Ydy patrwm defnydd dy blentyn o’r Gymraeg wedi newid yn ddiweddar?
Yr Athro Enlli Thomas, Dirprwy Is-ganghellor Cysylltiol–Dysgu ac Addysgu (Cyfrwng Cymraeg) ym Mhrifysgol Bangor, sy’n sôn am sut ry’n ni i gyd yn defnyddio, cadw ac yn adfywio’n sgiliau iaith.
Mae dysgu iaith yn para oes—‘da ni’n dysgu geiriau newydd bob dydd.
Sawl un ohonon ni oedd wedi clywed y gair ‘furlough’ cyn 2020? Neu wedi defnyddio’r gair ‘noughties’ yn Saesneg—neu hyd yn oed wedi meddwl am sut gallen ni sôn am y blynyddoedd rhwng 2000 a 2009 - cyn baglu dros ‘twenty hundreds’?
Mae’r ymennydd yn gartref i ‘eiriadur’ y meddwl—y llyfrgell unigryw o eiriau sy gan bob un ohonon ni, sy’n storio’r holl eiriau ‘da ni’n eu gwybod.
Mae’r storfeydd hyn yn wahanol i bob un ohonon ni, ac yn dibynnu ar yr iaith neu ieithoedd ‘da ni’n dod ar eu traws. A maen nhw’n tyfu’n barhaus wrth i ni ddysgu geiriau newydd.
“Does dim diwedd ar ddysgu geiriau. Mae’n digwydd bob dydd, ac mae’n parhau am byth”
Ar gyfartaledd, mae oedolion sy’n siarad un iaith yn unig yn adnabod rhwng 40,000 and 50,000 o eiriau yn yr iaith honno. Ac mae’r geiriau hynny’n cael eu dysgu’n bennaf un wrth un. Os am wybod gair mae’n rhaid dod ar draws y gair hwnnw mewn rhyw gyd-destun neu’i gilydd neu fod â’r angen i chwilota am air newydd er mwyn mynegi rhywbeth ble nad yw’r geiriau hynny ar gael gan y siaradwr. Dyna sut mae eitemau newydd yn mynd yn rhan o’n geirfa ni drwy’r amser. Ac mae geiriau yn gallu newid ystyr hefyd.
Cymer y gair ‘sick’ yn Saesneg. I lawer o bobl, mae’r gair yma’n sbarduno teimladau negyddol—iddyn nhw, buasai rhywun ‘sick’ angen mynd at y doctor. Ond, i bobl ifanc heddiw mae’n golygu bod rhywbeth yn ‘wych’. Cyferbyniad llwyr! Ond dyna natur ddiddorol a deinamig iaith.
Pethau byw ydi ieithoedd. Maen nhw’n addasu; maen nhw’n newid. Ac maen nhw’n bodoli, wrth gwrs, drwy’r bobl hynny sy’n gallu eu siarad. Mae rhai siaradwyr yn dod i gysylltiad yn rheolaidd ag iaith, gartref, yn yr ysgol, yn y gwaith neu yn y gymuned. Bydd siaradwyr eraill yn dod i gysylltiad yn rheolaidd â dwy iaith. Ond i’r rhan fwyaf ohonon ni, bydd pa mor aml ‘da ni’n dod i gysylltiad ag un iaith neu fwy yn amrywio. Dyna pam mae maint geirfa unrhyw un sy’n ddwyieithog—fel dy blant di os ydyn nhw mewn addysg Gymraeg—yn tueddu i fod yn wahanol ym mhob iaith ar wahanol oedrannau.
Ond pan da ni’n cyfri faint o bethau yn y byd y mae gan berson dwyieithog air ar ei gyfer (beth mae ymchwilwyr yn ei alw’n ‘wybodaeth am eirfa gysyniadol’ neu ‘conceptual vocabulary knowledge’) mae eu geirfaoedd yn aml yn fwy na pherson sydd ond yn siarad un iaith.
Ond gall rhai pobl ddwyieithog golli cysylltiad ag iaith am wahanol resymau, gan gynnwys wrth symud i fyw i ardal neu wlad lle nad ydy’r iaith yn cael ei defnyddio neu pan fod yna newidiadau yn digwydd i ddynameg y teulu. Efallai nad ydy’r Gymraeg wedi bod yn rhan o batrwm diwrnod dy blant yn yr un ffordd yn ystod cyfnod y clo ac y mae hi fel arfer. Ond mae unrhyw iaith sydd ganddon ni yn aros efo ni—dydy hi byth yn cael ei dileu o’n pennau ni’n llwyr.
Mae gan yr ymennydd allu anhygoel i gadw ac aildanio gwybodaeth. Er enghraifft, roedd oedolion a ddysgodd Sbaeneg yn yr ysgol, er na wnaethon nhw erioed ei defnyddio wedyn, yn gallu cofio darnau o eirfa Sbaeneg, hyd yn oed 50 mlynedd yn ddiweddarach. Ac mae 50 o flynyddoedd yn amser hir o’i gymharu â misoedd y cyfnod clo ‘ma!
Ac mae adnewyddu iaith sydd eisoes efo ti, os nad ydy hi wedi bod yn rhan o batrwm dy ddiwrnod yn ddiweddar, lot cyflymach na’i dysgu yn y lle cyntaf. Mae’r cyfan dal yn y cof!
Y cyfan sydd ei angen i aildanio sgiliau iaith yw’r amgylchedd cywir. Mae ysgolion yn cynnig amgylchedd perffaith i ddarparu’r profiadau dysgu mae plant eu hangen i wneud cynnydd, ail-diwnio ac ail-gysylltu â’u Cymraeg.
Darllen pellach:
Oller, D. K. (2005). “The Distributed Characteristic in Bilingual Learning.” Yn J. Cohen, K T. McAlister, K. Rolstad, & J. MacSwan (golygyddion), Proceedings of the 4th International Symposium on Bilingualism, 1744-1749. Somerville, MA: Cascadilla Press.
Brysbaert. M., Stevens. M., Mandera. P., & Keuleers, E. (2016). “How Many Words Do We Know? Practical Estimates of Vocabulary Size Dependent on Word Definition, the Degree of Language Input and the Participant’s Age”. Frontiers in Psychology, 7 (1116).
Aitchison, J. (2012). Words in the mind: An introduction to the mental lexicon (4ydd Argraffiad.). Malden, MA: Wiley.
Bahrick, H. P., Hall, L. K., Goggin, J. P., Bahrick, L. E., & Berger, S. A. (1994). “Fifty years of language maintenance and language dominance in bilingual Hispanic immigrants.” Journal of Experimental Psychology: General, 123(3), 264-283
Bahrick, H. (1984). “Fifty years of second language attrition: Implications for programming research.” Modern Language Journal, 68, 105-111.