Neidio i'r prif gynnwy

1. Diben: ein nod ar gyfer 2050

Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o’n diwylliant, ein treftadaeth a’n bywydau beunyddiol. Mae’n rhan o’n hetifeddiaeth gyffredin ac ein hunaniaeth fel cenedl. Ond ni allwn gymryd ei dyfodol ar draws Cymru yn ganiataol. Mae yna gyfrifoldeb arnom i gymryd camau rhagweithiol i gefnogi a chynyddu’r defnydd a wneir o’r iaith, a’i throsglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Dyma rywbeth y gall pob un ohonom ei wneud gyda’n gilydd.

Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Y flwyddyn 2050: Mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu, mae nifer y siaradwyr wedi cynyddu i filiwn a chaiff ei defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd. Ymhlith y rheini nad ydynt yn ei siarad mae yna ewyllys da tuag ati ac ymdeimlad o berchnogaeth ohoni. Mae yna werthfawrogiad hefyd o’i chyfraniad i ddiwylliant, cymdeithas ac economi Cymru.

Dyma weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg yng Nghymru (Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg, Llywodraeth Cymru, 2017). Y weledigaeth, erbyn 2050, yw gweld miliwn o siaradwyr yn defnyddio’r iaith ym mhob agwedd ar eu bywydau a dyblu’r ganran o bobl yng Nghymru sy’n siarad ac yn defnyddio’r iaith bob dydd. Bydd rhoi’r weledigaeth hon ar waith yn golygu newid dros genedlaethau, gan roi stop ar y dirywiad a welwyd yn y ganrif ddiwethaf.

Rhan bwysig o’r weledigaeth yw adnewyddu’r cysylltiad rhwng yr iaith a’r gweithle. Caiff Cymraeg ei siarad am resymau diwylliannol, masnachol, cymdeithasol ac emosiynol, ond mae hefyd yn sgìl galwedigaethol – yn sgìl a ddylai gael ei gydnabod a’i ddefnyddio’n well. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i “…arwain drwy esiampl drwy hybu a hwyluso cynnydd yn y defnydd a wneir o’r Gymraeg gan ein gweithlu ein hunain” (Thema 2 Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, pennod 6 Y Gweithlu). Ymhellach, mae’r Prif Weinidog wedi addo “prif ffrydio” y Gymraeg wrth ddatblygu polisïau ac yn y ffordd y gweithiwn yn fwy cyffredinol.

Yn y cyd-destun hwn, nod Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg o fewn y sefydliad yw y bydd yr holl staff sy’n gweithio i Lywodraeth Cymru yn gallu deall Cymraeg erbyn 2050. Bydd hyn yn galluogi’r staff i weithio yn y Gymraeg o ddydd i ddydd, ac fe fydd yna gynnydd sylweddol yn y defnydd a wneir o’r iaith o ganlyniad i hynny.

Ein nod, felly, yw y dylai Llywodraeth Cymru, yn raddol, ddod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog; yn sefydliad lle mae’n arferol i’r Gymraeg a’r Saesneg gael eu defnyddio mewn modd naturiol a chyfnewidiol.

2. Egwyddorion: sut byddwn yn cyrraedd nod 2050

Egwyddorion y dylid eu mabwysiadu wrth roi’r strategaeth ar waith

Rydym yn falch o’r Gymraeg ac rydym eisiau iddi ffynnu. Mae’n rhywbeth sy’n gallu ein huno fel cenedl. Dengys ystadegau fod 86% o bobl ar draws Cymru o’r farn y dylem ymfalchïo ynddi. Ond er bod rhai’n gyfforddus yn siarad Cymraeg, mae yna lawer o bobl nad ydynt yn gyfforddus yn ei siarad – yn amlach na pheidio gan na chafodd yr iaith ei throsglwyddo iddynt gan eu teuluoedd. Rhaid i ni gael dealltwriaeth gyffredin fod y Gymraeg yn eiddo i bob un ohonom, waeth beth fo’n cefndir ieithyddol. Nid yw’r iaith yn perthyn yn unigryw i’r rhai a all ei siarad hi heddiw.

Mewn sawl ffordd, caiff ein strategaeth ar y defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ei phennu gan y cyfeiriad gwleidyddol a’r fframwaith cyfreithiol sydd wedi’u sefydlu eisoes; sef hybu’r iaith a chynyddu’r defnydd a wneir ohoni. Rydym yn ymwybodol o’r ffordd y gall defnyddio Cymraeg yn y gweithle roi mwy o bwrpas a pherthnasedd i’r iaith. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos y rhai sy’n dysgu Cymraeg yn ein hysgolion – dylent ddeall y bydd yr iaith yn sgìl defnyddiol iddynt yn y gweithle. Gwyddom y bydd yr hyn a wnawn yn Llywodraeth Cymru yn dylanwadu ar rannau eraill o’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Dyma pam mai ein nod yn yr hirdymor yw dod yn sefydliad dwyieithog.

Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol fod yn rhaid i’r camau a gymerir i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg fod yn rhesymol ac yn gymesur. Felly, bydd dod yn sefydliad dwyieithog yn golygu newid yn raddol. Gyda hyn mewn cof, caiff y strategaeth hon ei seilio ar yr egwyddorion canlynol:

  • Gwneud ymrwymiad hirdymor ac arwain y ffordd: bydd y newid yn digwydd yn raddol, dros amser, ond ein bwriad yw arwain trwy esiampl yn y ffordd yr ydym yn hybu defnydd o’r iaith yn y gweithle.
  • Buddsoddi yn ein staff a chynnig cyfleoedd iddynt ddysgu Cymraeg a meithrin sgiliau ieithyddol: mae’n hanfodol darparu hyfforddiant effeithiol a hwylus, gan roi amser a chymhelliant i bobl wella’u sgiliau Cymraeg yn barhaus.
  • Parhau i fod yn sefydliad agored, cynhwysol ac amrywiol: mae gan bawb y potensial i fod yn siaradwr Cymraeg, ac nid yw’r strategaeth hon yn groes i’n hymrwymiad i fod yn agored, yn gynhwysol ac yn amrywiol – er y bydd sgiliau Cymraeg yn fwyfwy angenrheidiol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi, nid yw meithrin gweithle dwyieithog yn golygu (nac yn awgrymu) bod y sgiliau hynny’n ofynnol ar gyfer ymuno â Llywodraeth Cymru.
  • Mynd ati’n rheolaidd i adolygu ein ffyrdd o weithio er mwyn hwyluso mwy o ddefnydd o’r Gymraeg: pan fyddwn yn cyflwyno polisïau a mentrau mewnol newydd, byddwn yn adolygu i ba raddau maent yn cynnig cyfleoedd pellach i’r staff ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith beunyddiol.

Ystyr sefydliad dwyieithog

Mae’n bwysig bod yn glir ynglŷn â’r hyn mae sefydliad dwyieithog yn ei olygu. Yn y pen draw, fe fydd dewis iaith ar gael o fewn y sefydliad, sy’n golygu y bydd modd i ni ddewis fel mater o drefn a ydym yn cyfathrebu (ar lafar neu’n ysgrifenedig) yn y Gymraeg neu’r Saesneg – neu, yn wir, yn y ddwy iaith. Mae gan hyn oll berthnasedd sy’n mynd y tu hwnt i ddarparu’r holl wasanaethau ‘cyhoeddus’ a’r holl gyfathrebu ffurfiol mewnol yn y ddwy iaith.

Bydd y dewis hwn yn cael ei wireddu trwy sicrhau bod yr holl staff yn gallu deall Cymraeg o leiaf. Wrth gwrs, bydd hyn yn cymryd amser, a bydd angen ymrwymiad hirdymor (yn gyntaf) i wella ein sgiliau iaith yn barhaus ac (yn ail) i ddatblygu diwylliant gweithio sy’n deall ac yn parchu dwyieithrwydd. Ein nod yw rhoi mwy o gyfleoedd i’n staff feithrin eu sgiliau Cymraeg a’u defnyddio wedyn yn y gweithle – rhywbeth a fydd, yn y pen draw, yn arwain at ddewis iaith.

Rydym eisiau ac angen i fwy o staff Llywodraeth Cymru feddu ar sgiliau Cymraeg y gallant eu defnyddio yn y gweithle. Gellir gwneud hyn mewn dwy ffordd; trwy gael y staff presennol i ddechrau dysgu’r iaith neu wella’u sgiliau iaith, a thrwy recriwtio pobl sydd eisoes yn meddu ar sgiliau Cymraeg. Bydd yn angenrheidiol gwneud y ddau beth yma, oherwydd – yn hollbwysig – ceir digon o amser a chymorth ar gyfer addasu.

Amcan cychwynnol a chamau gweithredu ar gyfer y pum mlynedd gyntaf

Mae’r strategaeth yn rhagweld y bydd yn cyrraedd ei nod ymhen 30 mlynedd a mwy; felly, am resymau amlwg, bydd angen i’r strategaeth gael ei hadolygu a’i newid o dro i dro. Rhagwelwn broses lle bydd y strategaeth, ynghyd â’r newidiadau yn y polisïau a roddir ar waith, yn cael eu hadolygu bob pum mlynedd.

Yn ogystal â gosod nod hirdymor ar gyfer 2050, rydym hefyd yn gosod amcan tymor byrrach ar gyfer y cyfnod hyd at 2025 ynghyd â 10 cam gweithredu a fydd yn ein helpu i gwrdd â’r amcan hwnnw. Yn eu tro, bydd y rhain yn cyfrannu at gyrraedd nod 2050. Bydd yr amcan tymor byrrach yn cael ei adolygu yn 2025, a bydd amcan newydd a chamau gweithredu cysylltiedig yn cael eu gosod ar gyfer y cyfnod dilynol o bum mlynedd – proses a fydd yn parhau hyd nes cyrraedd nod 2050.

Ein nod yw dod yn sefydliad dwyieithog erbyn 2050, ond yn ystod y pum mlynedd gyntaf ein hamcan yw gweld Llywodraeth Cymru yn dod yn sefydliad sy’n dangos esiampl o ran cynyddu defnydd mewnol o’r iaith pan gaiff ei asesu yn erbyn sefydliadau cymaradwy yn sector cyhoeddus Cymru.

