo Lamp Davy ac ynddi 'Fflam Rhyddid' symbolaidd. Aeth y beicwyr â'r lamp honno yn ôl i 's-Hertogenbosch lle bydd yn llosgi tan y coffáu dros y penwythnos.
Eleni, mae grŵp wedi beicio dros 300 milltir o Bontypridd i Den Bosch i nodi'r
pen-blwydd. Trefnwyd y daith gan Gareth Pennell, a gafodd yr anrhydedd o ddod yn un o ryddfreiniwr y ddinas yn yr Iseldiroedd yn 2019 i anrhydeddu'r gwaith y mae wedi'i wneud ar y coffáu dros y blynyddoedd.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies:
"Mae'r coffáu y penwythnos hwn yn gyfle inni gofio, myfyrio'n ddwys a chydnabod y rheini a fu'n gwasanaethu a'r bobl a dalodd y pris eithaf wrth ryddhau'r ddinas hon; yn angof ni chânt fod. Eu haberth nhw sydd i gyfri' am y ffaith ein bod ni i gyd yn gallu mwynhau'r rhyddid sydd gennym yn ein bywydau heddi'.
"Mae'n ddyletswydd arnon ni gofio'r hyn ddigwyddodd yma yn Den Bosch a sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn deall hynny, er mwyn inni fedru dysgu'r gwersi a sicrhau heddwch am genedlaethau i ddod.
"Mae gan Gymru berthynas bwysig â Den Bosch, a gobeithio y byddwn ni'n gweld y berthynas honno'n parhau ac yn tyfu drwy gysylltiadau economaidd a diwylliannol."
Dywedodd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, y Fonesig Nia Griffith:
"Mae mor bwysig ein bod yn treulio amser yn meddwl am yr hyn a ddigwyddodd 80 mlynedd yn ôl ac yn talu gwrogaeth i'r dynion hynny o 53ain Adran Troedfilwyr Cymru a fu'n ymladd, ac a fu farw, ochr yn ochr â'r bobl leol er mwyn rhyddhau 's-Hertogenbosch.
"Mae'n fraint cael cynrychioli Llywodraeth y DU wrth i'r ddinas goffáu'r hyn a ddigwyddodd ac yn fraint hefyd gael helpu i sicrhau nad yw'r holl fywydau a aberthwyd yn mynd yn angof."