Neidio i'r prif gynnwy

Mae astudiaeth o hynt gwaith cenedlaethau'r DU i fabwysiadu polisïau i ddod yn 'economïau cylchol' wedi dod i'r casgliad bod Cymru yn sgorio'n uwch na gweddill y DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Defnyddiwyd 16 o ddangosyddion allweddol yn yr astudiaeth a daethpwyd i'r casgliad bod Cymru yn bodloni 14 o'r themâu allweddol. Mae hynny’n fwy nag unrhyw genedl arall o'r DU.
Roedd adroddiad annibynnol gan Resource Recovery from Waste wedi dadansoddi sut oedd pedair Llywodraeth y DU yn symud tuag at economi fwy cylchol. 
Mae economi gylchol yn sicrhau bod adnoddau yn cael eu defnyddio gymaint â phosibl. Mae hefyd yn ceisio adfer ac atgynhyrchu cynhyrchion a deunyddiau ar ddiwedd eu hoes, yn hytrach na'u cynhyrchu, eu defnyddio a'u gwaredu.  Drwy gymharu canlyniadau cynlluniau llywodraethau pedair cenedl y DU, gwelwn gryn dipyn o wahaniaeth o ran lle y maent arni. Mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion o ran sut i arloesi, a sicrhau twf a seilwaith cadarn, gan gyfrannu at ddarparu swyddi da a llesiant ledled y DU ar yr un pryd.  Dywedodd Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd:
"Mae'n braf gweld bod y gwaith caled a wnawn ar draws sawl sector yng Nghymru i ddod yn economi mwy cylchol yn cael cydnabyddiaeth. Caiff y gwaith hwn ei ysgogi gan bolisïau megis Tuag at Ddyfodol Diwastraff a mentrau fel y Map Llwybr Plastig gan WRAP Cymru. Rydyn ni'n gobeithio cyhoeddi'r Map hwn yn yr hydref."Fy uchelgais yw symud tuag at economi gylchol yng Nghymru, fel y nodwyd yn ein cynllun gweithredu ar yr economi, a fydd yn golygu gwneud y defnydd gorau o'n cynhyrchion ac ailgylchu gwastraff gymaint â phosibl. Mae'r ffordd hon o weithio nid yn unig o fudd i'n hamgylchedd ond mae hefyd yn cyflwyno cyfleoedd economaidd ac yn creu swyddi."Mae cynlluniau Cymreig, megis Cronfa Fuddsoddi’r Economi Gylchol a'r Rhaglen Newid Gydweithredol yn helpu'r sectorau preifat a chyhoeddus yng Nghymru, ac mae hyn oll yn ein helpu i gyflawni ein nod o ddod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050."