Caiff camau gweithredu penodol ar gyfer cyflawni hyn eu nodi ym Mhennod 3. Yn gryno, fodd bynnag, caiff y camau gweithredu eu seilio ar y themâu canlynol:

  1. Arwain

    Dylai’r ffocws newydd ar yr iaith gael ei arwain nid yn unig ar lefel wleidyddol, ond hefyd gan uwch-swyddogion. Bydd disgwyl iddynt arwain trwy esiampl, gan hybu’r defnydd o’r iaith a sicrhau bod y sefydliad yn deall ei phwysigrwydd. Byddant yn helpu eraill i ddefnyddio, dysgu a gloywi eu sgiliau Cymraeg – gan feithrin eu sgiliau eu hunain. Bydd dysgu Cymraeg a hwyluso siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn eu gwaith beunyddiol yn angen busnes ar draws y sefydliad, a bydd angen i reolwyr llinell gadw at yr egwyddor honno trwy ddangos arweinyddiaeth bersonol. Ymhellach, elfen bwysig sydd ynghlwm wrth arweinyddiaeth fydd asesu i ba raddau y caiff y defnydd o’r iaith ei brif ffrydio ar draws y sefydliad; mater sy’n berthnasol i’r defnydd cynyddol o’r iaith a hefyd i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau statudol dan y Safonau.

  2. Dysgu

    Un o’r elfennau mwyaf hanfodol i lwyddiant y strategaeth hon fydd y cyfleoedd dysgu a datblygu sydd ar gael i’r staff ar draws pob lefel o ruglder. Byddwn yn canolbwyntio ar annog pobl i ddysgu a gwella’n barhaus. Bydd yr egwyddor sydd ynghlwm wrth wella’n barhaus yn yr hirdymor, yn seiliedig ar y raddfa a ddefnyddir ar hyn o bryd i asesu sgiliau Cymraeg. Fodd bynnag, bydd y raddfa hon yn cael ei diwygio er mwyn cynnwys lefel sylfaenol newydd – sef Cymraeg “cwrteisi” – ac er mwyn adlewyrchu’n well y syniad o allu deall Cymraeg ysgrifenedig a Chymraeg llafar (sef yr hyn yr ydym ei angen er mwyn gallu gweithio’n ddwyieithog).

  3. Recriwtio

    Yn y blynyddoedd diwethaf, nid oes llawer o gyfleoedd wedi bod i recriwtio staff newydd, ac nid ydym yn disgwyl i hyn newid yn sylweddol yn fuan. Fodd bynnag, rhaid i ni yn gyntaf gofio mai strategaeth hirdymor yw hon, ac yn ail nad yw ein prosesau recriwtio, ar adegau, wedi rhoi digon o bwyslais ar bwysigrwydd sgiliau Cymraeg (er, ni wnaed hyn yn ymwybodol). Ein man cychwyn fydd parhau i anelu at recriwtio’r bobl orau, waeth be fo’u cefndir, gan roi croeso a chymorth i staff newydd loywi eu sgiliau Cymraeg. Fodd bynnag, byddwn hefyd dros amser angen recriwtio mwy o bobl sydd eisoes yn meddu ar sgiliau Cymraeg. Bydd cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y gymdeithas yn hwyluso hyn, yn enwedig wrth i fwy o ddisgyblion adael yr ysgol gyda gwell sgiliau.

  4. Technoleg

    Byddwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio technoleg i hwyluso pobl i weithio yn y Gymraeg. Rydym hefyd yn bwriadu gwneud gwell defnydd o dechnoleg i gynhyrchu deunyddiau Cymraeg, heb i’r deunyddiau hynny orfod cael eu hanfon at ein gwasanaethau cyfieithu bob tro, o angenrheidrwydd.

O ran dymuniad Llywodraeth Cymru i ddod yn sefydliad sy’n dangos esiampl, rydym eisoes wedi ymrwymo i “arwain drwy esiampl” cyn belled ag y bo ein defnydd mewnol o’r Gymraeg yn y cwestiwn. Golyga hyn fod yn rhaid i ni ystyried mentrau sydd eisoes ar y gweill gan gyrff cyhoeddus eraill. Mae’r broses ar gyfer pennu’r camau gweithredu ym Mhennod 3 wedi’i llywio gan ddadansoddiad cymharol, ac mae mwyafrif y camau’n ailadrodd arferion da sydd eisoes ar waith mewn mannau eraill yng Nghymru (neu’n rhyngwladol).

Mae llywodraethau a sefydliadau eraill mewn sawl gwlad eisoes yn gweithredu’n ddwyieithog (neu hyd yn oed yn amlieithog), ac nid yw’r hyn a gynigiwn ar gyfer Llywodraeth Cymru yn unigryw o bell ffordd. Mewn gwledydd fel Canada, Gwlad Belg, Gwlad y Basg a’r Swistir, caiff gweithio mewn dwy neu fwy o ieithoedd ei ystyried fel rhywbeth arferol ac mae’n rhan hanfodol o lywodraeth fodern, gynrychiadol. Mae hefyd wedi bod yn nodwedd bwysig mewn sefydliadau Ewropeaidd.

3. Gweithredu: amcan a chamau gweithredu ar gyfer 2020 i 2025

Gweler isod y camau y dylid eu cymryd er mwyn bodloni’r amcan cychwynnol ar gyfer pum mlynedd gyntaf y strategaeth – sef dod yn sefydliad sy’n dangos esiampl o safbwynt cynyddu’r defnydd o’r iaith pan gawn ein hasesu yn erbyn sefydliadau cymaradwy yn sector cyhoeddus Cymru. Maent hefyd yn cyfrannu at y nod tymor hwy o ddod yn sefydliad dwyieithog.

