Cymru â'r gynrychiolaeth uchaf yn rownd derfynol cystadleuaeth WorldSkills UK
Mae'r gystadleuaeth yn ffon fesur sy’n meincnodi rhagoriaeth mewn sgiliau galwedigaethol ar draws amrywiaeth o feysydd. Fe'i defnyddir hefyd i ddethol cystadleuwyr ar gyfer WorldSkills, cystadleuaeth fyd-eang a gynhelir bob dwy flynedd, lle mae rhanbarthau'r DU yn cystadlu fel un tîm. Mae'r rownd derfynol hon yn rhan o'r broses ddethol ar gyfer cystadleuaeth WorldSkills 2019, a fydd yn cael ei chynnal yn Kazan.
Mae cyfanswm o 462 yn cystadlu yn rownd derfynol WorldSkills UK, sy'n cynnwys hyd at 60 o gystadlaethau cenedlaethol lle mae'r cystadleuwyr yn ymryson am wobrau Aur, Arian ac Efydd. Mae 74 o'r 462 hynny yn dod o Gymru, sy'n 16% o gyfanswm y DU, a dyna'r gynrychiolaeth uchaf o bell ffordd o unrhyw ranbarth.
Yn ogystal â'r 74 o Gymru sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, bydd 19 o bobl eraill yn cynrychioli Cymru mewn cystadlaethau eraill yn y Sioe Sgiliau, sy'n golygu y bydd cyfanswm o 93 o gystadleuwyr o Gymru yn y Sioe Sgiliau eleni.
Y cystadleuwyr ychwanegol yw 'cohort Kazan'; naw myfyriwr dawnus sydd eisoes wedi bodloni'r meini prawf cymhwyso ar gyfer Kazan 2019 ac a fydd bellach yn cystadlu am le yn nhîm y DU ar gyfer WorldSkills. Mae deg cystadleuydd yn cymryd rhan yn y cystadlaethau 'Sgiliau Cynhwysol' hefyd, sydd wedi'u creu'n benodol ar gyfer pobl ag anableddau.
Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth:
"Mae'r ffaith bod Cymru wedi cael cydnabyddiaeth am mai hi, o blith holl ranbarthau'r DU, sydd â'r nifer uchaf o gystadleuwyr, yn tystio i'n rhagoriaeth ym maes sgiliau ac i'r ymdrech enfawr y mae'n partneriaid yma yng Nghymru yn ei gwneud i gydweithio.
"Drwy gyfrwng Cystadlaethau Sgiliau, rydyn ni'n creu cenedl hynod fedrus a fydd yn cefnogi'n heconomi, yn diogelu'n diwydiannau ac yn gwella rhagolygon Cymru.
"Hoffwn ddymuno pob lwc i bawb a fydd yn cymryd rhan yn y cystadlaethau hyn y mis nesa', a hoffwn ddiolch hefyd i'r rheini sydd wedi rhoi cefnogaeth iddyn nhw ar hyd y daith am eu holl waith caled a'u hymroddiad."