Mae mwy o bobl Cymru yn cael gofal priodol ar ddiwedd eu hoes, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw.
Mae'r adroddiad yn dangos llwyddiannau'r Cynllun Cyflawni Gofal Diwedd Oes ac ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i wella'r gwasanaethau i'r rhai sydd eu hangen.
Cafodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hyfforddiant ar ganllawiau i weithredu penderfyniadau cleifion, a defnyddio cynlluniau gofal o flaen llaw i helpu pobl i farw yn y man o'u dewis. Mae hyn wedi helpu i gynyddu nifer y bobl sydd ar y gofrestr gofal lliniarol, sydd wedi codi 69% ers 2011-12.
O ganlyniad, gall mwy o bobl farw yn y man o'u dewis - naill ai yn y cartref, neu mewn cartref gofal, gan leihau nifer y bobl sy’n marw yn yr ysbyty o 60% i 55% ers 2010.
Mae hyn wedi arwain at amrywiol fanteision cysylltiedig i'r rhai sydd angen gofal lliniarol, gan gynnwys llai o driniaethau meddygol amhriodol a digroeso, llai o dderbyniadau i'r ysbyty yn ystod wythnosau, dyddiau ac oriau olaf eu bywydau, a chaniatáu i gleifion aros mewn amgylchedd gyfarwydd, yn agos at deulu a ffrindiau.
Gwelwyd gwelliannau i wasanaethau gofal lliniarol i blant a phobl ifanc hefyd, gyda mynediad at ofal bellach ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos yn dilyn gwelliannau i'r gweithlu. Mae trefniant dros dro bellach yn ei le, gan olygu bod gan glinigwyr ledled Cymru fynediad at gyngor gan dri ymgynghorydd arbenigol ar feddygaeth liniarol pediatrig.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
Dywedodd Cyfarwyddwr Polisi Marie Curie, Simon Jones:“O ganlyniad i'r gwelliannau mewn meddygaeth fodern, mae llawer o bobl sydd â salwch angheuol yn byw'n hirach. Felly mae'n hanfodol bwysig i weithwyr gofal iechyd proffesiynol barhau i drafod anghenion cleifion a'u hanwyliaid. Bydd hyn yn sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle i ganiatáu i fwy o bobl gael gofal a marw yn y man o'u dewis.
"Mae ansawdd y gofal sy'n cael ei roi i glaf sy'n marw yn cael effaith hirdymor ar deuluoedd a gofalwyr. Rwy'n falch iawn bod yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at waith gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru i helpu pobl yn ystod eu misoedd, wythnosau neu ddyddiau olaf."
"Mae'r sylw sy'n cael ei roi i wella a buddsoddi yn y gofal a'r gefnogaeth y mae pobl Cymru'n ei gael ar ddiwedd eu bywydau yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo. Cymru yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig o hyd i gael cynllun sy'n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau, ac adroddiadau ynghylch y cynnydd yn erbyn y cynllun hwnnw.
"Roedden ni'n croesawu'r cynllun cyflawni diwygiedig yn gynharach eleni, a oedd yn cynnwys pwyslais ar sicrhau bod gan bawb fynediad at ofal o safon, beth bynnag eu cefndir a lle bynnag y maen nhw'n byw."