Cam gweithredu 1: Datblygu cyfleoedd newydd, gwell ac arloesol i ddysgu’r Gymraeg

(Thema: dysgu)

Byddwn yn datblygu dewis arloesol a phellgyrhaeddol mewn perthynas â hyfforddiant. Bydd hyn yn hyrwyddo gwerth y Gymraeg i’r sefydliad, ac yn cynnig rhaglen hyblyg i’r staff ar gyfer mynd i’r afael ag anghenion sefydliadol y cytunwyd arnynt. Bydd y rhaglen yn cydnabod y ffaith fod pobl yn dysgu’n wahanol trwy gynnig dewis o ddulliau dysgu, yn cynnwys dosbarthiadau wyneb yn wyneb, e-ddysgu, sgyrsiau anffurfiol mewn grŵp, mentora a rhwydweithiau ar-lein. Bydd hyn yn cynorthwyo’r sefydliad i symud tuag at y model dysgu a datblygu cyfunol 70:20:10. Bydd hyn ar gael i’r holl staff, waeth be fo natur eu swyddi, gan fod y Gymraeg yn angen busnes ar draws y sefydliad.

Fel cam cyntaf, bydd yr hyfforddiant a gynigir ar hyn o bryd yn cael ei werthuso er mwyn deall yr hyn y bydd angen ei addasu i gefnogi’r strategaeth. Wrth sicrhau y bydd cymorth digonol i’w gael, byddwn yn gweithio’n agos gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar arferion gorau a gwersi a ddysgwyd mewn mannau eraill. Rhoddir dull systematig ar waith o ymdrin â’r holl hyfforddiant Cymraeg, wedi’i seilio ar gynlluniau dysgu a gaiff eu teilwra ar gyfer unigolion, lle ceir targedau penodol, yn cynnwys targedau cysylltiedig â’r gwaith pan fo hynny’n briodol – rhywbeth a fydd yn galluogi rheolwyr i gyfrannu at y broses. Rhoddir pwyslais cryf ar sicrhau cyfleoedd i ddefnyddio sgiliau Cymraeg newydd yn y gweithle. Bydd cyfleoedd i ymarfer mewn cyd-destun llai ffurfiol yn cael eu creu, a byddwn yn ystyried sut bydd modd ategu dysgu yn yr ystafell ddosbarth gyda chyfleoedd ymarferol i ddefnyddio’r iaith fel rhan o waith bob dydd.

Cam gweithredu 2: Datblygu, caboli a darparu hyfforddiant yn ymwneud ag ymwybyddiaeth iaith critigol, wedi’i deilwra ar gyfer y rhai mewn swyddi arwain

(Themâu: dysgu ac arwain)

Ar hyn o bryd mae Academi Wales ac Is-adran y Gymraeg yn cydweithio ar brosiect peilot o’r enw Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog. Mae’n cyd-fynd â Fframwaith Ymddygiad Arwain Academi Cymru, a bydd yn caniatáu i uwch-arweinwyr drafod sut byddant yn datblygu diwylliant sefydliadol sy’n cefnogi dwyieithrwydd ac yn hyrwyddo’r arfer o brif ffrydio’r Gymraeg wrth lunio polisïau. Byddwn yn gwerthuso ac yn caboli’r ddarpariaeth hon gyda’r nod o gael holl uwch-arweinwyr Llywodraeth Cymru i gymryd rhan ynddi.

Cam gweithredu 3: Newid y meini prawf derbyn ar gyfer dysgu ffurfiol yn y Gymraeg

(Themâu: arwain a dysgu)

Ar hyn o bryd rhaid i’r staff ddangos “angen busnes” wrth wneud cais am hyfforddiant ffurfiol yn y Gymraeg. Yn y dyfodol, bydd sgiliau Cymraeg bob amser yn cael eu cydnabod fel angen busnes ar draws y sefydliad. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd modd i reolwyr llinell wrthod ceisiadau am hyfforddiant, a dim ond yn y byrdymor.

Bydd yr arfer o osod amcanion dysgu rhesymol ac ymarferol yn cael ei hadolygu, a bydd rheolwyr llinell yn cael eu hatgoffa o’r angen i gefnogi’r ymrwymiad i hyfforddiant. Bydd llwyddiannau dysgwyr yn cael eu cydnabod fel rhan o broses rheoli perfformiad ‘Dewch i Drafod’.

Cam gweithredu 4: Cynyddu’r defnydd o fentoriaid Cymraeg

(Themâu: arwain a dysgu)

Bydd y rhwydwaith mentora’n cael ei adfywio er mwyn sicrhau bod ganddo ddigon o gapasiti i gefnogi’r broses ddysgu (yn ychwanegol at gyfleoedd anffurfiol eraill i ddefnyddio ac ymarfer sgiliau).

Cam gweithredu 5: Datblygu offeryn llywodraethu i fesur prif ffrydio polisïau’r Gymraeg, cydymffurfiaeth â’r gyfraith a defnydd o’r iaith

(Thema: arwain)

Nid yw prif ffrydio’r Gymraeg, yn unol ag ymrwymiad y Prif Weinidog, yn fater syml. Byddwn yn ystyried a ddylem gyflwyno model llywodraethu tebyg i “Fodel Aeddfedrwydd Ieithoedd Swyddogol” Llywodraeth Canada, sydd â’r bwriad o sicrhau cydraddoldeb mewnol ar gyfer y Saesneg a’r Ffrangeg. Gellid defnyddio’r dull hwn hefyd i fonitro ein rhwymedigaethau cyfreithiol.

Cam gweithredu 6: Adolygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i swyddi presennol, gyda golwg ar gynyddu’n raddol nifer y staff dwyieithog sy’n ymuno â Llywodraeth Cymru

(Themâu: recriwtio ac arwain)

Erbyn hyn, nid yw’r ymadrodd “nid yw sgiliau Cymraeg yn angenrheidiol”, a ddefnyddir wrth hysbysebu swyddi, yn adlewyrchu gofynion nac ethos y sefydliad. Fel gofyn sylfaenol ar gyfer pob swydd, dylid defnyddio yn ei le eiriad sy’n pwysleisio bod sgiliau Cymraeg yn ased i Lywodraeth Cymru.

Ymhellach, bydd y broses sydd ar waith i asesu a chategoreiddio’r lefel sgiliau angenrheidiol ar gyfer pob swydd yn cael ei hadolygu. Bydd y broses hon yn cael ei diwygio er mwyn sicrhau ei bod yn adlewyrchu anghenion Llywodraeth Cymru, ac er mwyn sicrhau y bydd rheolwyr llinell yn rhoi ystyriaeth briodol i sgiliau Cymraeg. Fel yn awr, fe fydd rhai swyddi, oherwydd eu natur, angen sgiliau Cymraeg o’r cychwyn cyntaf – a byddwn yn ailasesu a ddylid dynodi mwy o swyddi yn y ffordd hon.

Cam gweithredu 7: Yn raddol, cyflwyno lefel “cwrteisi” sylfaenol ar gyfer sgiliau Cymraeg

(Themâu: arwain, dysgu a recriwtio)

Bydd yr holl swyddi a hysbysebir gan Lywodraeth Cymru yn mynnu y bydd yr ymgeiswyr yn gallu dangos lefel “Cwrteisi” sylfaenol fan leiaf o safbwynt sgiliau Cymraeg, o fewn amserlen y cytunir arni. Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddangos y sgiliau hynny naill ai ar adeg eu penodi neu o fewn amserlen briodol y cytunir arni yn ystod eu cyfnod prawf (fel arfer, o fewn chwe mis i gychwyn yn y swydd).

Caiff lefel ‘cwrteisi’ yn y Gymraeg ei diffinio fel y gallu i wneud y canlynol:

  • ynganu geiriau, enwau, enwau lleoedd a thermau Cymraeg;
  • ateb y ffôn yn ddwyieithog, cyfarch pobl neu gyflwyno pobl yn ddwyieithog;
  • mynd ati’n rhagweithiol i ddeall a defnyddio ymadroddion bob dydd a geiriau allweddol syml yn ymwneud â’r gweithle;
  • darllen a deall testunau byr sy’n cynnwys gwybodaeth sylfaenol, er enghraifft mewn gohebiaeth, neu ddehongli cynnwys trwy ddefnyddio’r dechnoleg sydd ar gael;
  • dangos ymwybyddiaeth ieithyddol – sy’n cynnwys y gallu i werthfawrogi pwysigrwydd yr iaith o fewn y gymdeithas ac ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n ofynnol er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog i’r cwsmer.

Byddwn yn rhoi gwybod i’r holl ymgeiswyr am ethos dwyieithog y sefydliad, ynghyd â’r gofynion, cyn iddynt ymgeisio am swyddi trwy sicrhau y bydd ‘Penodi’ (neu unrhyw system arall a ddaw yn ei lle), ynghyd â’r canllawiau recriwtio, yn cynnwys yr wybodaeth berthnasol. Ym mhob achos (ac eithrio pan fydd sgiliau Cymraeg yn hanfodol), byddwn yn sicrhau bod yr ymgeiswyr yn deall na fydd methu â dangos y sgiliau adeg eu penodi yn eu rhwystro rhag ymgeisio am y swydd. Ond byddwn yn nodi’r gofynion yn glir ac yn pwysleisio bod cymorth ar gael i sicrhau y bydd modd dysgu’r sgiliau o fewn amserlen briodol y cytunir arni. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy gyfrwng cwrs cynefino sylfaenol yn ymwneud â’r Gymraeg, a fydd yn cynorthwyo staff newydd i gyrraedd y lefel ‘cwrteisi’ sylfaenol yn y Gymraeg, fel y’i diffinnir uchod. Bwriedir i hyn fod yn fan cychwyn ar gyfer proses o welliant parhaus mewn perthynas â sgiliau Cymraeg – proses a gefnogir gan hyfforddiant a chyfleoedd datblygu eraill.

Bydd yr angen i ddangos lefel ‘cwrteisi’ yn y Gymraeg yn cael ei gyflwyno’n raddol ar draws y sefydliad yn ystod y pum mlynedd gyntaf – rhywbeth a fydd yn cychwyn gyda’r Uwch Wasanaeth Sifil. Unwaith eto, dyma fan cychwyn ar gyfer proses o welliant parhaus mewn perthynas â’n sgiliau Cymraeg.

Cam gweithredu 8: Cynyddu’r defnydd a wneir o adnoddau TGCh Cymraeg a datblygu profiad didrafferth i ddefnyddwyr

(Themâu: technoleg a dysgu)

Byddwn yn sicrhau y gall staff sy’n siarad Cymraeg gael mynediad at ryngwynebau Cymraeg ar gyfer y dechnoleg a ddefnyddiwn, heb iddynt orfod gofyn yn benodol am hynny. Trwy ddisgwyl i aelodau staff unigol ofyn am ddarpariaeth TGCh Gymraeg yn hytrach na chynnig y ddarpariaeth iddynt yn rhagweithiol, byddem yn parhau â’r sefyllfa sydd gennym ar hyn o bryd: sefyllfa lle mae mwyafrif y staff Cymraeg eu hiaith â rhyngwynebau TGCh Saesneg - dengys ymchwil yn y maes gwyddorau ymddygiadol fod pobl yn tueddu i ‘ddilyn y llif’ neu dderbyn yr opsiwn rhagosodedig a roddir iddynt (mae mwyafrif meddalwedd y DU, heb iddi gael ei haddasu’n benodol, yn rhagosod i’r Saesneg). Bydd symud oddi wrth sefyllfa lle mae’r Saesneg wedi’i rhagosod yn rhoi llawer mwy o ‘amser cyswllt’ â’r Gymraeg i siaradwyr Cymraeg, ac ni fydd yn effeithio ar iaith pa bynnag gynnwys mae staff unigol yn gweithio arno ar unrhyw adeg. Wrth gwrs, ni fydd hyn yn cael unrhyw effaith ar ddarpariaeth TGCh yr aelodau staff hynny nad ydynt yn dymuno siarad Cymraeg.

O ran cymwysiadau digidol a gaiff eu datblygu neu eu caffael at ddefnydd staff mewnol, byddwn yn sicrhau eu bod ar gael yn ddwyieithog yn awtomatig, pa bryd bynnag y bo hynny’n ymarferol. Hefyd, byddwn yn cynnwys cyngor ynghylch gofynion y Gymraeg yn y broses o gael cymeradwyaeth i gaffael gwasanaethau digidol newydd, ar gyfer staff a defnyddwyr allanol, trwy Fwrdd yr Awdurdod Cynllunio Atebion TG.

Cam gweithredu 9: Adolygu sut a phryd yr ydym yn defnyddio cyfieithu

(Themâu: arwain, dysgu a thechnoleg)

Mae ein Gwasanaeth Cyfieithu yn cynnig gwasanaeth amhrisiadwy i Lywodraeth Cymru, ac ni fyddai ein hymrwymiadau na’n huchelgais mewn perthynas â’r Gymraeg yn cael eu bodloni heb y gwasanaeth hwn. Fodd bynnag, mae cael gwasanaeth o’r fath yn golygu bod modd i’r Gymraeg gael ei hadranoli yn hytrach na’i phrif ffrydio. Gellid defnyddio’r sgiliau arbenigol sydd gennym – yn rhannol, o leiaf – i hwyluso mwy o bobl o bob rhan o’r sefydliad i ddefnyddio mwy ar y Gymraeg.

Er mwyn defnyddio mwy ar y Gymraeg yn y gweithle, byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu ffyrdd newydd o gynorthwyo pobl i lunio testun dwyieithog. Ein bwriad yw ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a llunio deunyddiau Cymraeg perthnasol heb iddynt orfod anfon y gwaith at y gwasanaethau cyfieithu bob amser. Er enghraifft, fe allai hyn olygu y bydd y Gwasanaeth Cyfieithu’n cynnig mwy o wasanaethau golygu a llai o wasanaethau cyfieithu.

Byddwn hefyd yn ystyried awtomeiddio a thechnoleg cyfieithu ddatblygol er mwyn sicrhau bod ein gweithgareddau cyfieithu i gyd – y rhai a gaiff eu gwneud yn fewnol, a hefyd y rhai a anfonir yn allanol – yn cael eu cwblhau yn y ffordd fwyaf effeithlon.

Cam gweithredu 10: Rhoi prosiectau peilot ar waith er mwyn ystyried y ffyrdd gorau o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd yn y gweithle, ar draws Llywodraeth Cymru

(Themâu: arwain a thechnoleg)

Bydd cyfres o brosiectau peilot yn cael eu dyfeisio, eu gweithredu a’u gwerthuso er mwyn ystyried y ffyrdd gorau o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn lleoliadau daearyddol ac mewn timau neu rwydweithiau sydd eisoes â chyfran uchel o staff sy’n meddu ar sgiliau Cymraeg. Fel rhan o’r fenter hon byddwn yn ystyried sut i wneud y defnydd gorau o bobl oddi mewn i’r sefydliad sydd eisoes yn meddu ar sgiliau Cymraeg, yn ogystal â dod o hyd i ffyrdd o leihau’r rhwystrau rhag defnyddio’r Gymraeg. Gall hyn gynnwys materion fel y ffordd y caiff ymatebion i Gwestiynau’r Senedd a gohebiaeth weinidogol eu comisiynu a sut byddwn yn trefnu ein timau.

4. Proses: dadansoddi ystadegol ac adolygu

Y trywydd hyd at 2050: adolygiad a cherrig milltir pum mlynedd

Elfen bwysig o’n cylch adolygu dros y cyfnodau pum mlynedd hyd nes cyrraedd 2050 fydd dadansoddi ystadegol. Mae model yn cael ei ddatblygu er mwyn ein galluogi i fynd ati’n well i asesu lefelau presennol y sgiliau Cymraeg (er enghraifft, ystyried demograffeg y sgiliau hynny, eu gradd a’u lleoliad), ac yna ystyried graddfa’r newid sydd ei angen er mwyn cyrraedd nod 2050. Bydd y model yn asesu’r trywydd y bydd yn rhaid i ni ei ddilyn rhwng nawr a 2050. Y man cychwyn fydd sefydlu llinell sylfaen trwy ystyried beth fyddai’n digwydd pe na bai arferion a pholisïau presennol yn cael eu newid o gwbl. Bydd hyn yn sylfaen i offeryn a fydd yn asesu graddfa’r gwelliant sydd ei angen er mwyn cyrraedd y nod. Bydd yr offeryn yn asesu cyfradd y gwelliant mewn dysgu (h.y. y gyfradd sy’n angenrheidiol ar gyfer gweld cynnydd mewn deall Cymraeg o leiaf) a’r cynnydd net sy’n angenrheidiol mewn sgiliau Cymraeg rhwng y rhai sy’n gadael Llywodraeth Cymru a’r rhai sy’n ymuno â’r sefydliad.

Ar hyn o bryd, gall 23.6% o weithlu Llywodraeth Cymru ddeall Cymraeg (Lefelau 3 i 5). Ar y lefelau hyn, gall unigolyn ddeall mwyafrif y sgyrsiau sy’n gysylltiedig â’r gwaith, neu bob sgwrs o’r fath, fan leiaf. Ymhellach, mae 10% yn ychwaneg ar Lefel 2 ar hyn o bryd (sy’n golygu y gallant ddeall sgyrsiau elfennol am bynciau bob dydd), ac mae ganddynt y potensial i symud yn eu blaen i Lefel 3. Bydd y trywydd yn asesu’r cynnydd i lefel 3 ac uwch, ynghyd â’r buddsoddiad cyfatebol y bydd ei angen mewn hyfforddiant Cymraeg er mwyn cyflawni hynny.

Byddwn yn gosod targedau ar gyfer gwella’r ffigurau hyn, yn seiliedig ar y trywydd angenrheidiol. Bydd y rhain yn cael eu hadolygu ar ddiwedd pob cyfnod pum mlynedd, hyd nes cyrraedd 2050.

Newid polisïau

Er mwyn adlewyrchu’r strategaeth fe fydd angen cyflwyno newidiadau i bolisïau Adnoddau Dynol. Bydd hyn yn cael ei wneud trwy newid polisïau penodol sy’n bodoli eisoes, yn arbennig polisïau’n ymwneud â recriwtio a hyfforddi. Yn unol â’r egwyddor “prif ffrydio”, ni fydd yna bolisi ar wahân ar gyfer y Gymraeg, ac yn yr un modd bydd y strategaeth hon yn ffurfio rhan o strategaeth pobl ehangach Llywodraeth Cymru.

5. Cefndir: Polisi’r Gymraeg a’r cyd-destun cyfreithiol

Hanes

Mae llawer ohonom yn anghyfarwydd â hanes y Gymraeg. Mae’r hanes hwn yn berthnasol, oherwydd digwyddiadau’r gorffennol sy’n gyfrifol am bennu cyd-destun llawer o’r hyn yr anelwn at ei wneud yn y dyfodol.

Daeth y Gymraeg i’r amlwg oddeutu 1500 o flynyddoedd yn ôl. Esblygodd o’r Frythoneg, a gâi ei siarad ar draws Prydain. Câi’r Gymraeg ei siarad gan holl drigolion Cymru fwy neu lai tan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda mwyafrif llethol y bobl yn uniaith Gymraeg. Er gwaethaf y “Deddfau Cyfreithiau yng Nghymru” gan Harri VIII yn 1535 ac 1542 – a aeth ati i wahardd defnyddio’r Gymraeg yn y llysoedd a mynnu y dylai pobl mewn swyddi cyhoeddus yng Nghymru allu siarad Saesneg – dim ond yn gymharol ddiweddar y daeth y Saesneg yn iaith y mwyafrif yng Nghymru. Cofnododd cyfrifiad 1911 ddirywiad yn nifer y bobl a siaradai’r iaith – sef llai na 50% o’r boblogaeth am y tro cyntaf. Ond er gwaethaf y gyfran is o siaradwyr Cymraeg, roedd cynnydd yn y boblogaeth yn golygu bod 1911 hefyd yn uchafbwynt yn nifer y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd – sef bron i filiwn o bobl. Ers hynny, gwelwyd dirywiad cyson, ac yn ôl cyfrifiad 2011 roedd cyfran y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi gostwng i 19%.

Ar ôl y Deddfau Cyfreithiau yng Nghymru, arhosodd statws swyddogol y Gymraeg yr un fath am bedair canrif. Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 1938 lansiwyd deiseb yn mynnu statws cyfartal i’r Gymraeg. Casglwyd mwy na 250,000 o lofnodion a chafodd yr egwyddor ei chefnogi gan 30 o blith 36 Aelod Seneddol Cymru. Yn y pen draw, arweiniodd hyn at ddiddymu Deddf 1535 yn rhannol gan Ddeddf Llysoedd Cymru 1942. Ond bu’n rhaid aros tan ffurfio’r Swyddfa Gymreig yn yr 1960au a phasio Deddfau’r Iaith Gymraeg yn 1967 ac 1993 cyn i unrhyw gamau rhagweithiol gael eu cymryd i ddiogelu neu hyrwyddo’r iaith.

Gofynion statudol

Yr unig beth a ragamodwyd yn Neddf 1967 oedd ymestyn yr amgylchiadau lle gellid defnyddio’r Gymraeg yn y llysoedd a chaniatáu’r arfer o ddefnyddio ffurflenni statudol Cymraeg. Ond aeth ati hefyd i ddiddymu Deddf Cymru a Berwick 1746, a ddiffiniodd Lloegr fel rhywle a oedd yn cynnwys Cymru. Bu’n rhaid aros tan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 cyn cael polisïau mwy pellgyrhaeddol. Yn Neddf 1993 – y mae rhannau ohoni mewn grym hyd heddiw – cafodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ei sefydlu, a mynnwyd y dylai cyrff cyhoeddus arbennig weithredu’r egwyddor y dylai’r Gymraeg a’r Saesneg gael eu trin yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru (“cyn belled ag y mae’n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol”). Ymhellach, fe’i gwnaed yn ofynnol i gyrff baratoi cynlluniau iaith Gymraeg yn nodi’r camau y byddent yn eu cymryd o safbwynt defnyddio’r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd.

Mae cynlluniau iaith Gymraeg yn dal i fodoli, ond yn raddol cânt eu disodli gan system “Safonau’r Gymraeg” a roddwyd ar waith gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Roedd Mesur 2011 yn bwysig, oherwydd rhoddodd statws swyddogol i’r Gymraeg, a chaiff ei seilio ar yr egwyddor na ddylai’r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae’r Safonau’n nodi gofynion mae’n rhaid eu bodloni o safbwynt y Gymraeg. Mewn gwirionedd, cyfres o hawliau’n ymwneud â defnyddio’r iaith ydynt. Yn arbennig, mae’r Safonau’n ymwneud â darparu gwasanaethau i’r cyhoedd, ond maent yn berthnasol hefyd i ddatblygu polisïau cyhoeddus a gweinyddiaeth fewnol cyrff cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru lunio polisïau’n ymwneud â defnyddio’r Gymraeg yn fewnol “gyda’r bwriad o hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg”.

O ganlyniad i’r fframwaith deddfwriaethol hwn, mae Llywodraeth Cymru bellach yn mynd ati’n rheolaidd i ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau i bobl Cymru, yn y Gymraeg a’r Saesneg. O safbwynt gweithredol, rhaid i Lywodraeth Cymru fod â’r capasiti i gydymffurfio â’r dyletswyddau statudol yma, ac mae sgiliau ein staff yn hanfodol i hyn.

Polisi’r Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwneud mwy i ddiogelu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru. Er mwyn cyflawni’r nod hwn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth iaith Gymraeg newydd yn 2017: “Cymraeg 2050 – Miliwn o siaradwyr Cymraeg”. Mae un o elfennau pwysig y strategaeth yn ymwneud â’r gweithle. Mae cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, a’r cyfleoedd gwell o ran gyrfa a fydd yn deillio o feddu ar sgiliau Cymraeg, yn rhan hanfodol o’r sail resymegol dros ddysgu Cymraeg. Yn ogystal ag ymrwymo Llywodraeth Cymru i arwain trwy esiampl trwy hybu a hwyluso ein gweithlu i ddefnyddio mwy ar y Gymraeg, mae’r Strategaeth yn nodi’r canlynol:

“…mae angen arweinyddiaeth gref ac amlwg ar draws pob sector i ymgorffori dwyieithrwydd yn rhan naturiol o’r gweithle – nid yn unig i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth, ond hefyd er mwyn sicrhau newid mewn diwylliant lle mae’r manteision o gael gweithlu o fewn yr economi sy’n gynyddol ddwyieithog yn cael eu cydnabod. Mae’r gweithle’n ganolog i’n bywydau bob dydd ac yn bwysig o ran datblygiad ieithyddol unigolion… mae’r gweithle’n gyfle i ddefnyddio, ymarfer a dysgu’r Gymraeg. Felly, byddwn yn rhoi mwy o bwyslais ar y gweithle fel lleoliad strategol ar gyfer hybu a hwyluso cynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg.”

Caiff yr ymrwymiad cryf hwn ei adlewyrchu yn y cyfeiriad gwleidyddol a gafwyd gan y Prif Weinidog presennol, Mark Drakeford, yn ei faniffesto i ddod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru.

Cyfeiriodd y maniffesto at ei fwriad i brif ffrydio’r arfer o hybu a datblygu Cymraeg trwy holl weithgareddau’r llywodraeth, ar lefel Llywodraeth Cymru ac ar lefel llywodraeth leol.

Mae hyn yn ymwneud nid yn unig â’n polisïau a’n gwasanaethau ‘cyhoeddus’, ond hefyd â’r modd yr ydym yn gweithio fel sefydliad.

Cyd-destun ehangach

Mae'r strategaeth hefyd yn rhan o ddyheadau cysylltiedig, ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer ein gweithlu ac ar gyfer pobl Cymru gyfan. Mae iaith Gymraeg lewyrchus a chymunedau cydlynus ymhlith ein nodau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a dylai newidiadau i'n Cwricwlwm Cenedlaethol sicrhau yn y pen draw bod 40% o'n plant yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda'r gweddill hefyd yn gadael yr ysgol gyda sgiliau iaith Gymraeg lefel uchel. Mae cydberthynas rhwng y mentrau hyn a sut rydym yn datblygu ein gweithlu (a gweithlu gwasanaeth cyhoeddus Cymru yn fwy cyffredinol). Mae'r strategaeth yn rhan o'n Strategaeth Pobl drosgynnol a fydd (ymhlith pethau eraill) yn ceisio sicrhau bod gennym bresenoldeb cryf ledled Cymru – gan adlewyrchu'r cymunedau a wasanaethir gennym – a dull mwy cydlynus ac integredig o weithio ar draws y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.